Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n gyfarwydd iawn ag ymgyrch Dilyn y Ddeddf Gofalwyr Cymru, ac rwyf wir yn croesawu'r mewnbwn a'r her adeiladol y maen nhw’n eu rhoi i ni, ac ymgysylltiad cadarnhaol y trydydd sector a’r sector gwirfoddol yn y dull cydgynhyrchu sydd gennym ni drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan weithio mewn partneriaeth â ni a chydag awdurdodau lleol i wella, yn benodol, canlyniadau i ofalwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal.
Rwy'n credu ei bod yn ddyddiau cynnar eto, ac rwy’n cydnabod bod amrywiadau o ran casglu data ledled Cymru, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod rhywfaint o arfer rhagorol yn datblygu hefyd. Yn rhan o'r fframwaith rheoli perfformiad sy'n datblygu ar gyfer y Ddeddf newydd, mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod dull cyson o ddefnyddio data ar sail genedlaethol wrth i ni symud ymlaen. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi neilltuo ffrwd waith benodol i sicrhau cysondeb cenedlaethol o ran gweithrediad y fframwaith rheoli perfformiad, oherwydd rwy’n cydnabod pwysigrwydd cael data cymharol ledled Cymru gyfan.
Gan gyfeirio’n benodol at yr adroddiad a ddarparwyd gan Gofalwyr Cymru—ac rwy’n cydnabod ei fod wedi bod yn ddefnyddiol—cynhyrchwyd y data trwy gais rhyddid gwybodaeth ynghylch y chwe mis cyntaf o weithredu, felly rydym ni wedi symud ymlaen chwe mis arall ers hynny. Ond mae awdurdodau lleol ac, yn wir, Gofalwyr Cymru eu hunain yn cydnabod yr amrywiadau a’r anghysondeb o ran adrodd yn erbyn y cais rhyddid gwybodaeth penodol hwn, ac mae hynny'n siomedig. Felly, er mwyn cael data cryfach a mwy cymharol yn y dyfodol, rwy'n falch o’ch diweddaru chi bod awdurdodau lleol a Gofalwyr Cymru wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i lunio’r cais yn well er mwyn sicrhau gwybodaeth fwy cyson a chadarn, wrth i ni fwrw ymlaen yn y misoedd nesaf. Byddwn yn disgwyl gwelliant o ran cofnodi ac adrodd ac, yn sicr, bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r gwaith o weithredu’r Ddeddf.
Felly, o ran fy ymateb i'r adroddiad, rwy’n credu ei bod yn anodd dod i gasgliadau pendant ohono oherwydd ansawdd y data, ac mae’n werth nodi hefyd bod prif weithredwr Gofalwyr Cymru wedi datgan nad yw gofalwyr ac unigolion ehangach dan sylw bob amser yn cydnabod eu bod wedi cymryd rhan mewn asesiad hefyd o reidrwydd, felly mae’n sicr bod gennym ni dipyn o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ac mae gofalwyr yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol os ydynt wedi cael neu gymryd rhan mewn sgwrs ynghylch 'yr hyn sy'n bwysig', sef ein ffordd ni o ddatblygu’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.
Felly, i grynhoi, nid yw'r data yn dangos bod gofalwyr yn cael eu hamddifadu o’u hawl i asesiad, ond yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw nad yw ymgysylltu drwy'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn cael ei gofnodi’n effeithiol ac yn gyson ledled Cymru. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith yn sicr er mwyn ymgorffori’r cysondeb hwnnw. Rwyf wedi cyflwyno cynigion i werthuso effeithiau tymor byr, canolig a hirdymor y Ddeddf hefyd. Cyflwynodd Mark Drakeford, y Gweinidog blaenorol, y broses ar gyfer gwerthuso a monitro'r Ddeddf mewn datganiad ar 31 Mawrth, yn ôl yn 2016, a bydd yn cael ei chysylltu'n eglur â’r gwaith sydd eisoes wedi ei sefydlu ar y fframwaith canlyniadau cenedlaethol, y cyfeiriais ato yn fy natganiad hefyd, sydd â 50 o wahanol ganlyniadau y byddwn yn mesur yn eu herbyn. Felly, y bwriad yw y bydd gennym ni ddata cadarn iawn i ddangos ble’r ydym ni nawr yn ogystal â dangos gwelliant dros amser mewn ffordd sy’n gyson ledled Cymru gyfan hefyd.
Hoffwn ailadrodd yr ymrwymiad i'r dull cenedlaethol o ran gofal seibiant. Mae gwaith yn parhau ar hynny gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol yn arbennig, gan edrych hefyd ar fodelau sydd ar waith mewn mannau eraill. Wrth gwrs, rwy’n gwbl agored i safbwyntiau a syniadau a mewnbwn gan yr Aelodau yn y Siambr ar y mater hwn hefyd.