<p>Pobl Fyddar</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:18, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddatgan buddiant, gan fod fy chwaer yn hollol fyddar? A gaf fi ategu’r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth? I rywun sy’n fyddar, mae golau’n cyflawni’r un swyddogaeth ag y mae sain yn ei chyflawni i’r rhai ohonom sy’n gallu clywed. Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod gan bobl fyddar larymau tân sy’n fflachio golau—gan na fydd larwm tân sain o unrhyw ddefnydd iddynt o gwbl—a chan ategu’r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, clychau drysau sy’n fflachio golau fel y gallant bwyso ar gloch y drws ac mae’n fflachio yn y tŷ? Oherwydd, unwaith eto, nid yw sain yn gwneud unrhyw wahaniaeth, ac rwy’n cytuno’n llwyr â Rhun ap Iorwerth na ddylai pobl adael drws eu tai ar agor am na allant glywed pobl yn curo arno.