– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Ebrill 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a’r cyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Tri newid sydd gennyf i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Fel yr addawyd yr wythnos ddiwethaf, mae'r Prif Weinidog yn bwriadu arwain dadl ar yr Undeb Ewropeaidd y prynhawn yma. Gan hynny, rwy’n gwneud cynnig i atal y Rheolau Sefydlog perthnasol er mwyn caniatáu hynny, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ei gefnogi. Rwyf hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i drefn y datganiadau llafar heddiw. Yn olaf, gohiriwyd y ddadl ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi drwy gyfrwng y rhaglen cartrefi cynnes. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y cyhoeddiad datganiad busnes sydd ymhlith y papurau cyfarfod ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Rwyf am ofyn a all Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU o ran y posibilrwydd o alltudio teulu—teulu Rebwah—sydd yn byw ar hyn o bryd yn Abertawe. Mae dau deulu wedi gadael Irac dan amgylchiadau trist iawn. Bu farw dau o'r tadau ar eu taith o achos oerfel, a bu farw'r fam. Mae un o'r teuluoedd—y plant amddifad—wedi cael caniatâd i aros am ddwy flynedd a hanner. Cafodd ei gadarnhau yn achos brys, felly rydym yn croesawu hynny.
Ond nid yw’r plant eraill wedi cael caniatâd i aros, sef Marwa, sy'n bum mlwydd oed, Dani, sy'n 11, a Mohammed, sy'n 12, ynghyd â'u mam. Maen nhw gyda'u hewythr ar hyn o bryd, yn Abertawe, gŵr o Irac, ond erbyn hyn mae’n ddinesydd Prydeinig. Aeth ef draw i'r gwersyll lle’r oedden nhw, ym Mwlgaria, a mynnodd na fyddai'n gadael nes iddyn nhw dderbyn caniatâd i ddod gydag ef i Abertawe. Felly, nid oes ganddyn nhw ddim byd o gwbl i fynd yn ôl ato, oherwydd roeddent mewn gwersyll mewn gwirionedd, wedi ffoi o Irac, pan oedd y rhyfel yn Irac ar ei waethaf.
Rwy’n deall—wrth gwrs fy mod yn deall—y ffaith nad oes gennym bwerau dros fewnfudo yn y fan hon, ond mae’r teulu hwn wedi bod drwyddi mewn dull mor ddirdynnol; maen nhw’n ceisio cefnogaeth gan ein gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd oherwydd y profiadau dirdynnol hynny. A byddwn yn eich annog chi, fel Llywodraeth, i gefnogi'r teulu yn Abertawe a dangos hynny trwy gyflwyno sylwadau ar fyrder i Lywodraeth y DU.
Wel, fel y dywedodd yr Aelod, mae’n amlwg nad yw polisi mewnfudo a lloches wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Rwy’n diolch i Bethan Jenkins am godi’r cwestiwn hwn, a hefyd am sôn wrthym am gyflwr ac amgylchiadau’r teulu hwn, yr ydym yn cydymdeimlo’n ddwys â nhw, o ran amgylchiadau'r achos hwn. Ac, wrth gwrs, rwy’n gwybod y bydd ein gwasanaethau ni, sydd ar gael i'r teulu hwnnw, ac i'r rhai hynny yr effeithir arnyn nhw—i deulu Rebwah—y byddant ar gael. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi ei nodi a'i fynegi, ac mae eich sylwadau ar gofnod.
Ddydd Gwener diwethaf cafodd un o’m hetholwyr i, Ronahi Hasan, o Ystum Taf, ei henwi yn fyfyriwr newyddiaduraeth y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru, a hynny am ddarn a ysgrifennodd ar ei mamwlad Syria, a gyhoeddwyd yn y 'Western Mail'. Daeth Ronahi i'r wlad hon yn ffoadures yn 2008 gyda'i theulu, â thri o blant. Roedd yn rhaid iddi werthu ei thŷ i dalu am gael ei smyglo yma, ac mae wedi bod yn frwydr galed iawn iddi ymgartrefu yma a gwneud bywyd iddi hi ei hun a'i theulu yng Nghymru. Ond, erbyn hyn, mae'r teulu yn ddinasyddion Prydeinig ac yn gwneud cyfraniad aruthrol at fywyd yma yng Nghymru.
