Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 29 Mawrth 2017.
Rwy’n meddwl bod y mwgwd wedi llithro y prynhawn yma, Llywydd. Rwy’n credu eich bod wedi dangos eich lliwiau go iawn yno, Leanne Wood, sy’n ceisio arfogi’r ddadl hon am resymau di-fudd. Rwyf wedi ceisio’n galed iawn i dynnu’r gwres allan o’r ddadl hon ac nid wyf yn credu bod pardduo rhieni sydd â phryderon dilys o unrhyw fudd. Roeddwn wedi gobeithio—[Torri ar draws.]