6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y Goblygiadau i Gymru wrth i Brydain Adael yr Undeb Ewropeaidd

– Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Ni ddetholwyd y gwelliant.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:04, 22 Mawrth 2017

Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd. Galwaf ar David Rees i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6267 David Rees

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i’r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:04, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd, a chynigiaf y cynnig. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi ymuno ag eraill i fynegi fy mhryder ynglŷn â’r digwyddiadau diweddar yn San Steffan a’n gweddïau dros yr aelodau o’r cyhoedd a gwasanaeth yr heddlu sydd wedi cael eu hanafu o ganlyniad i’r weithred hon? Diolch i chi am y sicrwydd a roesoch i ni y prynhawn yma am y camau a gymerwyd yma. Lywydd, sefydlodd y Cynulliad y pwyllgor materion allanol—pwyllgor Brexit Cymru i bob pwrpas—gydag un diben clir: i amddiffyn buddiannau Cymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn y trefniadau sy’n dilyn ar ôl gadael. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, bûm ym Mrwsel, Llundain a Chaeredin yn ystod y mis diwethaf yn ymgysylltu ag Aelodau etholedig, rhanddeiliaid a swyddogion, er mwyn pwysleisio’r materion sydd o bwys i Gymru, ceisio cydweithrediad lle y bo’n briodol, a nodi tensiynau sy’n dod i’r amlwg lle y maent yn bodoli.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:04, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ni waeth sut y gwnaethom bleidleisio yn y refferendwm, ni waeth beth yw ein cysylltiadau gwleidyddol, mae’n rhaid i ni fod yn unedig wrth gynrychioli buddiannau Cymru wrth i broses Brexit ddechrau o ddifrif. Mae’n amlwg i mi fod ein llais mewn perygl o gael ei golli ymysg y nifer o leisiau sy’n galw am sylw mewn perthynas â’r materion heddiw. Fel Cynulliad, ni allwn adael i hynny ddigwydd. Mae’r broses o adael yr UE yn esblygu’n gyflym, ac nid oes ond angen i ni dynnu sylw at y cyhoeddiad ddydd Llun y bydd erthygl 50 yn cael ei sbarduno ddydd Mercher nesaf i ddangos y ffaith honno. Ni fu’r dasg a roddwyd i’r pwyllgor o geisio canfod sut y gallwn ddiogelu buddiannau Cymru erioed yn bwysicach wrth i ni symud at y trafodaethau a thu hwnt.

Lywydd—Ddirprwy Lywydd—mae’r adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw eisoes wedi chwarae rôl sylweddol yn cynrychioli materion sydd o bwys i Gymru ochr yn ochr â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi dechrau ar y dasg o ddisgrifio’r tasgau sydd o’n blaenau fel Cynulliad. Nid ein gwaith oedd ailgynnal dadl y refferendwm; ein gwaith fu canolbwyntio ar nodi’r materion sy’n bwysig i Gymru wrth i ni adael yr UE. Nid ymarfer ydoedd i geisio nodi manteision ac anfanteision gadael yr UE; ei ddiben oedd archwilio goblygiadau gadael yr UE i Gymru. Mae ei gryfder yn deillio o’r ffaith ei fod wedi’i gytuno gan bob un o’r wyth aelod o’r pwyllgor, yn cynrychioli pob un o’r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad, ac Aelodau a oedd, mewn gwirionedd, ar y ddwy ochr i ddadl y refferendwm. Rwy’n talu teyrnged i’w gwaith a’u gallu i ddod o hyd i gonsensws.

Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o’r gwaith a’r cymorth a ddarparwyd gan y clerc a’i dîm. Manteisiaf ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch yn arbennig i Gregg Jones, cyn bennaeth swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel y mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r UE wedi bod yn amhrisiadwy i’r pwyllgor. Mae gennym olynydd ardderchog i Gregg yn Nia Moss, sy’n parhau’r berthynas ardderchog honno.

Os oedd unrhyw amheuaeth i ddechrau, cadarnhaodd y dystiolaeth a gasglwyd gennym fod Brexit yn codi materion eang a chymhleth yng Nghymru. Mae’n torri ar draws llawer o feysydd polisi, yn ogystal â chodi cwestiynau cyfansoddiadol sylfaenol am ddatganoli a’r grym dynamig rhwng Llywodraeth y DU, y Senedd, a’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig. Mae rhan gyntaf ein hadroddiad yn nodi’r materion sectoraidd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Cymru, gyda’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth o’r heriau cymhleth sy’n wynebu Cymru wrth i’r DU adael yr UE.

