Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu yr wythnos diwethaf diswyddo cadeirydd Chwaraeon Cymru o ystyried, wrth ei benodi, y dywedwyd wrth y cadeirydd newydd ar y pryd gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ei fod yn mynd i mewn i amgylchedd gwenwynig ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd rhoi sylw i sefydliad camweithredol ac ynysig? A yw eich holl Lywodraeth yn cytuno mai diswyddo’r cadeirydd hwn oedd y cerydd cywir?