Felly, a gaf i alw am ddatganiad ar yr hyn sydd wedi digwydd i ffoaduriaid o Syria sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru, a fyddai'n rhoi cyfle i dalu teyrnged i bobl debyg i’m hetholwraig i, sydd wedi cyflawni cymaint? Ac fe wn y byddai’r mwyafrif helaeth ohonom ni yma yn y Cynulliad yn cefnogi hynny.
Unwaith eto, rwy'n falch iawn fod Julie Morgan wedi tynnu ein sylw ni at hyn, er mwyn i ninnau hefyd gael llongyfarch Rohani Hasan o Ystum Taf, a enwyd yn fyfyriwr newyddiaduraeth y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Ac, yn wir, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ni heddiw yma yn y Siambr hon, yn y Senedd, i gydnabod hynny a sylweddoli hynny, ac rwy'n siŵr y byddwn yn dymuno darllen y darn a ysgrifennodd ar ei mamwlad Syria.
Gwyddom fod llawer o ffoaduriaid, gan gynnwys rhai o Syria, wedi goresgyn rhwystrau enfawr, yn ogystal â digwyddiadau dirdynnol, er mwyn llwyddo i wneud bywyd iddyn nhw eu hunain yng Nghymru a chyfrannu at ein cenedl. Felly, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn rhoi’r diweddaraf am ailsefydlu ffoaduriaid yng Nghymru, ac wrth gwrs bydd ef wedi clywed y drafodaeth hon heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ardal sy’n enwog ledled Cymru am gerddoriaeth fyw yw Stryd Womanby, ac rwy'n siwr fod llawer ohonom yn y Siambr hon wedi treulio rhai nosweithiau hwyr iawn mewn mannau fel hyn. Mae llawer o gerddorion enwog wedi dechrau ar eu gyrfaoedd yn Stryd Womanby. Cenedl gerddorol yw Cymru a cherddoriaeth yw curiad ei chalon. A churiad calon y ddinas hon hefyd, ac mae angen i ni annog cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd a ledled Cymru. Ond y broblem yn syml yw nad ydyw’r gyfundrefn gynllunio bresennol yn gwneud hynny, oherwydd mae'n caniatáu i adeiladau gael eu datblygu weithiau mewn lleoliadau sy’n agos iawn at fan lle ceir cerddoriaeth fyw. Yna, pan fydd rhywun yn cwyno, bydd yn rhaid i'r man hwnnw gau am byth. Felly, gallai man i glywed cerddoriaeth fyw, fel yr un yn Stryd Womanby, fod yno am 35 mlynedd. Gall datblygiad ddigwydd y drws nesaf, gall fflat gael ei gynnwys yn yr adeilad, a bydd hynny’n ddigon i gyfiawnhau cau'r gyrchfan i glywed cerddoriaeth fyw. Nawr, yr hyn sydd ei angen yng Nghymru yw nodi’r egwyddor o asiant newid yng ngeiriad cyfraith cynllunio. Mae 'na ddeiseb, ac rwy’n deall bod mwy na 3,000 o bobl wedi ei llofnodi. Mae ’na ddatganiad barn hefyd, ac rwyf wedi ei chynnwys, a byddwn yn annog pob AC sydd yma i lofnodi’r ddeiseb honno. Nawr, yr hyn sydd angen ei wneud yw dynodi mannau fel Stryd Womanby yn ganolfannau diwylliannol, y mae angen eu diogelu drwy gyfraith cynllunio. Mae Maer Llundain yn gwneud hynny, felly a fydd eich Llywodraeth chi? Drosodd atoch chi, Gweinidog.
