Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma’r tro olaf y byddwch chi’n clywed gen i y prynhawn yma—cyn y Pasg, hyd yn oed. Ond, serch hynny, rwy’n falch o wneud y datganiad yma ar ran y Pwyllgor Cyllid yn sôn am ein profiad ni o gynnal gwrandawiad cyn penodi ar benodiad gweinidogol, ar gyfer y broses o recriwtio cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n croesawu’r cyfle i roi gwybodaeth i’r Cynulliad, a bydd hyn, gobeithio, yn helpu i wella’r weithdrefn hon yn y dyfodol ac yn rhoi cyngor hefyd i bwyllgorau eraill.
Mae llawer ohonom yn y Cynulliad wedi bod yn galw am wrandawiadau cyn penodi ers peth amser. Daeth yr awgrym i gynnal gwrandawiad ar gyfer yr achos recriwtio hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, yn mynd yn ôl, yn 2012, pan oedd yntau, Ysgrifennydd y Cabinet, yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe ysgrifennodd e erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig, y dyfynnaf ohoni:
one significant way in which the Senedd now lags behind developments elsewhere in accountability and openness lies in the appointment of key public officials’.
Mae’n werth nodi, felly, fod y gwrandawiad cyntaf o’r math hwn, a gynhaliwyd gan bwyllgor Tŷ’r Cyffredin, wedi digwydd yn ôl yn 2008, felly rydym bron i 10 mlynedd y tu ôl i San Steffan, ac nid wyf yn hapus â hynny. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i symud y Cynulliad i’r un drefn â chyrff seneddol eraill.
Roeddem yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’r broses o benodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y profiad hwn yn gosod cynsail ar gyfer prosesau recriwtio yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gwrandawiad gan y pwyllgor ar 16 Chwefror, a’i brif bwrpas oedd rhoi sicrwydd i ni fel Aelodau, ac fel pwyllgor, ynghylch addasrwydd ymgeisydd a ffefrir Llywodraeth Cymru ar gyfer y swydd. Roedd hefyd yn gosod yr ymgeisydd mewn sefyllfa o graffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy’n rhywbeth y mae angen i’r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod ar ei gyfer.
Roedd y pwyllgor mewn sefyllfa dda i gynnal y gwrandawiad hwn, o ystyried ein gwaith craffu ar amrywiol ddeddfwriaeth treth, a’n diddordeb yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Roeddem yn falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y weithdrefn hon, er i ni nodi nad oes unrhyw ganllawiau penodol ar waith yn y Cynulliad ar gyfer gwrandawiadau o’r math hwn ar hyn o bryd. Gan fod amser yn brin y tro hwn, defnyddion ni ganllawiau San Steffan fel sail, a gweithio i gytuno ar set o egwyddorion cyffredinol y byddem yn cadw atynt ar gyfer y gwrandawiad penodol hwn.
Wrth symud ymlaen, yn seiliedig ar ein profiad ni, byddwn yn awgrymu yn gryf fod set o ganllawiau ffurfiol yn cael eu sefydlu ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, er mwyn darparu dull mwy strategol. Dylai’r canllawiau nodi’r egwyddorion i’w cytuno gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio gweithdrefnau arfer gorau mewn seneddau eraill, a gellid gweld y broses yma fel rhan o ddatblygu protocolau rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Dylid ystyried y camau hyn fel rhan o’r gwaith cyffredinol sydd yn cael ei wneud i gytuno’r protocolau, fel rwyf newydd ei ddweud.
Yn seiliedig ar brofiad y Pwyllgor Cyllid, rwyf yn credu y dylai’r canllawiau gwmpasu nifer o feysydd. Yn gyntaf, sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet neu’r Gweinidog priodol yn ymgorffori barn y pwyllgor? Er fy mod yn cefnogi’r syniad o gynnal gwrandawiadau cyn penodi, rhaid i ni sicrhau nad yw’n dod yn ymarfer ticio bocsys, a bod barn pwyllgor yn cael y sylw dyledus gan y Llywodraeth. Byddai hyn yn sicrhau bod y pwyllgorau yn deall eu rôl yn y broses.
