8. 5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru)

– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:07, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym nawr yn symud ymlaen i eitem 5, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru), ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt, i gynnig y cynnig.

Cynnig NDM6269 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:07, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y memorandwm. Rwy'n falch o nodi nad yw’r pwyllgor wedi canfod rheswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r Bil Pedolwyr (Cofrestru) yn diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975. Mae hon yn pennu cyfrifoldeb statudol y Cyngor Cofrestru Pedolwyr, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Mae dros 200 o bedolwyr cofrestredig yn byw yng Nghymru. Mae gan y cyngor gyfrifoldebau, fel y'u nodwyd yn y Ddeddf, i gadw cofrestr o bedolwyr i benderfynu pwy sy'n gymwys i gofrestru ac i wneud rheolau ynghylch ffurf y gofrestr a sut y’i cedwir. Mae'r cyngor hefyd yn rheoleiddio hyfforddiant pedoli. Mae hefyd yn cynnal ymchwiliadau rhagarweiniol mewn achosion disgyblu drwy ei bwyllgor ymchwilio, ac yn penderfynu achosion drwy ei bwyllgor disgyblu.

Mae'r trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio pedolwyr bellach wedi dyddio ac nid ydynt mwyach yn unol â rheoleiddio proffesiynau eraill. Bwriad y gwelliannau a gynigir yn y Bil yw diweddaru cyfansoddiad y cyngor, a'i bwyllgorau archwilio a disgyblu, i’w gwneud yn addas i’r diben ac i'w gwneud yn haws gwneud newidiadau o'r fath yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, er mwyn gwneud unrhyw newidiadau i'r cyngor a'i bwyllgorau, mae angen gwelliant i’r Ddeddf, sy'n golygu bod angen deddfwriaeth sylfaenol. Mae hyn yn anhyblyg ac yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod y cyngor a'i bwyllgorau’n cael eu cadw'n gyfoes i aros yn addas i'w diben. Bydd y Bil yn caniatáu i welliannau i drefniadau llywodraethu’r cyngor a'i bwyllgorau yn y dyfodol gael eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban.

Diben y cyngor yw gweithredu er lles anifeiliaid. Mae hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan y cyngor gyfansoddiad sengl, ac mae cytundeb polisi ledled Prydain Fawr ar gyfer gwneud y newidiadau hyn, a fydd yn moderneiddio’r gwaith o reoleiddio'r proffesiwn pedoli.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:09, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n galw ar Huw Irranca-Davies i siarad ar ran y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd cael dweud gair byr iawn yma heddiw. Gwnes y camgymeriad ar y pwyllgor o gydnabod fy mod yn gyfarwydd â'r Cyngor Cofrestru Pedolwyr, ac, er fy mhechodau, dywedodd y Cadeirydd yn rasol, 'Wel, cewch chi ddweud ychydig o eiriau.' Byddai ef yn fwy nag abl ei hun. Ond hoffwn sôn am ychydig o bethau.

Fel yr ydym newydd ei glywed, mae hyn yn sicr yn foderneiddio, ac yn foderneiddio hir ddisgwyliedig, i’r Cyngor Cofrestru Pedolwyr. Ni wnaeth y pwyllgor CCERA, dan gadeiryddiaeth Mark Reckless, ddod o hyd i unrhyw reswm dros wrthwynebu. Rydyn ni wedi trafod hyn ac nid ydym wedi dod o hyd i reswm i wrthwynebu. Buom yn trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 16 Mawrth. Mae'n diwygio Deddf Pedolwyr (Cofrestru) 1975, sy'n nodi cyfrifoldeb statudol y cyngor cofrestru, corff rheoleiddio’r proffesiwn pedoli ym Mhrydain Fawr. Ac mae'r trefniadau, fel y dywedwyd eisoes, ar gyfer rheoleiddio pedolwyr, fel y’u nodir yn y Ddeddf honno, wedi dyddio, felly mae’r diweddaru a’r moderneiddio hwn i’w croesawu.

