– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 5 Ebrill 2017.
Eitem 6 ar ein hagenda yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar benodiadau gweinidogol: gwrandawiadau cyn penodi gan bwyllgorau’r Cynulliad, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas, i gynnig y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma’r tro olaf y byddwch chi’n clywed gen i y prynhawn yma—cyn y Pasg, hyd yn oed. Ond, serch hynny, rwy’n falch o wneud y datganiad yma ar ran y Pwyllgor Cyllid yn sôn am ein profiad ni o gynnal gwrandawiad cyn penodi ar benodiad gweinidogol, ar gyfer y broses o recriwtio cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n croesawu’r cyfle i roi gwybodaeth i’r Cynulliad, a bydd hyn, gobeithio, yn helpu i wella’r weithdrefn hon yn y dyfodol ac yn rhoi cyngor hefyd i bwyllgorau eraill.
Mae llawer ohonom yn y Cynulliad wedi bod yn galw am wrandawiadau cyn penodi ers peth amser. Daeth yr awgrym i gynnal gwrandawiad ar gyfer yr achos recriwtio hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, yn mynd yn ôl, yn 2012, pan oedd yntau, Ysgrifennydd y Cabinet, yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fe ysgrifennodd e erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig, y dyfynnaf ohoni:
one significant way in which the Senedd now lags behind developments elsewhere in accountability and openness lies in the appointment of key public officials’.
Mae’n werth nodi, felly, fod y gwrandawiad cyntaf o’r math hwn, a gynhaliwyd gan bwyllgor Tŷ’r Cyffredin, wedi digwydd yn ôl yn 2008, felly rydym bron i 10 mlynedd y tu ôl i San Steffan, ac nid wyf yn hapus â hynny. Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i symud y Cynulliad i’r un drefn â chyrff seneddol eraill.
Roeddem yn croesawu’r cyfle i fod yn rhan o’r broses o benodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd y profiad hwn yn gosod cynsail ar gyfer prosesau recriwtio yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gwrandawiad gan y pwyllgor ar 16 Chwefror, a’i brif bwrpas oedd rhoi sicrwydd i ni fel Aelodau, ac fel pwyllgor, ynghylch addasrwydd ymgeisydd a ffefrir Llywodraeth Cymru ar gyfer y swydd. Roedd hefyd yn gosod yr ymgeisydd mewn sefyllfa o graffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy’n rhywbeth y mae angen i’r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod ar ei gyfer.
Roedd y pwyllgor mewn sefyllfa dda i gynnal y gwrandawiad hwn, o ystyried ein gwaith craffu ar amrywiol ddeddfwriaeth treth, a’n diddordeb yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Roeddem yn falch o’r cyfle i gymryd rhan yn y weithdrefn hon, er i ni nodi nad oes unrhyw ganllawiau penodol ar waith yn y Cynulliad ar gyfer gwrandawiadau o’r math hwn ar hyn o bryd. Gan fod amser yn brin y tro hwn, defnyddion ni ganllawiau San Steffan fel sail, a gweithio i gytuno ar set o egwyddorion cyffredinol y byddem yn cadw atynt ar gyfer y gwrandawiad penodol hwn.
Wrth symud ymlaen, yn seiliedig ar ein profiad ni, byddwn yn awgrymu yn gryf fod set o ganllawiau ffurfiol yn cael eu sefydlu ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, er mwyn darparu dull mwy strategol. Dylai’r canllawiau nodi’r egwyddorion i’w cytuno gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio gweithdrefnau arfer gorau mewn seneddau eraill, a gellid gweld y broses yma fel rhan o ddatblygu protocolau rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Dylid ystyried y camau hyn fel rhan o’r gwaith cyffredinol sydd yn cael ei wneud i gytuno’r protocolau, fel rwyf newydd ei ddweud.
Yn seiliedig ar brofiad y Pwyllgor Cyllid, rwyf yn credu y dylai’r canllawiau gwmpasu nifer o feysydd. Yn gyntaf, sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet neu’r Gweinidog priodol yn ymgorffori barn y pwyllgor? Er fy mod yn cefnogi’r syniad o gynnal gwrandawiadau cyn penodi, rhaid i ni sicrhau nad yw’n dod yn ymarfer ticio bocsys, a bod barn pwyllgor yn cael y sylw dyledus gan y Llywodraeth. Byddai hyn yn sicrhau bod y pwyllgorau yn deall eu rôl yn y broses.