Nid oeddem wedi gweld y wybodaeth a gyflwynodd yr ymgeisydd wrth wneud ei chais. Yn fy marn i, roedd y wybodaeth a gawsom ymlaen llaw yn bitw. Mae angen i bwyllgorau ddeall pam y mae Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffafrio’r ymgeisydd, a pham y credir ei fod ef neu hi yn addas ar gyfer y swydd. Byddai’n ddefnyddiol pe gellid darparu datganiad i’r pwyllgor priodol. Gyda dim ond cyfnod byr o amser, a gwybodaeth gyfyngedig ar gael, byddai datganiad yn hwyluso cwestiynu mwy effeithiol a pherthnasol.
Ar yr achlysur hwn, cytunodd y pwyllgor i adrodd o dan embargo i Ysgrifennydd y Cabinet o fewn 24 awr i’r gwrandawiad, ac i gyhoeddi adroddiad dwyieithog o fewn dau ddiwrnod. Yn yr achos hwn, roedd amser yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor gael trafodaeth fer, ond nid o reidrwydd ddigon o amser i Aelodau ystyried unrhyw bryderon yn fanwl iawn. Nid oedd yn bosibl i’r pwyllgor ddod i farn unfrydol ar y mater, a mynegwyd yr anghytuno barn mewn adroddiad mwyafrifol. Mae’n bosibl, gyda mwy o amser a chyfle i drafod y pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai’r pwyllgor wedi dod i gasgliad cytûn.
Byddwn yn argymell, felly, ar gyfer gwrandawiadau yn y dyfodol, y dylid diwygio’r amserlenni adrodd hyn i ganiatáu amser ar gyfer ystyriaeth briodol gan y pwyllgor, tra’n bod yn ymwybodol o achosi oedi yn y broses recriwtio. Pe byddai gwrandawiadau cyn penodi yn dod yn rhan arferol o’r broses recriwtio, byddwn yn awgrymu bod amser adrodd ychwanegol yn cael ei gynnwys, felly, yn yr amserlenni. Wrth ddweud hyn, rwy’n nodi na fu cadarnhad gan y Llywodraeth o’r penodiad tan wythnos diwethaf, oherwydd gwiriadau diogelwch lefel uchel.
Wrth i ni barhau i dyfu fel Senedd, bydd gwrandawiadau cyn penodi fel hyn yn gwella ein henw da fel deddfwrfa aeddfed. Ar hyn o bryd, mae gwrandawiadau o’r fath yn cael eu cynnal mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, gan gynnwys San Steffan, Senedd yr Alban a Senedd Ewrop, yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Mae’r canllawiau a ddilynir ym mhob Senedd yn amrywio. Fodd bynnag, mae gan bob sefydliad restr o benodiadau cyhoeddus sydd yn destun gwrandawiad cyn penodi. Credaf y byddai rhestr o’r math hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i ganllawiau’r Cynulliad. Mae’r dull hwn yn dangos enghraifft glir o arfer gorau. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw weithdrefn newydd, mae lle i wella. Os gall Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad weithio gyda’i gilydd i wneud y broses hon yn effeithiol a chynhyrchiol, nid oes rheswm pam na allai Cymru fod yn wlad y mae Seneddau eraill yn edrych arni fel enghraifft o arfer da.
Drwy weithio gyda’n gilydd ar ganllawiau a sefydlu gweithdrefnau effeithiol, mae gennym gyfle i arwain y ffordd o ran cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol. Gallwn ddysgu o arfer gorau mewn Seneddau eraill i ffurfio ein gweithdrefn ein hunain sy’n rhoi hyder i’r cyhoedd yn y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau yn y Siambr hon. Byddwn yn croesawu, felly, cwestiynau a sylwadau gan Aelodau eraill.