2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd? OAQ(5)0550(FM)
Gwnaf. Mae wedi cyfarfod bedair gwaith a bydd cynllun cyflawni amlinellol yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, gan roi sylw i dair blaenoriaeth: yn gyntaf swyddi a sgiliau; yn ail, gwasanaethau cyhoeddus integredig a gwell; ac, yn drydydd, llesiant cymunedol a phersonol. Mae'r cynllun yn cael ei lunio, wrth gwrs, gan adborth o'r digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol.
Prif Weinidog, mae cyflogau isel a diweithdra uchel wedi bod yn bla ar y Cymoedd ers o leiaf tri degawd, felly y cwestiwn amlwg yw: beth sydd wedi cymryd mor hir i chi? Mae lleoedd fel Maerdy a Threherbert mewn angen taer am fuddsoddiad a swyddi sy'n talu'n dda, ac mae'r cymudo i Drefforest, neu ymhellach i ffwrdd o Flaenau'r Cymoedd, yn jôc. Canslwyd dau drên y bore yma. Os bydd y ddinas-ranbarth a thasglu’r Cymoedd yn wawr ffug unwaith eto i’r cymunedau hyn, ceir perygl y bydd niwed gwirioneddol yn cael ei wneud i'r sefydliad hwn ac i ddatganoli, nid yn unig i’ch Llywodraeth chi a'r Blaid Lafur. Sut ydych chi'n bwriadu, fel pennaeth y Llywodraeth hon, sicrhau bod gweithredoedd yn cyd-fynd â'r rhethreg a bod manteision gwirioneddol yn cael eu darparu i'r Cymoedd? A beth fyddwch chi’n ei wneud os bydd dwy neu bum neu 10 mlynedd arall yn mynd heibio heb unrhyw welliannau amlwg yn y cymunedau hyn?
Wel, mae trafnidiaeth yn allweddol a dyna pam mae’r metro mor bwysig. Mae'n cymryd amser annerbyniol o hir ar hyn o bryd i deithio o Dreherbert i lawr i Gaerdydd. Ni ystyrir ychwaith bod y gwasanaeth yn ddibynadwy ac mae arweinydd Plaid Cymru wedi rhoi enghraifft o hynny'n digwydd. O'r flwyddyn nesaf, byddwn wrth gwrs, yn nodi’r fasnachfraint. Nid ydym wedi cael cyfle i wneud hynny o'r blaen. Byddwn hefyd yn gallu bwrw ymlaen â’r metro, i gael gwasanaethau mwy cyfleus, mwy cyfforddus a mwy aml, a hefyd, wrth gwrs, i gysylltu'r Rhondda Fach trwy wasanaethau bws i mewn i Porth, er enghraifft, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau bws yn cysylltu yn amlach gyda'r gwasanaethau trên sy’n mynd drwy'r Rhondda Fawr.
Nawr, mae hynny'n un ffordd o gael pobl i swyddi yng Nghaerdydd, ond nid yw’n ymwneud â hynny’n unig. Rydym ni’n gwybod bod 11 miliwn o bobl yn mynd trwy Gaerdydd Canolog bob blwyddyn. Mae'n ymwneud â sicrhau ei bod yn hawdd mynd o Gaerdydd i fyny i'r Cymoedd hefyd, fel nad yw buddsoddwyr o’r farn bod y Cymoedd ymhell o Gaerdydd yn ffisegol, fel yr wyf i wedi ei glywed. Nid ydynt, rydym ni’n gwybod nad ydynt, ond dyna'r dybiaeth ohonynt weithiau, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni rwydwaith trafnidiaeth sy'n dangos bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn gallu denu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol , yn ogystal â phobl yn gallu cael mynediad at gyflogaeth lle bynnag y gallai hynny fod hefyd.
