1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2017.
2. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i wella economi hen feysydd glo de Cymru? OAQ(5)0153(EI)
Rydym yn parhau i gefnogi twf busnesau, yn buddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, ac yn gwella amodau datblygu economaidd.
Mae’n ffaith drist mai ychydig iawn sydd wedi’i wneud i sicrhau olynwyr i’r hen ddiwydiannau trwm a fu gynt yn darparu cyflogaeth, tai a seilwaith ledled y Cymoedd. Mae’r dinas-ranbarth yn addo llawer, ond nid oes fawr ddim manylion, ac yn y cymunedau hynny a fydd yn cael eu heffeithio, mae llawer o ddryswch ynghylch beth yn union y bydd yn ei gyflawni. Mae gennym hefyd dasglu’r Cymoedd, a ymddangosodd, drwy gyd-ddigwyddiad, yn fuan wedi i’r Blaid Lafur golli sedd gadarn yn y Cymoedd. Tybed ai cyd-ddigwyddiad yn unig oedd hynny. A allwch ddweud wrthyf a oes unrhyw drefniadau gweithio ar y cyd rhwng y dinas-ranbarth a thasglu’r Cymoedd? A oes trafodaeth reolaidd rhyngoch chi a’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y tasglu? Mae arnom angen mwy o swyddi yn yr hen ardaloedd glofaol, ac mae angen swyddi o well ansawdd hefyd, ac nid yw methu â chyflawni hyn gyda’r dinas-ranbarth neu dasglu’r Cymoedd yn opsiwn.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Gwelais drydariad ganddi a ofynnai gwestiwn da iawn. Mae’n gwestiwn y credaf y gallai llawer o gymunedau yn ardal y dinas-ranbarth ei ofyn. Y cwestiwn oedd, ‘Beth sydd yn y cyhoeddiad ar gyfer y Rhondda?’ A chredaf fod hynny’n berffaith iawn, gan fy mod wedi bod yn holi’n ddiweddar pwy sydd wedi elwa yn ystod yr adferiad ers y cwymp ariannol. Ac mae’n eithaf amlwg mai’r rhai sydd heb weld unrhyw arwydd o adferiad eto yw’r rhai sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd trefol mwy lle y gwelsom y twf economaidd mwyaf. Maent yn bobl sydd, ar y cyfan, yn iau, ac yn bobl nad ydynt yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Hwy yw’r bobl sydd heb elwa o’r adferiad. Felly, yn union fel y dywedais wrth David Melding, fy mod yn disgwyl y bydd cyfoeth yn cael ei ailddosbarthu o ganlyniad i ailddosbarthu’r cyfleoedd i greu cyfoeth, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud mwy i ddenu buddsoddiad i’r Cymoedd, ond hefyd yn cefnogi a thyfu’r cwmnïau sydd yno eisoes.
O ran mewnfuddsoddi, rydym yn amcangyfrif bod un rhan o dair o’r holl fuddsoddiad tramor uniongyrchol a ddaeth i Gymru yn ystod tymor y Cynulliad blaenorol wedi dod i ardaloedd y Cymoedd. Felly, nid oes amheuaeth fod y Cymoedd wedi cael cryn dipyn o fuddsoddiad, ond mae problemau strwythurol yr economi ranbarthol benodol honno angen ymdrech fwy cydunol a chydgysylltiedig, ac oherwydd hynny, cynullwyd y tasglu. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn pwysig ynglŷn â phwy sydd ar y tasglu a sut y mae’r tasglu yn cysylltu, yn gweithio ac yn rhyngwynebu â mentrau eraill. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod fy mod yn aelod o’r tasglu, fel y mae cynrychiolwyr ar ran dinas-ranbarth Caerdydd. A chredaf ei bod yn hanfodol fod gwaith y tasglu’n cael ei adlewyrchu’n llawn yn y strategaeth economaidd sy’n datblygu i sicrhau Cymru fwy ffyniannus a diogel.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, bydd cysyniad y fargen ddinesig yn sbarduno cryn dipyn o weithgarwch economaidd ac adfywio, yn ardal Abertawe ac ardal Caerdydd. Gyda bargen ddinesig Caerdydd, mae 10 awdurdod lleol yn rhan o’r cytundeb hwnnw, a llawer ohonynt yn y Cymoedd. Rydym yn mesur llwyddiant, yn amlwg, drwy’r gwerth ychwanegol gros a’r gweithgarwch economaidd a ddaw o’r Cymoedd. Beth, yn eich barn chi, fydd y gwerth ychwanegol gros yn y Cymoedd dros y pump i 10 mlynedd nesaf? Pa byrth allweddol a roesoch ar waith er mwyn gweld y cynnydd yn y gwerth ychwanegol gros?
Efallai y dylwn gyfeirio’r Aelod at araith a roddais ddydd Llun diwethaf yng Ngholeg y Cymoedd—sefydliad trawsnewidiol sydd wedi llwyddo i gynyddu balchder yn yr ardal leol, a gwella sgiliau’r bobl sy’n byw yno. Yn yr araith honno, nodais fy ngweledigaeth ar gyfer strategaeth ffyniannus a diogel a fydd nid yn unig yn ceisio cynyddu cyfoeth a lles yn gyffredinol, ond hefyd yn ceisio lleihau’r anghydraddoldebau o ran cyfoeth a lles, ar draws y rhanbarthau a ledled Cymru. Ac felly, yn fy marn i, nid yn unig y dylid gwella’r gwerth ychwanegol gros, o gymharu â Lloegr, ac yn y Cymoedd o gymharu â gweddill Cymru, ond dylem hefyd geisio cynyddu incwm gwario gros aelwydydd, gan mai’r mesur hwnnw, yr arian sydd gan bobl yn eu pocedi, sy’n rhoi ymdeimlad o reolaeth i bobl dros eu bywydau eu hunain. Yn ei dro, y pŵer hwnnw, y gallu hwnnw i gael rhywfaint o reolaeth dros eich bywyd, yw’r ffordd i chi allu mesur lles. Ac felly, byddwn yn awgrymu bod yn rhaid i werth ychwanegol gros gynyddu fel rhan o ymagwedd y dinas-ranbarth, ond mae’n rhaid iddo gynyddu ar lefel isranbarthol ar draws yr holl gymunedau, oherwydd os byddwn yn gweld y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach, a chynhyrchiant mewn ardaloedd lle y mae cynhyrchiant eisoes yn uchel yn cynyddu ar draul cyfoeth y rhai lleiaf cefnog, ac ar draul cynhyrchiant mewn ardaloedd llai trefol, yna bydd y prosiect wedi methu. Credaf fod yn rhaid i ni fynd i’r afael â’r talpiau o ran cynhyrchiant ac o ran twf economaidd, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau ein bod yn rhannu’r cyfleoedd i greu cyfoeth yr holl ffordd ar draws y rhanbarthau.