1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0145(EI)
Mae perfformiad cryf y sector TGCh wedi creu dros 9,300 o swyddi uchel eu gwerth yng Nghymru, a gennym ni y mae’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain. Bydd ein cymorth parhaus i’r sector galluogi hwn yn cefnogi datblygiad holl fusnesau Cymru drwy’r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n ei ystyried yn ddiwydiant ac yn sector pwysig iawn, sy’n parhau i dyfu, yn enwedig mewn meysydd fel e-fasnach a roboteg. Er y twf cyflym iawn a fu yn ddiweddar, fel y dywedwch, mae perfformiad cymharol Cymru o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ymhlith y gwaethaf o’r holl sectorau a ddiffinnir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Hefyd, mae’n rhaid inni osgoi mabwysiadu meddylfryd y 1970au fod TGCh yn ymwneud yn bennaf â chyllid. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet longyfarch dinas-ranbarth Abertawe ar eu hymrwymiad i dwf y diwydiant TGCh fel rhan o raglen y dinas-ranbarth?
Gwnaf, yn sicr. Bydd arwyddo bargen ddinesig £1.3 biliwn dinas-ranbarth bae Abertawe yn rhoi hwb economaidd enfawr, gyda buddsoddiad yn cael ei wasgaru dros yr holl ranbarth, gan ysgogi twf ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ei fod wedi’i ddatblygu fel gweledigaeth o sut y gall y rhanbarth sicrhau ei fod yn manteisio ar dechnoleg y genhedlaeth nesaf, gan ddefnyddio ei gryfderau presennol, ac mae’n cynnwys pedair thema: rhyngrwyd cyflymu economaidd; rhyngrwyd gwyddor bywyd, iechyd a lles; rhyngrwyd ynni; a rhyngrwyd gweithgynhyrchu clyfar. Credaf ei fod yn tanlinellu’n berffaith y technolegau digidol sy’n galluogi ym mhob rhan o’n bywydau ac sy’n hanfodol i dyfu ein heconomi.
Gyda hynny mewn golwg, wrth gwrs, rydym wedi datblygu cymhwysedd digidol mewn ysgolion ac rydym yn datblygu fframweithiau digidol ar gyfer diwydiant ledled Cymru. Gallaf sicrhau’r Aelod a phawb arall yn y Siambr ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn ymwneud â chyllid yn unig—mewn gwirionedd, dyma’r dechnoleg sy’n sail i’r rhan fwyaf o weithgynhyrchu uwch yn y byd.
Rwy’n cytuno y gall y fargen ddinesig ddarparu’r llam digidol mawr hwn ymlaen, ond mae’n werth cofio hefyd mai o Abertawe y llamodd Trudy Norris-Grey yn ei blaen—mae’n amlwg eich bod yn gwybod, Gweinidog, mai hi yw rheolwr gyfarwyddwr Microsoft ar gyfer sector cyhoeddus canol a dwyrain Ewrop, a chadeirydd Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg. Mae hi’n honni bod ‘cyfleoedd gwych’, i ddefnyddio ei geiriau hi, i fenywod gael mynediad at yrfaoedd mewn TG, ond nad ydynt yn gwybod amdanynt. Felly, tybed sut y gall Llywodraeth Cymru fod o gymorth i fusnesau Cymru—nid yw’n ymwneud â sgiliau yn gymaint â’r busnesau eu hunain—i hyrwyddo gyrfaoedd TG yn well i fenywod.
Mae Trudy yn esiampl ardderchog—yn wir, bûm yn cydgyflwyno’r digwyddiad Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg a gawsom yma yn y Senedd er mwyn annog menywod i mewn i feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, ac roedd yn ddigwyddiad rhagorol. Rydym wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau cydnabyddiaeth i bob agwedd ar yr adroddiad ar fenywod mewn Cymru dalentog—nid wyf byth yn cael y teitl yn hollol iawn—sef, yn y bôn, gweledigaeth drawslywodraethol a thraws-sector—busnes hefyd—o sut y gallwn sicrhau bod rhagor o fenywod yn ymgymryd â meysydd STEM, ac yn wir, sut y gallwn dynnu sylw merched ifanc yn arbennig at y gyrfaoedd hyn drwy nodi gyrfaoedd menywod gwirioneddol wych mewn technolegau STEM ar draws y sector.
Cefais y fraint o eistedd ar bwys menyw a oedd yn gweithio ym maes geneteg yng Ngwobrau Dewi Sant, a hi oedd yr enillydd. Yn wir, rydym yn ystyried ei noddi i gynnal cyfres o ddigwyddiadau model rôl ledled Cymru, er enghraifft, er mwyn tynnu sylw at rôl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n fenywod, a’u rôl hanfodol ar draws y meysydd STEM mewn gwirionedd. Rwy’n angerddol iawn ynglŷn â rhoi’r modelau rôl cywir i fenywod ifanc er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo. Felly, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi bod yn hyrwyddo ymgyrch y placiau porffor, er enghraifft, i dynnu sylw at rôl menywod yn y meysydd hyn ledled Cymru er mwyn darparu’r modelau rôl hynny. Byddwn yn cynnwys busnes yn hynny o beth, drwy Busnes yn y Gymuned a’n cynlluniau i gyflwyno Dosbarth Busnes, a byddaf yn cadeirio’r bwrdd trawslywodraethol i sicrhau ein bod yn rhoi hynny ar waith hefyd.
Yng nghyd-destun y fargen ddinesig ym mae Abertawe, ac, wrth gwrs, nawr bod y fargen yna yn mynd yn ei blaen, a allaf ofyn pa gamau rydych chi, fel Llywodraeth, yn eu cymryd i helpu’r cynghorau lleol yna yn ne-orllewin Cymru i ddelifro’r buddsoddiad preifat oddi wrth gwmnïau IT sy’n hollbwysig i lwyddiant y fargen wrth drio creu swyddi o safon?
Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda phartneriaid y fargen ddinesig er mwyn cael y fargen wedi’i harwyddo a’i chymeradwyo, ac i sicrhau bod gennym brosiectau parod i’w dechrau yn y maes hwn. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n galed iawn gydag ESTnet, er enghraifft, i wneud yn siŵr fod y technolegau digidol creiddiol gennym yn ein busnesau i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwyf hefyd yn rhedeg grŵp data a digidol y Llywodraeth, a fydd yn cynorthwyo partneriaid awdurdodau lleol i wneud y gorau o’u technolegau digidol, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau yn y dyfodol agos ynglŷn â sut y byddwn yn cyflwyno datblygiadau sector cyhoeddus yn y maes hwnnw er mwyn cynorthwyo datblygiad economaidd yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.