Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau oedd yn dilyn. Nid wyf yn credu bod edrych ar y pedwar sefydliad penodol, ac yna cheisio dweud bod y system gyfan yn cael ei barnu ar sail y pedwar hyn yn unig, yn agwedd sydd yn ystyried y darlun cyflawn. A dweud y gwir, pan fyddwch yn edrych ar y chwech o bob 10 sefydliad sydd wedi mantoli’r gyllideb, mae hynny yn rhannol o ganlyniad i'r drefn newydd sydd gennym. Yr hyn yr wyf wedi bod yn glir iawn amdano yw nad ydym yn mynd i geisio cuddio’r ffaith nad yw’r pedwar bwrdd iechyd yn mynd i fyw o fewn eu modd eleni, a bydd yn rhaid cynnal ymarfer mewn disgyblaeth ariannol ac eglurder ynghylch hynny. Ac mae hynny’n cyffwrdd â’ch pwynt am atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod yr ergyd ddiwerth braidd am wrthod talu lwfansau i aelodau bwrdd yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymgymryd â’r her wirioneddol a difrifol sydd gennym. Rwyf yn disgwyl i'r gwasanaeth a'r system gymryd yr heriau ariannol sy'n ein hwynebu o ddifrif. Mae pob gwlad unigol o fewn y Deyrnas Unedig yn wynebu her wirioneddol a difrifol ynglŷn ag ariannu'r gwasanaeth iechyd. Rydym yn gwybod am ganlyniadau cyni parhaol a beth mae hynny'n ei wneud i’n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwybod bod rhoi ychwaneg i’r GIG o arian y gyllideb y mae’r Cynulliad hwn wedi ei phasio yn dod ar gost wirioneddol i rannau eraill o gyllid cyhoeddus. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn dros gyfnod estynedig o amser fod gan y gwasanaeth iechyd gyfrifoldeb gwirioneddol i fyw o fewn ei modd. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn disgwyl gwelliant sylweddol mewn cynllunio a rheoli ariannol nad ydyw’n peryglu gofal cleifion.