Ar economi Cymru, mae’r adroddiad yn canfod y byddai gosod rhwystrau wrth fasnachu gyda’r UE yn peri risgiau sylweddol i economi Cymru. Mae amlygrwydd cymharol y sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, o’i gymharu â gweddill y DU, yn cynyddu gwendid economi Cymru i rwystrau masnachu. Dangosodd y mwyafrif helaeth o’r dystiolaeth a gawsom fod sicrhau masnach rydd ar gyfer y farchnad sengl heb unrhyw dariffau na rhwystrau yn hanfodol bwysig i economi Cymru. Mae’r risg i economi Cymru o delerau gadael sy’n symud i drefniadau Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y pwyllgor yn galw am ffocws ar drefniadau trosiannol ar ôl i ni adael yr UE, rhywbeth y gwn fod Llywodraeth Cymru yn galw amdano hefyd. Bydd hyd yn oed cyfnod cymharol fyr o amser a dreulir o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn niweidio ein sectorau gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth, ac nid wyf yn ofni ailadrodd y gallai hyn arwain at ganlyniadau difrifol i economi Cymru. Rhaid i drefniadau trosiannol fod yn ystyriaeth bwysig yn y trafodaethau.

Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol ac yn ffurfio nifer o gasgliadau gyda’r nod o gryfhau rôl Cymru yn y broses, ar lefel Llywodraeth Cymru a lefel y Cynulliad. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r trefniadau craffu y dymunwn eu gweld yn cael eu cymhwyso ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o bob un o ddeddfwrfeydd y DU i edrych ar gydweithio er mwyn cryfhau ein dull ar y cyd o gyflawni’r dasg hon.

Nawr, diolch i’r Llywodraeth am ei hymateb a’i pharodrwydd i ymwneud â gwaith y pwyllgor. Rwy’n gobeithio bod y lefel hon o ymgysylltiad yn mynd i barhau. Cyn siarad am yr argymhellion, hoffwn bwysleisio, er ein bod yn gwneud chwe argymhelliad, ein bod wedi dod i lawer mwy o gasgliadau—oddeutu 60 mewn gwirionedd. Nid wyf yn bwriadu egluro pob un o’r 60, Ddirprwy Lywydd; rwy’n siŵr eich bod yn gwerthfawrogi hynny. Ond rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth a’r Aelodau yn rhoi amser i edrych arnynt.

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth y mae’n seilio ei safbwynt arni. Mae hyn wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ailystyried hyn ac yn gweithredu ar yr argymhelliad i gynnig mwy o dryloywder. Rwy’n ddiolchgar am y wybodaeth a ddarparwyd gan y Llywodraeth yn ei Phapur Gwyn. Fodd bynnag, byddwn yn pwyso am dystiolaeth fanylach, a bydd hyn yn nodwedd, rwy’n meddwl, o graffu parhaus ar Lywodraeth Cymru, i weld beth yw eu safbwynt mewn gwirionedd a’r dystiolaeth y maent yn ei defnyddio.

Mae ein hail a’n trydydd argymhelliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r newidiadau gweinyddol a wnaeth mewn ymateb i bleidlais y refferendwm a rôl ei swyddfa ym Mrwsel yn y dyfodol—eto, mae’r rhain wedi cael eu derbyn ac unwaith eto, gwerthfawrogir y wybodaeth a ddarparwyd hyd yn hyn. Ond hoffwn bwyso am ragor o wybodaeth ac efallai rhywbeth y gallem edrych arno’n fwy manwl wrth graffu ar y gyllideb yn yr hydref.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cofrestr risg Brexit ar ein cyfer—unwaith eto, cafodd ei dderbyn mewn egwyddor, ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr allbynnau o’r ymarfer asesu risg newydd sydd i fod i ddechrau ar ôl sbarduno erthygl 50. Efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ychydig ar hyn yn ystod ei gyfraniad y prynhawn yma.

Roedd argymhelliad 5 yn gofyn am wybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y swm uchaf o arian Ewropeaidd yn cael ei neilltuo a’i ddefnyddio cyn i Brexit digwydd. Mae’r ffigurau a ddarparwyd yn awgrymu bod yna lefel dda o gynnydd yn hyn o beth, er bod rhai cronfeydd mewn sefyllfa well nag eraill. Byddwn yn ystyried y wybodaeth hon ac yn parhau i fonitro cynnydd. Yn ogystal, rydym wrthi’n cynnal ymchwiliad i bolisi rhanbarthol, ac yn gobeithio adrodd ar hynny cyn diwedd mis Mai.

