Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn siarad am hyn gyda thinc o ofn a dychryn fel petai’n syndod mawr, ond nid yw’n syndod o gwbl i mi wrth edrych ar rai o'r cynlluniau tymor canolig integredig. A wnewch chi gadarnhau pa rai o gynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd oedd yn dangos diffyg o ddechrau'r cyfnod cyllid hwn? A wnewch chi roi cadarnhad i mi ymhle y gwelwch chi’r byrddau iechyd yn gallu adolygu eu gwariant? Oherwydd er gwaethaf yr holl siarad di-ildio gan bawb, rwyf yn tybio ac yn gobeithio y bydd meddygon a nyrsys, porthorion a gweithwyr iechyd cymunedol yn cael eu talu o hyd dros yr ychydig fisoedd nesaf. Yn drydydd, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod nifer o’r byrddau iechyd hyn wedi cychwyn ar raglenni arbedion uchelgeisiol yn barod? Bydd y rhain yn cymryd amser i ddechrau gweithio, mae’n amlwg . Ydych chi'n meddwl eich bod wedi rhoi digon o amser i fyrddau iechyd ar gyfer gwella hyn? Yn bedwerydd, a ydych yn croesawu'r gwelliant mewn gwasanaethau a welwyd o ganlyniad i hyn? Mae llawer o ddangosyddion perfformiad y byrddau iechyd wedi codi yn araf. Gwn fod ym mwrdd iechyd Hywel Dda y gyfradd orau yng Nghymru gyda chanser ac amseroedd darpariaeth damweiniau ac achosion brys pedair awr. Ac a fyddech yn cytuno na fyddem yn dymuno gweld dirywiad wrth gyflenwi gwasanaethau? A ydych yn derbyn y dylem gael codiad i rai o'r byrddau iechyd gwledig, fel y trafodwyd ac yr hyrwyddwyd gan nifer o sefydliadau, nid dim ond gan y byrddau iechyd eu hunain? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud wrthyf beth yw safle Cymru o ran gwariant ar ofal iechyd fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth? Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond tair gwlad yn Ewrop sydd yn gwario llai na ni, ac onid honno yw'r broblem mewn gwirionedd? Nid ydym yn gwario digon ar ofal iechyd i sicrhau nad yw byrddau yn mynd i ddiffyg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach, mae’r diffyg yng Nghymru yn ddwbl yr hyn ydyw yn y DU.