<p>Gwasanaethau Bancio</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:24, 4 Ebrill 2017

Mae datganiad Banc Lloyd’s yr wythnos yma eu bod nhw’n bwriadu shrincio nifer fawr o ganghennau banciau yn bryderus mewn sawl ffordd, wrth gwrs, yn arbennig o ran y cwtogiadau mewn swyddi mae hynny’n sicr o’i olygu a’r erydiad yn y gwasanaeth cownteri wyneb yn wyneb. Ond mi allwn ni hefyd gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y cyhoeddiad yn rhannol, o ran mai’r hyn rydym ni’n ei weld ydy’r banc yn addasu fel ymateb i newidiadau yn arferion cwsmeriaid, yn hytrach na chymryd y cam sydd wedi ymddangos yn llawer rhy hawdd iddyn nhw yn y gorffennol, sef cau canghennau. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai pwyso ar y banciau i addasu yn hytrach na chau sydd orau er mwyn y stryd fawr yng Nghymru ac y dylid chwilio i ddefnyddio pob arf deddfwriaethol a rheoleiddiol posib er mwyn pwyso arnyn nhw i wneud hynny?