5. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Las

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:55, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn hollol iawn. Yn fy nhrafodaethau cynnar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, nodwyd yr union fater hwn fel ystyriaeth â blaenoriaeth, oherwydd rhaid inni sicrhau mai’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf yw’r ardaloedd lle y ceir yr enillion cyflymaf o ran gallu dod â’r gymuned gyfan a’r holl ystyriaethau gyda hwy.