Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 4 Ebrill 2017.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud bod Chwaraeon Cymru yn wynebu anawsterau mawr? Mae cymaint â hynny’n wir. Ceir adolygiad annibynnol o Chwaraeon Cymru, sy'n parhau ar hyn o bryd, ond roedd yn gwbl eglur bod y berthynas rhwng y cadeirydd a'r bwrdd a'r is-gadeirydd ar chwâl, ac felly bu’n rhaid cymryd camau fel y gellid ailadeiladu’r sefydliad.