3. 3. Datganiad: Ymateb i Erthygl 50

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:35, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae heddiw’n ddiwrnod dwys yn hanes Cymru. Er bod Cymru wedi pleidleisio o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, bwriad Llywodraeth y DU yw mynd â ni allan o’r farchnad sengl Ewropeaidd yn ogystal. Dyma’r bloc economaidd a’r bloc masnachu mwyaf yn y byd. I Gymru, y farchnad sengl honno yw cyrchfan oddeutu 67 y cant o’n hallforion, lefel uwch nag unrhyw ran arall o’r DU. Ac ni fydd bwriad Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb masnach rydd yn ein rhoi yn yr un sefyllfa â Norwy, Gwlad yr Iâ neu’r Swistir. Rwy’n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i drafod datganiad Llywodraeth y DU yn fuan iawn. Bydd yn hanfodol i’r Cynulliad hwn graffu ar y datganiad hwnnw, wrth gwrs, ond mae gennyf rai cwestiynau uniongyrchol yn awr ar farn Llywodraeth Cymru.

Brif Weinidog, mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o fwriadau go iawn Llywodraeth y DU, o’i gymharu â’r geiriau cynnes a gawsom gan y Llywodraeth yn gynharach heddiw. Maent yn cyfaddef y bydd y DU yn colli dylanwad dros yr economi Ewropeaidd. Maent yn sôn am sicrhau’r fasnach fwyaf rhydd sy’n bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau, ond maent yn cyfaddef na fydd hyn yn aelodaeth o’r farchnad sengl—ni fydd yn cydymffurfio â’r pedwar rhyddid—ac felly, gallai arwain at dariffau. Hoffwn wybod beth yw safbwynt y Llywodraeth Lafur ar hyn, os gwelwch yn dda. A ydych yn credu y gall cytundeb masnach rydd arwain at barhau ein cyfranogiad yn y farchnad sengl? A ydych yn rhagweld tariffau, ac os felly, pa sectorau a fyddai fwyaf mewn perygl yn eich barn chi? Beth y mae sbarduno erthygl 50 heddiw yn ei olygu i Airbus, i Toyota, i weithgynhyrchu yn gyffredinol?

Rwyf am droi yn awr at ddyfodol y Cynulliad hwn, a dyfodol y genedl hon. Ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff heddiw ynglŷn â rhybudd erthygl 50. Nid yw’n cyflawni dymuniad Llywodraeth yr Alban, na Llywodraeth Cymru yn fy marn i. Yn sicr nid yw’n bodloni Plaid Cymru. Mae iaith Llywodraeth y DU yn dynodi eu bod yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y pwerau datganoledig. Mae unrhyw un sy’n derbyn hynny’n ddigwestiwn yn colli golwg ar realiti. Llywodraeth y DU, drwy ddiffiniad, sydd mewn grym. Mae cydbwysedd pwerau yn y DU o fewn eu cylch gorchwyl, ac nid oes rhaid iddo gael ei negodi gyda sefydliadau’r UE. Dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi gwarantau i ni, nid disgwyliadau. Brif Weinidog, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynnydd o’r fath yn y pwerau y bydd eu hangen arnom i ddiogelu a hybu ein heconomi wrth i Brexit digwydd? A yw hi bellach yn bryd cyflwyno’r achos dros Fil Cymru newydd, Bil Cymru sy’n addas at y diben mewn gwirionedd?

Nid oedd datganiad Llywodraeth y DU ar erthygl 50 yn cynnwys unrhyw sôn am amaethyddiaeth neu’r amgylchedd. Hyd at 2020 yn unig y mae cyllid yr UE yn cael ei warantu, sy’n golygu bod angen inni sicrhau’r trefniadau newydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Brif Weinidog, fe ddywedoch mewn ymateb i fy nghwestiynau ddoe y gallai cymorthdaliadau amaethyddol ddiflannu. Mae’r angen am sicrwydd yn daer bellach. Ni fydd Plaid Cymru yn derbyn unrhyw golli cyllid amaethyddol o ganlyniad i Brexit. Rydym wedi dweud yn glir y dylai Cymru gael yr un arian ac y dylem gael rheolaeth lawn dros bolisi ynglŷn â sut y caiff ei ddyrannu. A ydych yn barod i ymladd am y cyllid hwnnw yn y cyfnod sydd i ddod, Brif Weinidog?

Gan droi at y trafodaethau eu hunain, mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn ymgynghori â’r Llywodraethau datganoledig. Nid wyf wedi cael fy llenwi â hyder ynglŷn â’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio’r ymgynghoriad sydd wedi digwydd hyd yn hyn. Heddiw, clywsom siarad am y Deyrnas Unedig yn negodi â’r UE fel un wladwriaeth, ond mae dwy flynedd o’n blaenau yn awr sy’n mynd i fod yn allweddol i ddyfodol Cymru. Rydych yn dweud yn eich datganiad fod heddiw’n ddechrau ar negodi o ddifrif. O gofio eich bod yn siomedig ac yn rhwystredig gyda phroses y cyd-bwyllgor gweinidogion, sut y byddwch yn gweithio gyda Llywodraeth y DU yn awr? Rydych wedi dweud na fyddwch yn pwdu ar y cyrion, felly sut rydych yn mynd i roi budd cenedlaethol Cymru ar yr agenda? Ac o ystyried na welsoch y llythyr hwnnw ymlaen llaw, ac na chawsoch unrhyw gyfle i gyfrannu ato, a allwch ddweud yn onest fod y Prif Weinidog wedi gwrando arnoch hyd at y pwynt hwn? Rydych yn honni eich bod yn gweld tystiolaeth o symud, ond Brif Weinidog, i ni, nid yw’n edrych fel pe bai yna fawr o symud wedi bod.