Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Mawrth 2017.
Rwy’n mynd i geisio ymdrin yn fyr â’r gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Yn gyntaf oll, rwyf am groesawu'r gydnabyddiaeth gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr o ystod y gwelliannau yn y gwasanaeth y mae'r GIG yn ei darparu i bobl Cymru. Mae'n debyg mai hwn yw’r tro cyntaf i mi glywed hynny gan lefarydd iechyd o’i phlaid hi ac mae hynny'n dderbyniol iawn, yn wir. Ni ddylai unrhyw un gael ei synnu, er hynny, gan yr heriau hyn, gan fy mod i wedi bod yn gwbl onest amdanyn nhw dros gyfnod o fisoedd. Pan wrthodais gymeradwyo'r Cynllun Tymor Canolig Integredig a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro, roeddwn yn gwbl glir am yr ystod o faterion oedd ynddo. Ac roedd arian yn rhan o'r her hefyd, felly ni chafodd eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig eu cymeradwyo. Yn yr un modd, roeddech chi ac eraill yn y Siambr mewn pwyllgor iechyd ar 3 Tachwedd, pan atebais gwestiynau am y sefyllfa hon, ac am yr arian yn benodol. Eglurais ar yr adeg honno na fyddai Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn byw o fewn eu modd. Rwyf hefyd wedi gwneud y risg gwirioneddol yn eglur o ran Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro. Mae’r aelodau, wrth gwrs, yn rhydd i wirio’r trawsgrifiad a'r llythyr dilynol at y pwyllgor iechyd a oedd yn gwbl glir am y broblem hon. Felly, ni ddylai hyn fod yn syndod i neb os yw wedi bod yn cymryd sylw.
Yr her yw beth yr ydym ni yn barod i’w wneud, ond mae hynny’n cyffwrdd â’r pwyntiau eraill yr ydych wedi eu gwneud. Rwyf yn dymuno bod yn hollol glir eto: bydd pobl yn cael eu talu; bydd biliau yn cael eu talu; ni fydd hyn yn arwain at gwtogi yn y gwasanaeth a ddarperir. Byddwn yn talu am hyn o'r canol, ond byddwn yn cael eglurhad pam nad yw'r byrddau iechyd hyn wedi byw o fewn eu modd. Nid wyf yn derbyn o gwbl eich pwynt nad ydym yn gwario digon o arian ar iechyd. Os mai hynny yw eich barn chi mewn gwirionedd, yna gallech ddangos mewn cyllideb amgen ym mha le y byddech yn cael yr arian hwnnw. Gadewch i ni gofio hyn: pan wnaethom ni roi’r £240 miliwn ychwanegol yn y gyllideb yr oeddem yn ei chynnig ac a gafodd ei phasio yn y lle hwn—ar gyfer y GIG—fe ddaw ar gost sylweddol i bob rhan arall o'r gwasanaeth cyhoeddus. Mae hynny'n golygu y bydd £106 miliwn o ran arian parod yn cael ei gymryd oddi wrth lywodraeth leol. Os bydd y Torïaid o ddifrif yn dymuno gweld toriadau pellach yn cael eu gwneud mewn meysydd eraill o wasanaeth, dylent osod y rheini allan. Nid gêm heb ganlyniadau yw hon. Rydym yn gwario bron 50 y cant o'n cyllideb ar y GIG.
Ac yn olaf, yr her wirioneddol wrth fantoli’r gyllideb a chael gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy yw gweddnewidiad gwasanaethau. Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau anodd a gofyn cwestiynau anodd i bob un ohonom ni—pob un ohonom ni ddinasyddion Cymru, pob un ohonom ni gynrychiolwyr etholedig—a’r drafodaeth honno â chlinigwyr am sut y gallwn wella ein gwasanaeth drwy ei newid, ac nid aros am newid i ddigwydd i ni oherwydd ein bod wedi aros yn rhy hir am ddiwygio’r gwasanaethau hynny. Dyna pam y gwnes nodi’n eglur iawn, iawn i'r gwasanaeth, yn enwedig yn yr araith i Gydffederasiwn y GIG y mis diwethaf, yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl ganddyn nhw a'r hyn yr wyf yn gofyn iddyn nhw ei wneud wrth gynllunio a rheoli'r gwasanaeth dros y flwyddyn nesaf pryd y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau.