Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 4 Ebrill 2017.
Rwy’n falch iawn y bydd Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma heddiw. Hoffwn innau hefyd ymestyn fy niolchiadau i dîm y Comisiwn, yn enwedig y tîm deddfwriaethol, am eu cymorth wrth graffu ar y Bil yn y pwyllgor ac wrth ddrafftio gwelliannau.
Yn fyr iawn, hoffwn gymeradwyo’r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno’r Bil drafft cyn yr haf, a rhoddodd gyfle i Aelodau a rhanddeiliaid gyfarwyddo â’i gynnwys, ac am ei barodrwydd i ymgynghori â rhanddeiliaid. Bu sôn yn ystod y drafodaeth ar ei egwyddorion cyffredinol fod y Bil yn un hirfaith a bod iddo adrannau gweddol gymhleth. Heb os, roedd cael Bil drafft yn gymorth i’n gwaith craffu fel Aelodau, yn enwedig aelodau’r pwyllgor.
Fe glywodd y Pwyllgor Cyllid gan randdeiliaid am yr angen am drosglwyddiad hwylus o’r hen system dreth stamp i’r un newydd—mor hwylus ag sy’n bosib. Felly, rwy’n falch bod gwelliant i sicrhau bod canllawiau ynghylch gweithrediad trafodiadau trawsffiniol wedi ei dderbyn—gwelliant a fydd yn cynnig mwy o eglurder i werthwyr a phrynwyr eiddo sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.
Rwy’n falch hefyd fod y Bil yn cynnwys adran a fydd yn gweld adolygiad annibynnol o weithrediad y dreth ar ôl chwe blynedd. Ar fater mor bwysig â threthiant—y trethiant cyntaf am rai canrifoedd—nid yw ond yn iawn ein bod ni’n gwerthuso gweithrediad unrhyw drefniadau yr ydym yn eu rhoi ar waith.
I gloi, credaf fod y dull y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei ddilyn wrth hebrwng y Bil trwy’r broses yn gosod esiampl dda iawn ar gyfer Biliau’r dyfodol. Rwy’n croesawu’r Bil hanesyddol yma ac yn mawr obeithio y bydd y Cynulliad yn ei gymeradwyo hefyd.