2. Cwestiwn Brys: Gorwariant Byrddau Iechyd Lleol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:20, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, nad oedd mewn gwirionedd yn dweud beth yr oedd yn mynd i'w wneud ynglŷn â’r mater. Fodd bynnag, rwyf yn gobeithio y bydd yn dweud wrthym yn awr. Yn gyntaf oll, a all roi goleuni ar y sefyllfa? Gan fy mod yn credu y gallai rhywfaint o ddryswch fod yn aros, yn dilyn cwestiynau arweinydd y blaid Geidwadol yn gynharach, oherwydd er nad yw'r byrddau iechyd wedi cael eu hachub yn ariannol, achubwyd croen ei adran ef hyd at swm tebyg o arian. Mae'r gyllideb atodol yr ydym wedi ei phasio rai wythnosau yn ôl yn rhoi’r arian hwn i’w adran ef mewn gwirionedd, nid i’r byrddau iechyd eu hunain, ac felly bu achub croen, i bob pwrpas. Ac felly, os nad oes unrhyw ganlyniadau wedi bod ar gyfer y byrddau iechyd, mae'n rhaid i ni ofyn i’n hunain, 'Sut mae cael gwell cynllunio ariannol i’r dyfodol?' Soniodd y Prif Weinidog am Ddeddf Cyllid y GIG, a basiwyd dair blynedd yn ôl gan y Cynulliad hwn. Pan gafodd y Ddeddf ei phasio, dywedodd ac addawodd y Gweinidog blaenorol y byddem yn gweld gwell cynllunio ariannol, ac aeth yn ei flaen i addo y dylai hynny arwain at wneud penderfyniadau gwell a’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd lleol. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddweud ein bod wedi gweld gwell cynllunio ariannol neu’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd ers pasio'r Ddeddf honno. A all gadarnhau bod dyletswydd ariannol yn dal i fod ar fyrddau iechyd i beidio â mynd y tu hwnt i'r cyfanswm ym mhob blwyddyn ariannol, hyd yn oed wrth ystyried model tair blynedd o gynllunio, a pha ganlyniadau a all fod ar gyfer byrddau iechyd pe na bydden nhw yn diwallu anghenion cynllunio ariannol priodol o dan Ddeddf cyllid y GIG? Ac onid yw hi'n bryd ystyried o leiaf beidio â thalu lwfansau a thaliadau i aelodau o'r byrddau iechyd os na allan nhw ddod â’u hunain i drefn?