<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:18, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n rhaid i mi fod yn hollol glir: ni fyddwn yn osgoi’r broses ddiwydrwydd dyladwy ar gyfer unrhyw benderfyniad. A byddai’n fuddiol i ddatblygwyr Cylchffordd Cymru sicrhau ein bod yn symud yr un mor gyflym ar gyfer yr ymgynghorwyr sy’n ymgymryd â’r broses ddiwydrwydd dyladwy ag y gwnaethant ar fy nghyfer i, pan nodais y terfyn amser o bythefnos iddynt ar gyfer cyflwyno cynnig ffurfiol.

O ran dod â phob un ohonynt i’r ystafell, dyna’r union beth y buom yn galw amdano, ac rydym wedi bod yn rhoi pwysau aruthrol yn hynny o beth. Rydym wedi bod yn rhoi pwysau aruthrol ar y datblygwyr i ddarparu’r wybodaeth ofynnol ar gyfer yr ymgynghorwyr. Gyda’r wybodaeth honno, gellir cwblhau’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Byddai’n fuddiol i’r datblygwyr gyflwyno’r wybodaeth er mwyn i bobl Glynebwy a’r Cymoedd wybod a yw hwn yn brosiect hyfyw ai peidio.