1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i feithrin gwydnwch emosiynol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru? OAQ(5)0540(FM)
Gwnaf. Rydym ni’n gweithio ar y cyd ar draws portffolios, gan gynnwys addysg, iechyd, a phlant a chymunedau, i wella llesiant plant a phobl ifanc ac i'w cefnogi i ddatblygu cydnerthedd emosiynol.
Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy nadl fer ddiweddar ar bwysigrwydd sicrhau bod cydnerthedd ymhlith ein plant a phobl ifanc yn cael ei ddatblygu ymhell cyn bod angen gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol ar unigolyn ifanc. Mae'r rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn cynnwys ffrydiau gwaith i’w croesawu i hybu gwydnwch cyffredinol, gan gynnwys gwaith yn ein hysgolion ac yn gysylltiedig â gwaith parhaus y mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar brofiadau niweidiol mewn plentyndod. Ond, fel yr ydych chi wedi ei amlygu, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd sy’n gyfrifol am raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac Ysgrifenyddion y Cabinet dros addysg a phlant sy’n gyfrifol am y ddau faes arall, yn eu trefn, sydd yn codi cwestiynau i mi ynghylch sut y mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth. A wnewch chi edrych ar y mater hwn yn bersonol, Prif Weinidog, ac ymrwymo i sicrhau bod y gwaith i gyflawni o ran Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn cael ei ddatblygu ar frys mewn ffordd wirioneddol drawsbynciol ar draws y Llywodraeth?
Gallaf ddweud bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar sut y gellir gwella gweithio ar y cyd rhwng addysg a CAMHS. Nid cyfrifoldeb un Gweinidog yn unig yw hwn; rwy’n deall hynny. Gwyddom, wrth weithio ar sail traws-bortffolio, y gallwn, wrth gwrs, gael yr effaith fwyaf a'r canlyniadau gorau. Rydym ni’n cydnabod bod iechyd ac addysg yn sicr yn gysylltiedig, ac felly mae swyddogion wedi eu cyfarwyddo hefyd i weithio gyda'i gilydd i ystyried gwahanol ddulliau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.
Prif Weinidog, un peth y gellir ei wneud yw datblygu mwy o arfer ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ag Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn yn fy etholaeth fy hun ddiwedd y llynedd, lle y cyfarfu â rhai o'r plant a'r staff yn yr ysgol a oedd wedi bod yn arfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac roeddent yn siarad yn angerddol am effaith ymwybyddiaeth ofalgar yn eu bywydau o ran eu helpu i allu ymdrin â’r hyn a all fod yn sefyllfaoedd anodd, boed yn yr ysgol neu yn y cartref yn eu teuluoedd. Felly, tybed pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ystyried ymwybyddiaeth ofalgar ac a all hyn fod yn rhywbeth y gellir ei gyflwyno yn ehangach i’n sector addysg.
Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried yn weithredol, ac yn rhywbeth a drafodwyd gennym yn helaeth cyn yr etholiad y llynedd. Nid oes unrhyw eiriolwr sy’n fwy brwd dros ymwybyddiaeth ofalgar nag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi. Rwy'n cyfaddef, pan gododd y pwnc gyda mi yn y lle cyntaf nid oeddwn yn hollol siŵr beth oedd hynny. Rwyf wedi cael fy addysgu a’m hysbysu’n llawn erbyn hyn, gallaf eich sicrhau.
Ond, ydy, rwy’n meddwl ei bod hi’n hynod bwysig ein bod ni’n ystyried dulliau newydd o helpu pobl ifanc i ymdopi â phwysau nad oedd yn bodoli pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Mae pwysau cyfryngau cymdeithasol—pan oeddech chi’n mynd adref, dyna ni; nid oeddech chi’n cael eich dilyn o gwmpas y lle ar-lein gyda'r bwlio y gall hynny arwain ato weithiau a'r pwysau i gydymffurfio y gall hynny arwain ato weithiau. Felly, mae'n rhaid defnyddio dulliau newydd i ymdrin â phroblemau newydd.