Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Mawrth 2017.
Wel, mae'n bosibl ei wneud trwy, er enghraifft, aros yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi nad yw eisiau awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop ac nad yw eisiau talu i mewn i gronfa gyllideb, ond os ydych chi eisiau bod yn aelod o glwb, mae’n rhaid i chi dalu ffi aelodaeth, os caf ei roi felly. Ni allaf weld bod unrhyw fodel arall. Nid wyf yn credu y bydd y DU yn cael cynnig model sy'n unigryw i'r DU. Pam fyddai’r Undeb Ewropeaidd eisiau gwneud hynny? Felly, rwyf i wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i beidio â meddwl am Brexit caled na Brexit meddal ond am Brexit synhwyrol. Nid wyf yn credu bod mwyafrif o bobl yn y wlad hon sydd eisiau gweld Brexit sydd mor galed y bydd tariffau yn cael eu gorfodi, y bydd cyfyngiadau diangen o ran symud i mewn ac allan o'r DU, ac y bydd ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Do, cafwyd pleidlais y llynedd ac mae pobl eisiau gadael. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw beth oedden nhw’n ei gredu y byddai'r telerau. Dyna'r anhawster. Ond yn fy marn i, mae'n gwbl bosibl gadael yr UE ac eto parhau i fod â mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl.