<p>Pobl Fyddar</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:16, 5 Ebrill 2017

Mewn cyfarfod diweddar efo Action on Hearing Loss, mi glywais i stori am ddynes fyddar efo arwydd ar ei drws ffrynt yn dweud ‘Mae’n ddrwg gen i, ond gan na allaf i glywed y gloch rwy’n cadw’r drws ar agor, felly dewch i mewn.’ Nid yw hynny, yn amlwg, yn dderbyniol. Beth oedd ei angen, wrth gwrs, ar y ddynes yna oedd cymorth i gael y dechnoleg angenrheidiol i’w hysbysu hi pan oedd rhywun wrth y drws er mwyn ei chadw ei hun yn ddiogel. Mae’r elusen yn nodi bod y gwariant ar offer i gefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw wedi mwy na haneru yn y bedair blynedd hyd at 2014-15. Mae yna wahaniaethau mawr hefyd yn faint sy’n cael ei wario o ardal i ardal. Gan bod hwn yn eich portffolio chi, a ydych chi’n cytuno bod angen strategaeth i geisio sicrhau yn y dyfodol bod arian yn mynd yn ôl i’r bobl sydd ei angen o er mwyn helpu’r rhai fel y ddynes yma a oedd mewn peryg, mewn difri, oherwydd diffyg buddsoddiad yn yr offer angenrheidiol?