Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 4 Ebrill 2017.
Bydd Ceidwadwyr Cymru hefyd yn cefnogi Cam 4 y Bil hwn. A gaf innau hefyd ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am ei waith wrth oruchwylio’r craffu ar y Bil ar y cam blaenorol? Tiriogaeth newydd i un o bwyllgorau'r Cynulliad oedd hwn oherwydd, wrth gwrs, ei fod yn diriogaeth newydd i Lywodraeth Cymru hefyd, ac i Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion. A gaf i hefyd dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet Mark Drakeford am y ffordd y mae wedi ymdrin â’r Bil hwn? Fel yr ydym wedi ei glywed sawl tro, hwn yw’r Bil treth cyntaf i Gymru ers 700 neu 800 mlynedd. Rydym wedi clywed yr ymadrodd hwnnw lawer gwaith erbyn hyn. A gaf i hefyd ddiolch i chi am y ffordd yr ydych wedi ymgynghori â'r gwrthbleidiau ac Aelodau’r gwrthbleidiau, ac wedi caniatáu i’ch swyddogion ymgynghori â ni hefyd pan oedd pob math o gwestiynau gennym i’w gofyn?
Wrth gwrs, nid oes neb yn hoffi talu trethi. Ond roedd y Bil hwn yn hollol hanfodol i gau'r bwlch pan fydd treth stamp y DU yn cael ei diddymu yn fuan iawn, ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Yn y pen draw, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn dymuno gweld yr un peth: rydym am weld trethi yng Nghymru sy’n dryloyw, sy’n effeithlon ac sy’n gweithio. Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru unwaith mai proses yw datganoli ac nid digwyddiad. Wel, proses yw datganoli treth hefyd ac nid digwyddiad. Rydym ar ddechrau— camau cyntaf—y broses honno. Rwyf yn gobeithio, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gobeithio, ei bod yn broses a fydd yn y pen draw yn arwain at ffordd sy’n fwy cyfrifol, yn fwy dealladwy ac yn fwy atebol o wireddu datganoli. Rwy'n credu ein bod wedi dechrau ar y broses honno ac edrychaf ymlaen at graffu ac adolygu'r trethi wrth iddyn nhw gael eu datblygu a dod i rym.