Bydd hyn yn caniatáu inni ddiweddaru cyfansoddiad y cyngor ac, yn bwysig iawn, i’w bwyllgorau archwilio a disgyblu, iddo fod yn wirioneddol berthnasol i'w aelodau ac i’r rheini sy'n dod gerbron y pwyllgorau hynny. Bydd hyn yn golygu y bydd yn addas i’w ddiben ac yn cyd-fynd â rheoleiddio proffesiynau eraill sydd wedi moderneiddio fel hyn dros y blynyddoedd, a rhai ohonynt gryn amser yn ôl. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws gwneud newidiadau eraill yn y dyfodol.

Felly, fel y soniais, mae’n cynnwys newid aelodaeth y pwyllgor ymchwilio statudol a'r pwyllgor disgyblu. Felly, yn hytrach na bod y rheini wedi’u cyfansoddi o aelodau o'r cyngor, bydd y gwrthwyneb yn berthnasol. Ni ddylai aelodau fod yn aelodau o'r cyngor, sydd wedi achosi cryn bryder yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn er mwyn cyflawni’r gwahaniad pwerau sydd ei angen, gan sicrhau nad y bobl sy'n gosod safonau ar gyfer y proffesiwn yw’r rhai sy'n ymchwilio ac yn dyfarnu os bydd rhywun yn methu â bodloni’r safonau hynny. Ac mae hefyd yn gwneud mesurau eraill, fel cyflwyno gofynion ffitrwydd i wasanaethu ar gyfer holl aelodau'r cyngor a'r pwyllgorau statudol, fel sy'n arfer mewn cyrff rheoleiddio eraill.

Felly, mae hyn wedi cael ei gymeradwyo, a dweud y gwir, gan bawb sydd wedi ei weld—y Bil gwreiddiol a gynigiwyd gan Byron Davies yn San Steffan, y pwyllgorau sydd wedi edrych arno, Llywodraeth Cymru ei hun a fu’n ymgynghori arno, Llywodraeth yr Alban a fu’n ymgynghori arno, DEFRA ei hun, ac wrth gwrs y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yma, a fu’n edrych arno—felly does dim rheswm i beidio â chymeradwyo hyn—a gan y pwyllgor CCERA. Felly, mae pawb wedi rhoi sêl bendith iddo. Nid yw'n syndod o gwbl. Mae'n foderneiddio hir ddisgwyliedig, ac rwy’n dymuno’n dda iddynt wrth weithredu’r mesurau newydd hyn yr ydym yn eu cyflwyno yma o fewn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac o fewn Bil Byron Davies, gan fy mod yn credu y caiff groeso gan y rheini sy'n dod gerbron y Cyngor Cofrestru Pedolwyr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:12, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Arweinydd y tŷ i ymateb.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Ydw, rwy'n credu fy mod wedi sôn am lawer o'r pwyntiau a gododd Huw Irranca-Davies. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod mai corff i Brydain Fawr yw cymdeithas rheoleiddio'r pedolwyr. Cafwyd ymgynghoriad am lywodraethu, strwythur a gweithredu’r Cyngor Cofrestru Pedolwyr a'i bwyllgorau a gynhaliwyd gan DEFRA yn 2013, ar y cyd â Llywodraethau Cymru a'r Alban. Ac mae'r ymgynghoriad a'i ymatebion wedi dangos cytundeb cyffredinol ar y ffordd ymlaen, sydd wedi arwain at hyn. Wrth gwrs, Bil Aelodau preifat ydoedd, a phrif amcan y Bil yw gwneud y newidiadau hynny i gyfansoddiad y Cyngor Cofrestru Pedolwyr a'i bwyllgorau, a byddwn yn gobeithio y gallwn nawr ddarparu cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil hwn, ac rwy'n gofyn i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:13, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.