Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 22 Mawrth 2017.
Ni waeth sut y gwnaethom bleidleisio yn y refferendwm, ni waeth beth yw ein cysylltiadau gwleidyddol, mae’n rhaid i ni fod yn unedig wrth gynrychioli buddiannau Cymru wrth i broses Brexit ddechrau o ddifrif. Mae’n amlwg i mi fod ein llais mewn perygl o gael ei golli ymysg y nifer o leisiau sy’n galw am sylw mewn perthynas â’r materion heddiw. Fel Cynulliad, ni allwn adael i hynny ddigwydd. Mae’r broses o adael yr UE yn esblygu’n gyflym, ac nid oes ond angen i ni dynnu sylw at y cyhoeddiad ddydd Llun y bydd erthygl 50 yn cael ei sbarduno ddydd Mercher nesaf i ddangos y ffaith honno. Ni fu’r dasg a roddwyd i’r pwyllgor o geisio canfod sut y gallwn ddiogelu buddiannau Cymru erioed yn bwysicach wrth i ni symud at y trafodaethau a thu hwnt.
Lywydd—Ddirprwy Lywydd—mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw eisoes wedi chwarae rôl sylweddol yn cynrychioli materion sydd o bwys i Gymru ochr yn ochr â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi dechrau ar y dasg o ddisgrifio’r tasgau sydd o’n blaenau fel Cynulliad. Nid ein gwaith oedd ailgynnal dadl y refferendwm; ein gwaith fu canolbwyntio ar nodi’r materion sy’n bwysig i Gymru wrth i ni adael yr UE. Nid ymarfer ydoedd i geisio nodi manteision ac anfanteision gadael yr UE; ei ddiben oedd archwilio goblygiadau gadael yr UE i Gymru. Mae ei gryfder yn deillio o’r ffaith ei fod wedi’i gytuno gan bob un o’r wyth aelod o’r pwyllgor, yn cynrychioli pob un o’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad, ac Aelodau a oedd, mewn gwirionedd, ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm. Rwy’n talu teyrnged i’w gwaith a’u gallu i ddod o hyd i gonsensws.
Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o’r gwaith a’r cymorth a ddarparwyd gan y clerc a’i dîm. Manteisiaf ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch yn arbennig i Gregg Jones, cyn bennaeth swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel y mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r UE wedi bod yn amhrisiadwy i’r pwyllgor. Mae gennym olynydd ardderchog i Gregg yn Nia Moss, sy’n parhau’r berthynas ardderchog honno.
Os oedd unrhyw amheuaeth i ddechrau, cadarnhaodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym fod Brexit yn codi materion eang a chymhleth yng Nghymru. Mae’n torri ar draws llawer o feysydd polisi, yn ogystal â chodi cwestiynau cyfansoddiadol sylfaenol am ddatganoli a’r grym dynamig rhwng Llywodraeth y DU, y Senedd, a’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae rhan gyntaf ein hadroddiad yn nodi’r materion sectoraidd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Cymru, gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth o’r heriau cymhleth sy’n wynebu Cymru wrth i’r DU adael yr UE.
Ar economi Cymru, mae’r adroddiad yn canfod y byddai gosod rhwystrau wrth fasnachu gyda’r UE yn peri risgiau sylweddol i economi Cymru. Mae amlygrwydd cymharol y sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, o’i gymharu â gweddill y DU, yn cynyddu gwendid economi Cymru i rwystrau masnachu. Dangosodd y mwyafrif helaeth o’r dystiolaeth a gawsom fod sicrhau masnach rydd ar gyfer y farchnad sengl heb unrhyw dariffau na rhwystrau yn hanfodol bwysig i economi Cymru. Mae’r risg i economi Cymru o delerau gadael sy’n symud i drefniadau Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y pwyllgor yn galw am ffocws ar drefniadau trosiannol ar ôl i ni adael yr UE, rhywbeth y gwn fod Llywodraeth Cymru yn galw amdano hefyd. Bydd hyd yn oed cyfnod cymharol fyr o amser a dreulir o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn niweidio ein sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac nid wyf yn ofni ailadrodd y gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol i economi Cymru. Rhaid i drefniadau trosiannol fod yn ystyriaeth bwysig yn y trafodaethau.
Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol ac yn ffurfio nifer o gasgliadau gyda’r nod o gryfhau rôl Cymru yn y broses, ar lefel Llywodraeth Cymru a lefel y Cynulliad. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r trefniadau craffu y dymunwn eu gweld yn cael eu cymhwyso ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o bob un o ddeddfwrfeydd y DU i edrych ar gydweithio er mwyn cryfhau ein dull ar y cyd o gyflawni’r dasg hon.
Nawr, diolch i’r Llywodraeth am ei hymateb a’i pharodrwydd i ymwneud â gwaith y pwyllgor. Rwy’n gobeithio bod y lefel hon o ymgysylltiad yn mynd i barhau. Cyn siarad am yr argymhellion, hoffwn bwysleisio, er ein bod yn gwneud chwe argymhelliad, ein bod wedi dod i lawer mwy o gasgliadau—oddeutu 60 mewn gwirionedd. Nid wyf yn bwriadu egluro pob un o’r 60, Ddirprwy Lywydd; rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi hynny. Ond rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth a’r Aelodau yn rhoi amser i edrych arnynt.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei safbwynt arni. Mae hyn wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried hyn ac yn gweithredu ar yr argymhelliad i gynnig mwy o dryloywder. Rwy’n ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Llywodraeth yn ei Phapur Gwyn. Fodd bynnag, byddwn yn pwyso am dystiolaeth fanylach, a bydd hyn yn nodwedd, rwy’n meddwl, o graffu parhaus ar Lywodraeth Cymru, i weld beth yw eu safbwynt mewn gwirionedd a’r dystiolaeth y maent yn ei defnyddio.
Mae ein hail a’n trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r newidiadau gweinyddol a wnaeth mewn ymateb i bleidlais y refferendwm a rôl ei swyddfa ym Mrwsel yn y dyfodol—eto, mae’r rhain wedi cael eu derbyn ac unwaith eto, gwerthfawrogir y wybodaeth a ddarparwyd hyd yn hyn. Ond hoffwn bwyso am ragor o wybodaeth ac efallai rhywbeth y gallem edrych arno’n fwy manwl wrth graffu ar y gyllideb yn yr hydref.
Mae ein pedwerydd argymhelliad yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cofrestr risg Brexit ar ein cyfer—unwaith eto, cafodd ei dderbyn mewn egwyddor, ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr allbynnau o’r ymarfer asesu risg newydd sydd i fod i ddechrau ar ôl sbarduno erthygl 50. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ychydig ar hyn yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma.
Roedd argymhelliad 5 yn gofyn am wybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y swm uchaf o arian Ewropeaidd yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio cyn i Brexit digwydd. Mae’r ffigurau a ddarparwyd yn awgrymu bod yna lefel dda o gynnydd yn hyn o beth, er bod rhai cronfeydd mewn sefyllfa well nag eraill. Byddwn yn ystyried y wybodaeth hon ac yn parhau i fonitro cynnydd. Yn ogystal, rydym wrthi’n cynnal ymchwiliad i bolisi rhanbarthol, ac yn gobeithio adrodd ar hynny cyn diwedd mis Mai.
Mae ein chweched argymhelliad, a’r olaf, yn ymwneud â rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau, maes lle y mae ein safbwynt yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol fod gan Lywodraeth Cymru rôl lawn yn y broses o lunio safbwynt negodi’r DU, a chyfranogiad uniongyrchol pan fydd hynny’n ymwneud â phwerau datganoledig neu’n effeithio ar bwerau datganoledig. Er bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r sylwadau hyn i Lywodraeth y DU, rydym yn ymchwilio hefyd i’r lefel o ymgysylltiad a geir rhwng Llywodraeth Cymru a Whitehall. Rydym wedi ysgrifennu at amrywiaeth o adrannau Llywodraeth y DU, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd eisoes wedi darparu ymatebion mewn gwirionedd, ac rydym yn bwriadu asesu’r rhain fel rhan o’n gwaith craffu, a byddwn yn adrodd ar hyn yn y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, mae’n hanfodol fod ein llais yn cael ei glywed ac y gwrandewir arno. Mae gwneud hynny yn amlwg o fudd i Gymru, ond credaf hefyd ei fod o fudd i’r DU yn ehangach. Mae ein cydweithwyr yn yr Alban hefyd wedi mynegi’r un farn, ei bod yn bwysig i’w llais gael ei glywed. Nid ydym yn wahanol. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn, Ddirprwy Lywydd, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.