Prif Weinidog, fel y nodwyd, mae tasglu’r Cymoedd yn ystyried meysydd trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu nodi, ac, wrth gwrs, ceir Cymoedd i'r gorllewin nad ydynt yn cael eu cynnwys hyd yn oed yn agweddau’r metro. Rwy'n falch iawn o groesawu bod y tasglu yn edrych ar yr holl Gymoedd, gan gynnwys y rhai yn y gorllewin, gan gynnwys cwm Afan, a gwn y bu cyfarfod yn yr ardal honno. Ond mae twristiaeth yn bwysig yng nghwm Afan, a diwydiannau felly sy’n mynd i ysgogi adfywiad y Cymoedd hynny a'r sgiliau yr ydych chi wedi eu nodi. A wnewch chi sicrhau bod y tasglu yn ystyried datblygiad y sgiliau hynny er mwyn sicrhau y gall swyddi lleol i bobl leol ddigwydd drwy'r agenda dwristiaeth?
Yn sicr. Gwyddom fod Afan Argoed wedi bod yn ysgogwr pwysig ar gyfer twristiaeth ar ben cwm Afan. Mae Glyncorrwg, wrth gwrs, yn gweld manteision y llynnoedd pysgota a’r llwybrau beicio hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Mae'n hynod bwysig hefyd nad ydym yn anghofio bod cysylltiadau trafnidiaeth yn bwysig lle bynnag y gallai’r cwm penodol fod, ac mae hynny'n golygu, pan gawn reolaeth dros y bysiau y flwyddyn nesaf, y byddwn yn gallu ystyried sut y gallwn wella gwasanaethau yng nghwm Afan ac ar y bysiau hefyd. Rydym ni’n gwybod bod trenau wedi mynd ym 1970, ond, yn sicr, mae'n gyfle i ni nawr greu system drafnidiaeth integredig ledled Cymru, nid yn unig mewn rhai rhannau o Gymru, er budd pobl sy'n byw yn y Cymoedd.
Prif Weinidog, rwy'n clywed, hyd yn hyn, y trefnwyd naw digwyddiad ymgysylltu, pum digwyddiad wedi'u targedu, a phedwar digwyddiad ymgysylltu ffurfiol arall, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod, neu’n bwriadu bod yn bresennol, ym mhob un o'r digwyddiadau ymgysylltu hyn. A allwch chi gadarnhau bod hynny'n wir? Byddwn yn gofyn sut y mae’r safbwyntiau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl ac o bosibl pa un a allech chi hysbysu’r Cynulliad am rywfaint o’r adborth hwnnw. Ac, os yw Ysgrifenyddion y Cabinet, mewn gwirionedd yn mynd i’r digwyddiadau hyn mor rheolaidd, rwy’n cymeradwyo hynny fel arfer da iawn.
Ie, dyna'r bwriad. Mae'n hynod bwysig bod pobl yn gweld y digwyddiadau hyn fel rhai y mae’n werth dod iddynt, ac, os oes ganddynt Weinidogion Llywodraeth yn y digwyddiadau hynny, hyderaf y byddant yn teimlo bod hynny'n wir. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn i ddweud, yn y digwyddiadau cychwynnol, bod llawer iawn o rwystredigaeth yr oedd pobl yn awyddus i’w leisio, ac mae hynny'n anochel. Nawr, yr hyn yr ydym ni’n ei ddarganfod yw bod pobl yn awyddus i symud ymlaen a gweld beth y gellir ei wneud i wella ansawdd eu bywydau, pa un a yw’n sgiliau trosglwyddadwy—rydym ni’n gwybod bod sgiliau yn bwysig iawn ledled Cymru. Mae sgiliau yn allweddol i gynyddu cynnyrch domestig gros, a gwyddom fod diweithdra, ar bapur, yn llai o broblem nag yr oedd, ond mae cynnyrch domestic gros y pen yn dal i fod yn broblem, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn canolbwyntio arno yn ofalus iawn yn ystod y pum i 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.