Mae ein chweched argymhelliad, a’r olaf, yn ymwneud â rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau, maes lle y mae ein safbwynt yn cyd-fynd â safbwynt Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol fod gan Lywodraeth Cymru rôl lawn yn y broses o lunio safbwynt negodi’r DU, a chyfranogiad uniongyrchol pan fydd hynny’n ymwneud â phwerau datganoledig neu’n effeithio ar bwerau datganoledig. Er bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r sylwadau hyn i Lywodraeth y DU, rydym yn ymchwilio hefyd i’r lefel o ymgysylltiad a geir rhwng Llywodraeth Cymru a Whitehall. Rydym wedi ysgrifennu at amrywiaeth o adrannau Llywodraeth y DU, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd eisoes wedi darparu ymatebion mewn gwirionedd, ac rydym yn bwriadu asesu’r rhain fel rhan o’n gwaith craffu, a byddwn yn adrodd ar hyn yn y dyfodol.

Ddirprwy Lywydd, mae’n hanfodol fod ein llais yn cael ei glywed ac y gwrandewir arno. Mae gwneud hynny yn amlwg o fudd i Gymru, ond credaf hefyd ei fod o fudd i’r DU yn ehangach. Mae ein cydweithwyr yn yr Alban hefyd wedi mynegi’r un farn, ei bod yn bwysig i’w llais gael ei glywed. Nid ydym yn wahanol. Cymeradwyaf yr adroddiad hwn, Ddirprwy Lywydd, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:11, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), nid wyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Simon Thomas.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:12, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi, ar y dechrau, ddweud fy mod yn bersonol yn falch o fod wedi cael negeseuon fod fy nheulu a chydweithwyr yn Llundain yn ddiogel, ond yn drist iawn i glywed am ymosodiad ar chwaer Senedd, ac yn gobeithio y bydd pawb yn iawn ac y bydd pethau dan reolaeth? Mae’n beth brawychus iawn, ac mae’n berthnasol iawn i’r ffaith ein bod yn trafod ymarfer mawr mewn democratiaeth sydd wedi ein harwain at y sefyllfa hon, ac mae’n werth cofio rôl Seneddau a democratiaeth gynrychioliadol i sicrhau rheolaeth y gyfraith a heddwch—datrys anghytundebau yn heddychlon.

A gaf fi droi at yr adroddiad a dweud cymaint rwy’n croesawu’r adroddiad hwn? Mae’n gynhwysfawr iawn, yn ystyrlon iawn ac wedi defnyddio tystiolaeth sylweddol iawn, ac rwy’n cytuno’n fawr â’r ffordd y mae’r Cadeirydd wedi nodi’r casgliadau, sy’n niferus—ac ni cheir cymaint o argymhellion, gan nad ydym yn gwybod yn union sut y bydd rhai o’r pethau hyn yn datblygu, ond mae’n bwysig ein bod yn dod i rai casgliadau cynnar am y materion sy’n bwysig i Gymru, ein heconomi, a’n gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n meddwl y gallaf ei gyfyngu, fodd bynnag, i ddau brif beth sef chyllid a phwerau. A phan edrychwn ar bwerau, yn gyntaf oll, rwy’n meddwl bod yna nifer o faterion pwysig yn cael eu trafod yn yr adroddiad hwn yr hoffwn roi barn Plaid Cymru arnynt.

