<p>Gofal Orthopaedig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 2:50, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n deall bod llawer o’r llawdriniaethau orthopedig arferol yn rhanbarth gogledd Cymru yn cael eu darparu’n allanol gan ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. A gaf fi ddarllen llythyr a gefais gan lawfeddyg orthopedig ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, yn destun mesurau arbennig? Mae’n dweud fod peidio â buddsoddi mewn gwasanaethau orthopedig dewisol ers degawdau wedi creu sefyllfa lle y mae’r bwrdd iechyd wedi’i ddal yn gaeth ac ni all hyd yn oed ddiogelu’r gwasanaethau orthopedig dewisol hyn yn awr. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod cynlluniau buddsoddi gwael o’r fath, y diffyg gweledigaeth a’r trefniadau tymor byr sydd, yn ôl pob tebyg, wedi bod yn mynd rhagddynt ers dros ddau ddegawd bellach yn amharu ar ansawdd bywyd llawer o bobl sy’n dioddef poen cronig yn y cymalau, sy’n aros am amseroedd gwarthus o hir am eu triniaethau.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wyddoch faint o arian sy’n mynd dros y ffin ar driniaeth orthopedig? A ydych yn cytuno y byddai’n well i’r arian hwn gael ei fuddsoddi yng ngogledd Cymru? Mewn ymateb i Mark Reckless, fe ddywedoch eich bod yn parchu meddygon ac yn awyddus i gael sgwrs go iawn gyda hwy. Yng ngoleuni hynny, a fyddech yn cytuno i gyfarfod â mi a nifer o lawfeddygon orthopedig yng ngogledd Cymru er mwyn eich helpu i ddeall yn well beth yw’r problemau mewn gwirionedd, ond hefyd i edrych ar ganlyniadau cadarnhaol a sut y gallwn fynd i’r afael â’r problemau hyn?