<p>Blaenoriaethau Trafnidiaeth ar gyfer Sir Benfro</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0527(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 28 Mawrth 2017

Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd yn 2015, yn dangos y buddsoddiad mewn trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru ar gyfer 2015i 2020.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:07, 28 Mawrth 2017

Prif Weinidog, mae cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ddim ond un prosiect ar gyfer sir Benfro yn y 18 mis nesaf—hynny yw’r cynnig i droi’r A477 o Ddoc Penfro i Johnston yn gefn ffordd. Mae’r cyhoeddiad bargen dinas bae Abertawe, gobeithio, yn mynd i gael effaith bositif ar economi gorllewin Cymru ac ar economi sir Benfro. Felly, a ydych chi’n cytuno â fi, Prif Weinidog, yn sgil y datblygiadau economaidd pwysig yma, mae nawr yn amser i Lywodraethau gydweithio i droi’r A40 yn sir Benfro yn ffordd ddeuol i wneud y mwyaf o effaith y cynigion hyn yng Ngorllewin Cymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae’n wir i ddweud bod y prosiect o Landdewi Felffre i Benblewin yn hollbwysig. Yn ail, wrth gwrs, mae fe’n bosibl i’r ddêl dinas—y ‘city deal’—ystyried prosiectau newydd i helpu trafnidiaeth. Mae’n bosibl i ystyried hynny. Ac, yn drydydd, wrth gwrs, wrth gymryd y ‘franchise’ drosodd y flwyddyn nesaf, byddai’n bwysig dros ben i sicrhau bod y gwasanaeth rheilffyrdd hefyd yn gwella yn sir Benfro, ac, wrth gwrs, i gysylltu sir Benfro â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:08, 28 Mawrth 2017

Prif Weinidog, mae porthladdoedd yn rhan bwysig o drafnidiaeth yn sir Benfro, ac yn enwedig, wrth gwrs, y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon. Gyda Brexit yn digwydd yr wythnos hon, rydw i’n poeni y byddem ni’n gweld llai o drafnidiaeth yn mynd o ran nwyddau rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon, a hefyd o ran teithwyr, gyda llawer o sôn am ail-gysylltu, neu ddatblygu cysylltiadau mwy uniongyrchol rhwng Ffrainc a Gweriniaeth Iwerddon er mwyn osgoi Prydain unwaith i ni ddod mas o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai hwn yn tanseilio porthladdoedd Doc Penfro ac Abergwaun yn enfawr. Pa gamau a ydych chi’n gwneud fel Llywodraeth, a hefyd ar y cyd gyda Llywodraeth San Steffan, i sicrhau ein bod ni’n cadw trafnidiaeth rhwng porthladdoedd sir Benfro?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 28 Mawrth 2017

Rwyf wedi codi hwn sawl gwaith gyda Llywodraeth San Steffan. Rwyf hefyd wedi codi hwn gyda Llywodraeth yr Iwerddon. Gwnes i drafod hwn gyda’r Taoiseach pan oedd ef yma ar 10 Mawrth. Y pryder sydd gyda fi yw, os mae’n rhwyddach i fynd trwy Ogledd Iwerddon, felly, dyna le bydd nwyddau’n mynd. Os mae yna fwy o waith papur, sydd yn gorfod cael ei lenwi wrth fynd trwy Gaergybi, Doc Penfro, ac Abergwaun, os mae yna unrhyw fath o ffin swyddogol yng Nghymru, ond dim byd o’r fath yng Ngogledd Iwerddon, felly, byddan nhw yn mynd trwy Cairnryan, trwy Lerpwl, a phorthladdoedd sy’n gysylltiadau yn mynd i Ogledd Iwerddon. Mae Gweriniaeth Iwerddon yn deall hwn, wrth gwrs. Byddai hwn yn cael effaith ar Ddylun a hefyd ar Rosslare. Mae’n hollbwysig bod y trefniadau ynglŷn â chroesi’r ffin yr un peth rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ag y bydd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.