Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 29 Mawrth 2017.
Nid wyf yn meddwl y byddech wedi gwneud y cyfraniad hwn heddiw pe baech o ddifrif am yr hyn yr oeddech yn ei ddweud. Rydych wedi ymuno ag arweinydd UKIP i wrthwynebu’r datblygiad hwn, sy’n bolisi gan eich Llywodraeth eich hun. Rwy’n credu eich bod wedi ymddwyn yn anghyfrifol ac o ran y sylwadau a gawsoch ar y cyfryngau cymdeithasol—pan fyddwch yn arddel safbwyntiau o’r fath, rhaid i chi fod yn barod i gael eich craffu a dyna sydd wedi digwydd i chi yma.