Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 29 Mawrth 2017.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y gwaith a wnaethant i ystyried y ddeiseb hon. Mae canser yr ofari’n taro tua 20 o fenywod bob dydd yn y DU ac yn anffodus, mae’n gyfrifol am oddeutu 248 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar, yn achos canser, yn golygu mwy o obaith goroesi. Os gwneir diagnosis yn y camau cynnar o ganser yr ofari, bydd 90 y cant yn goroesi am bum mlynedd neu fwy. Fodd bynnag, os gwneir diagnosis yn y cyfnod diweddarach, tri yn unig o bob 100 sy’n goroesi y tu hwnt i bum mlynedd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud diagnosis o ganser yr ofari yn gynt.
Yn anffodus, nid oes prawf sgrinio dibynadwy ar gyfer canser yr ofari ar gael eto. Cynhaliodd treial cydweithredol y DU ar ganser yr ofari astudiaeth 14 mlynedd yn edrych ar fanteision prawf gwaed CA125 a stilwyr uwchsain i ganfod arwyddion cynnar o ganser yr ofari. Yn anffodus, ni ddaeth y canlyniadau o hyd i unrhyw dystiolaeth bendant y byddai’r math hwn o sgrinio’n lleihau marwolaethau o ganser yr ofari. Yn wir, canfu’r treial fod yna nifer fawr o ganlyniadau positif anghywir. Ni fyddai canser ar ddwy o bob tair menyw a gâi lawdriniaeth i edrych am ganser yr ofari yn seiliedig ar eu prawf gwaed. Mae ymestyn hynny dros y boblogaeth gyfan yn arwain at lawer o lawdriniaethau diangen.
Nid yw’n llawdriniaeth fach—fel gydag unrhyw lawdriniaeth, mae’n cynnwys risgiau sylweddol. Cafodd oddeutu tair o bob 100 menyw a gafodd lawdriniaeth gymhlethdodau mawr o ganlyniad i hynny—yn cynnwys heintiau neu ddifrod i organau eraill. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd well o sgrinio—dull mwy dibynadwy—cyn i ni gyflwyno sgrinio i’r boblogaeth gyfan.
Mae’r Pwyllgor Deisebau’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rwy’n llwyr gefnogi’r argymhelliad hwn. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn hynny. Hoffwn i ni fynd ymhellach. Dylem fod yn gwthio’n weithredol am ymchwil pellach i ffyrdd o sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Ar wahân i sgrinio, mae’n bwysig fod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn adnabod arwyddion a symptomau cynnar canser yr ofari, gan mai dyma’r allwedd i ddarparu diagnosis a thriniaeth gynnar. Mae dros 40 y cant o fenywod â chanser yr ofari wedi gorfod ymweld â’u meddyg teulu ar nifer o achlysuron i gael eu hatgyfeirio i gael profion pellach. Felly, rwy’n croesawu ail argymhelliad y pwyllgor a’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dderbyn.
Fodd bynnag, roeddwn yn siomedig iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod trydydd argymhelliad y pwyllgor, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari. Yn aml gelwir canser yr ofari yn lladdwr tawel gan mai un o bob pedair o fenywod sy’n gallu enwi’r symptomau, fel bol wedi chwyddo’n barhaus, poen parhaus yn y stumog, anhawster i fwyta ac angen i basio dŵr yn amlach. Mae chwarter y menywod hefyd yn credu, yn anghywir, y bydd prawf ceg y groth yn canfod canser yr ofari. Os nad yw menywod yn adnabod arwyddion a symptomau’r clefyd hwn sy’n lladd, sut yn y byd y gallant obeithio cael triniaeth? Rwy’n gofyn, felly, i Ysgrifennydd y Cabinet ailystyried os gwelwch yn dda. Gall ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r clefyd hwn achub bywydau yn sicr, felly hyd nes y cawn sgrinio gwell ar gyfer canser yr ofari, dyma yw ein gobaith gorau i achub menywod rhag marw o’r clefyd ofnadwy hwn. Diolch yn fawr.