Mae'r Aelod wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cerddoriaeth fyw yng Nghymru, y mae llawer ohonom, wrth gwrs, wedi ei mwynhau mewn mannau cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, ac rydych yn tynnu sylw at un ohonyn nhw yma yn y brifddinas, yng Nghaerdydd. Yn wir, rydych yn dweud hefyd bod deiseb ynglŷn â’r mater hwn i’w gyflwyno, ac rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor Deisebau yn ymdrin â hynny ac yn gwneud yn siŵr ei fod wedyn yn derbyn ein sylw ni.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn i ni gael dadl ar ffioedd trwyddedu ar gyfer bridwyr cŵn a siopau anifeiliaid anwes yng Nghymru. Daeth i’m sylw yn ddiweddar y gall ffioedd trwyddedu ar gyfer y ddeubeth amrywio’n fawr—trwyddedau bridio cŵn rhwng £23 a £688, a gall trwyddedau siop anifeiliaid anwes amrywio o £23 i £782. O ganlyniad i bolisïau cyni Llywodraeth y DU, mae llawer o awdurdodau lleol wedi gorfod cwtogi llawer ar eu cyllidebau ac o ganlyniad yn eu cael eu hunain yn brin o arolygwyr anifeiliaid. Fel y byddwch i gyd, rwy’n siŵr, yn ymwybodol ohono yma, bu rhai achosion ofnadwy yn fy ardal i o esgeuluso a chreulondeb i anifeiliaid mewn tai bridio cŵn. Rwyf o’r farn y gallai cyflwyno system drwyddedu deg i bob bridiwr a phob siop anifeiliaid anwes o bosib godi'r arian sy’n angenrheidiol i helpu i gau'r bwlch, a gwneud yn siŵr bod y sefydliadau hyn yn cael eu harchwilio'n rheolaidd er mwyn cynnal lefelau uchel o les anifeiliaid ac osgoi creulondeb ac esgeulustod, neu eu lleihau cyn gynted â phosib.
Rwy’n diolch hefyd i'r Aelod am ddwyn y mater pwysig hwn i'n sylw ni heddiw. Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn rheoli trwyddedu bridio cŵn yng Nghymru. Deddf Anifeiliaid Anwes 1951 a Deddf Anifeiliaid Anwes (Diwygiad) 1983 sy’n ymdrin â siopau anifeiliaid anwes, a godwyd gennych chi, wrth gwrs. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hyn, ond mae nifer o feysydd gwaith yn ymwneud â thrwyddedu a chofrestru sefydliadau lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad i feysydd gweithgarwch ar berchnogaeth gyfrifol ac arddangosfeydd anifeiliaid symudol.
Yr wythnos ddiwethaf, cefais y fraint o gwrdd â dirprwy faer Hargeisa, Somaliland, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn ddiddorol clywed am y sefydlogrwydd cymharol a’r heddwch sydd wedi ei sicrhau yn y wlad honno, heb gydnabyddiaeth ryngwladol. Rwy'n gwybod am y gefnogaeth sylweddol sydd wedi bod ar draws y Siambr i gydnabod Somaliland, yn enwedig mewn Cynulliadau blaenorol, ac, yn wir, cynhaliwyd pleidlais yn 2006 i gydnabod Somaliland. Roedd y dirprwy faer yn awyddus i weld y gefnogaeth honno’n parhau, ac yn cael ei hadnewyddu os oes modd, ar sail drawsbleidiol, a gallaf gadarnhau yn sicr y byddai Plaid Cymru yn awyddus iawn i gydnabod Somaliland eto ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru . A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei chydnabyddiaeth o Somaliland?
Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig iawn hefyd ynglŷn â’r cysylltiadau agos hynny, ac, yn wir, gwestiynau a phwyntiau am y cysylltiadau hynny o ran Somaliland, gan dynnu sylw unwaith eto at y sefydlogrwydd a gafwyd a’r gydnabyddiaeth o bobl o Somaliland. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cododd Julie Morgan y mater hwn gyda ni. Felly, yn sicr, byddwn yn edrych ar sut y gallwn fynegi ein cefnogaeth yn y ffordd y dymunwch chi.
Diolch i arweinydd y tŷ.