Yn gyntaf oll, o ran dychwelyd pwerau i Lywodraeth y DU o’r UE yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysig ac yn hanfodol fod hyn yn cael ei wneud ar sail parch cydradd rhwng y pedair gwlad yma yn y Deyrnas Unedig. Rwy’n credu bod fframweithiau ar draws y DU, sy’n cael sylw yng nghyd-destun cadwraeth, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yn yr adroddiad, i’w croesawu, a gallwn weithio ar y sail honno, ond rhaid iddi fod yn un o gytundeb, nid un lle y caiff pwerau eu dychwelyd i Stryd Downing a’u gorfodi wedyn ar weddill y Deyrnas Unedig. Mae hynny’n golygu, yn ein barn ni, y dylid datblygu cyngor Gweinidogion y DU, a dylid datblygu cymrodeddu annibynnol hefyd neu ddull dyfarnu annibynnol ar gyfer ymdrin ag anghytundebau. Ni fyddwn yn gallu mynd o gyfarfod i gyfarfod, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi dweud yn y gorffennol, heb unrhyw gofnodion, unrhyw gynnydd, unrhyw fath o ddatblygu syniadau. Mae’n rhaid i ni gael cynghorau Gweinidogion wedi’u gweithredu’n briodol, a system annibynnol briodol i gymrodeddu hefyd os oes angen. Pan fydd y pwerau hynny’n dychwelyd, bydd angen i ni fod yn sicr fod y rhai sy’n cael eu harfer yn awr ar lefel Ewropeaidd, y credaf y bydd yn rhaid i ni barhau i’w harfer, lle y bo’n berthnasol, ar lefel Ewropeaidd—rwy’n meddwl yn benodol, fel y gofynnais yn gynharach i’r Cwnsler Cyffredinol, am bwerau’n ymwneud â deddfwriaeth amgylcheddol, cyfiawnder amgylcheddol, gwaith parhaus Llys Cyfiawnder Ewrop, na fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r DU ond a fydd yn effeithio ar beth o’n cyfreitheg. Mae angen i hynny barhau yn ogystal fel bod gan ddinasyddion y DU syniad clir o sut y gellir datrys materion sy’n croesi ffiniau cenedlaethol, unwaith eto mewn modd heddychlon a chytûn. Felly, rwy’n meddwl bod yna fater yno y mae angen i ni edrych arno o ran pwerau hefyd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:12, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n codi’r cwestiwn ynglŷn â beth sy’n digwydd os na fydd y Bil diwygio mawr, a gynigiwyd yn y Senedd, yn mynd i’r afael â datganoli pwerau sy’n dod i Gymru. Credwn fod yna ddadl dda, fel y mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ei hun yn nodi, dros gael Bil parhad neu Fil parhau ar gyfer y pwerau hyn. Gallai fod dwy fantais i hynny. Mae’n amddiffyn ein statws cyfansoddiadol presennol, a bydd hefyd yn caniatáu i ni gynnal ein safonau o ran amaethyddiaeth, lles anifeiliaid, newid yn yr hinsawdd, manteision amgylcheddol ac yn y blaen. Nodaf—nid yw’n argymhelliad fel y cyfryw, ond mae’n un o gasgliadau’r adroddiad sy’n dweud, yn benodol, y dylid ystyried bod confensiwn Sewel yn ymestyn yn y maes hwn, yn enwedig—ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd—yn enwedig pan fo gennym bleidlais sylweddol yn Senedd San Steffan ar y fargen—ar y cytundeb; ar yr hyn fydd y cytundeb Brexit. Bydd goblygiadau yma y credaf fod angen inni bleidleisio arnynt yma, a bydd angen i ni fod yn rhan o’r broses o lywio’r penderfyniad terfynol gan Lywodraeth y DU a’r Senedd yn San Steffan ar y mater hwnnw.

Yr ail thema—os caf gyffwrdd arni’n fyr, er ei bod yn enfawr—yw ariannu. Rwy’n credu, o safbwynt amaethyddiaeth yn arbennig, fod yr adroddiad yn mynd i’r afael â’r angen gwirioneddol i ddiogelu ein cyfranogiad yn y farchnad sengl. Byddai’r baich neu’r effaith y mae rhai pobl yn San Steffan i’w gweld yn gyffyrddus yn ei chylch yn sgil mynd yn syth at reolau Sefydliad Masnach y Byd yn drychinebus i amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r tariff sydd mewn grym ar gig eidion ffres, er enghraifft, yn 84 y cant. Mae’r tariff sydd mewn grym ar garcas oen yn 45 y cant. Cyflwynwyd y ffigurau hynny i’r pwyllgor newid yn yr hinsawdd gan Hybu Cig Cymru. Nid yw’r rhain yn ffigurau y gellir ymdrin â hwy ar unwaith mewn perthynas ag amaethyddiaeth Cymru.

Yr agwedd olaf, wrth gwrs, o ran cyllid yw: pan fydd yr adnoddau’n cael eu dychwelyd i ni o Frwsel, rhaid iddynt gael eu dosbarthu yn y DU mewn ffordd deg, ac yn sicr, ni ellir ei wneud yn ôl fformiwla Barnett. Rydym wedi gwneud yn well yng Nghymru o gyllid Ewropeaidd na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni anfon neges gref nad ydym yn disgwyl bod yn waeth ein byd o gwbl o ganlyniad i’r penderfyniad democrataidd a wnaed gan bobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:17, 22 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ni fyddaf yn galw siaradwyr pellach i’r ddadl hon. Mae digwyddiadau yn San Steffan yn dal i ddatblygu, ond maent yn cael eu trin fel digwyddiad terfysgol difrifol. Yng ngoleuni’r amgylchiadau hynny, ac mewn trafodaethau gyda rheolwyr busnes o bob plaid wleidyddol, rwyf wedi penderfynu gohirio trafodion heddiw o dan Reol Sefydlog 12.18. Bydd busnes yn cael ei aildrefnu’n unol â hynny. Fel y dywedais yn gynharach, mae ein meddyliau gyda’n holl gydweithwyr a phawb sy’n gysylltiedig ar hyn o bryd yn San Steffan. Mae’r busnes yn cael ei ohirio.

Gohiriwyd y Cyfarfod Llawn am 16:18.