Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 5 Ebrill 2017.
Credaf ei bod yn amherthnasol o ble y daw’r ffrwd gyllido, boed hynny drwy wasanaethau cymdeithasol neu drwy’r grant cyfleusterau i’r anabl neu fel arall yn y portffolio hwn. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ganolbwyntio ar yr unigolyn a’u hanghenion, ac os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn â hyn, mae’n rhywbeth y byddwn yn fwy na pharod i fynd ar ei drywydd ar ei ran.