Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd cryn sylw i’r ffaith fod pedwar o’r byrddau iechyd yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ddwywaith cymaint â’r hyn y mae eu byrddau cyfatebol ar yr ochr draw i Glawdd Offa yn eu hwynebu, a bydd ad-drefnu rhai o’u gwasanaethau wrth reoli’r pwysau cyllidebol hwnnw yn gryn her i lawer o’r byrddau iechyd hyn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y pedwar bwrdd iechyd—yn enwedig Hywel Dda, sydd â diffyg o bron i 10 y cant yn ei gyllideb ar gyfer eleni—yn gallu ad-drefnu gwasanaethau i’r sector sylfaenol, o ystyried y pwysau sy’n eu hwynebu, ar eu cyllideb, gan reoli’r hyn sydd ganddynt yn unig?