<p>Grŵp 4: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch — Prif Fuddiannau (Gwelliannau 7, 8, 12)</p>

11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:46, 28 Mawrth 2017

Ac felly dyma ni’n symud i grŵp 4, ac mae’r grŵp yma’n ymwneud â phrif fuddiannau mewn trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch. Gwelliant 7 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Drakeford.

Cynigiwyd gwelliant 7 (Mark Drakeford).

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:46, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd.  Pan gyflwynais gyfres o welliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu ar gyfer cyfraddau uwch ar drafodiadau eiddo preswyl, eglurais fy mod yn bwriadu adlewyrchu darpariaethau treth tir y dreth stamp presennol yn fras er mwyn darparu parhad a sicrwydd. Dywedais hefyd, fodd bynnag, fy mod yn bwriadu ychwanegu eglurder a gwneud gwelliannau i'r ddeddfwriaeth lle'r oedd cyfleoedd i wneud hynny. Rwy'n awyddus i fynd i'r afael, drwy'r grŵp hwn, â nifer o faterion o'r fath lle’r wy'n ystyried mân welliannau yn fuddiol. Roeddwn yn ddiolchgar am gefnogaeth aelodau o'r Pwyllgor Cyllid pan gafodd newidiadau i sicrhau cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl eu cyflwyno yn ystod trafodion Cyfnod 2.  Bydd hyn yn sicrhau y bydd y cyllid sylweddol a godir gan gyflwyno'r tâl ychwanegol hwn yn parhau i fod ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Y grŵp hwn o welliannau, Llywydd, yw'r grŵp mwyaf technegol gymhleth o welliannau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.  Dyna pam y cyhoeddais lythyr technegol ar 23 Mawrth i Aelodau'r Cynulliad.  Fy ngobaith oedd y byddai Aelodau yn cael digon o gyfle i ystyried y materion hyn mewn perthynas â'r gwelliannau hyn yn y grŵp hwn cyn y drafodaeth heddiw.

I grynhoi, mae Atodlen 5 y Bil yn darparu y bydd trafodiad yn cael ei drin fel trafodiad cyfraddau uwch lle mae prif bwnc y trafodiad yn cynnwys buddiant sylweddol mewn annedd.  Mae'n bosibl, yn ôl y gyfraith, i wahanu diddordeb cyfreithiol a llesiannol mewn trafodiad eiddo preswyl.

Mae'r mwyafrif helaeth o drafodiadau yn debygol o gynnwys trosglwyddo buddiant cyfreithiol a buddiol. Fodd bynnag, yn ystod hynt y Bil hwn, rwyf wedi cael fy rhybuddio gan rai o'n grŵp arbenigol o amwysedd posibl yn y ddeddfwriaeth bresennol treth dir y dreth stamp, a allai arwain rhai pobl i hawlio drwy strwythuro caffael eu heiddo preswyl ychwanegol mewn ffordd benodol, y byddai'n bosibl dadlau nad yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol. Er nad wyf yn derbyn y ddadl hon, mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud â rhoi hyn tu hwnt i amheuaeth, ac o ganlyniad, diogelu ein sylfaen treth.

Felly, yn fwy manwl, felly, Llywydd, mae gwelliannau 7 ac 8 yn diwygio paragraffau 5 a 15 Atodlen 5 i ymdrin â sut y mae buddiant llesiannol trethdalwr mewn annedd i gael ei benderfynu. Pan fydd eiddo'n cael ei brynu ar y cyd, bydd y prynwyr yn dal y buddiant llesiannol yn yr eiddo fel cyd-denantiaid neu denantiaid ar y cyd. Mae gan gyd-denantiaid yr hawl i gyfran gyfartal o'r eiddo, tra bod tenantiaid ar y cyd yn gallu dal yr eiddo mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal, sy'n cael eu hadnabod fel cyfranddaliadau heb eu rhannu.

Mae gwelliannau 7 ac 8 yn sicrhau bod gwerth ar y farchnad buddiant y trethdalwr yn cael ei asesu fel cyfran o gyfanswm gwerth ar y farchnad yr annedd sy'n cynrychioli eu cyfran o fudd.  Mae hyn yn sicrhau tegwch i'r trethdalwr, oherwydd mae'n golygu nad yw’r dreth ond yn daladwy ar y gyfran o unrhyw eiddo y mae person yn ei dal yn hytrach na gwerth cyfan ar y farchnad yr eiddo hwnnw.  Mae'r eglurhad yn arbennig o bwysig gan na fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol os yw gwerth ar y farchnad y buddiant a gedwir yn llai na £40,000.

Mae gwelliant 12 yn darparu ar gyfer cyflwyno paragraff newydd 29 yn Atodlen 5, yn ymdrin â’r cwmpas o ddiddordeb mawr. Nid yw'n newid bwriad polisi’r darpariaethau fel y craffwyd arnynt, ond yn ychwanegu mwy o eglurder iddynt.  Gofynnaf i Aelodau gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:50, 28 Mawrth 2017

Nick Ramsay. Na? Nid oes siaradwyr eraill. Rwy’n amheus, felly, a oes gan yr Ysgrifennydd Cabinet unrhyw sylwadau i gloi’r ddadl yma. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 7.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.

Cynigiwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford).

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd y gwelliant.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12. 36.