Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Ebrill 2017.
Nid ydw i’n credu bod modd deddfwriaethol i newid y sefyllfa, ond rwy’n cytuno â fe ynglŷn â’r ffaith y dylai’r banciau feddwl am bopeth ond cau—taw cau dylai fod yr opsiwn diwethaf, nid yr opsiwn cyntaf, o achos y ffaith, wrth gwrs, fod y gwasanaeth yn cael ei golli ar y stryd fawr. Os nad yw hynny’n bosib, mae e’n hollbwysig, felly, fod y banciau yn delio â swyddfa’r bost er mwyn bod y gwasanaethau’n gallu parhau yn y swyddfa bost, ond, wrth gwrs, ni fyddem ni’n moyn gweld cau canghennau fel rhywbeth sydd yn flaenoriaeth i’r banciau.