Nid oeddem wedi gweld y wybodaeth a gyflwynodd yr ymgeisydd wrth wneud ei chais. Yn fy marn i, roedd y wybodaeth a gawsom ymlaen llaw yn bitw. Mae angen i bwyllgorau ddeall pam y mae Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffafrio’r ymgeisydd, a pham y credir ei fod ef neu hi yn addas ar gyfer y swydd. Byddai’n ddefnyddiol pe gellid darparu datganiad i’r pwyllgor priodol. Gyda dim ond cyfnod byr o amser, a gwybodaeth gyfyngedig ar gael, byddai datganiad yn hwyluso cwestiynu mwy effeithiol a pherthnasol.
Ar yr achlysur hwn, cytunodd y pwyllgor i adrodd o dan embargo i Ysgrifennydd y Cabinet o fewn 24 awr i’r gwrandawiad, ac i gyhoeddi adroddiad dwyieithog o fewn dau ddiwrnod. Yn yr achos hwn, roedd amser yn syth ar ôl y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor gael trafodaeth fer, ond nid o reidrwydd ddigon o amser i Aelodau ystyried unrhyw bryderon yn fanwl iawn. Nid oedd yn bosibl i’r pwyllgor ddod i farn unfrydol ar y mater, a mynegwyd yr anghytuno barn mewn adroddiad mwyafrifol. Mae’n bosibl, gyda mwy o amser a chyfle i drafod y pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai’r pwyllgor wedi dod i gasgliad cytûn.
Byddwn yn argymell, felly, ar gyfer gwrandawiadau yn y dyfodol, y dylid diwygio’r amserlenni adrodd hyn i ganiatáu amser ar gyfer ystyriaeth briodol gan y pwyllgor, tra’n bod yn ymwybodol o achosi oedi yn y broses recriwtio. Pe byddai gwrandawiadau cyn penodi yn dod yn rhan arferol o’r broses recriwtio, byddwn yn awgrymu bod amser adrodd ychwanegol yn cael ei gynnwys, felly, yn yr amserlenni. Wrth ddweud hyn, rwy’n nodi na fu cadarnhad gan y Llywodraeth o’r penodiad tan wythnos diwethaf, oherwydd gwiriadau diogelwch lefel uchel.
Wrth i ni barhau i dyfu fel Senedd, bydd gwrandawiadau cyn penodi fel hyn yn gwella ein henw da fel deddfwrfa aeddfed. Ar hyn o bryd, mae gwrandawiadau o’r fath yn cael eu cynnal mewn gwahanol ddeddfwrfeydd, gan gynnwys San Steffan, Senedd yr Alban a Senedd Ewrop, yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Mae’r canllawiau a ddilynir ym mhob Senedd yn amrywio. Fodd bynnag, mae gan bob sefydliad restr o benodiadau cyhoeddus sydd yn destun gwrandawiad cyn penodi. Credaf y byddai rhestr o’r math hwn yn ychwanegiad gwerthfawr i ganllawiau’r Cynulliad. Mae’r dull hwn yn dangos enghraifft glir o arfer gorau. Fodd bynnag, fel gydag unrhyw weithdrefn newydd, mae lle i wella. Os gall Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad weithio gyda’i gilydd i wneud y broses hon yn effeithiol a chynhyrchiol, nid oes rheswm pam na allai Cymru fod yn wlad y mae Seneddau eraill yn edrych arni fel enghraifft o arfer da.
Drwy weithio gyda’n gilydd ar ganllawiau a sefydlu gweithdrefnau effeithiol, mae gennym gyfle i arwain y ffordd o ran cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol. Gallwn ddysgu o arfer gorau mewn Seneddau eraill i ffurfio ein gweithdrefn ein hunain sy’n rhoi hyder i’r cyhoedd yn y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru ac Aelodau yn y Siambr hon. Byddwn yn croesawu, felly, cwestiynau a sylwadau gan Aelodau eraill.
Ar ran Steffan Lewis, sy’n aelod o’r pwyllgor, a gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am y datganiad heddiw ac am drafod y cyfle pwysig, rwy’n meddwl, sydd o’n blaenau ni i wella nid yn unig tryloywder y penodiadau gweinidogol, ond hefyd gallu’r Cynulliad i ddal y Llywodraeth i gyfrif? Mae’n ddatganiad amserol iawn mewn difrif, o ystyried bod y Cynulliad yn prysur aeddfedu fel deddfwrfa. Mae yna ddigon o dystiolaeth o hynny—prin bod yr inc yn sych ar y Ddeddf trethi Cymreig gyntaf a gafodd ei phasio yn y Siambr yma ddoe.
Yn fy marn i, byddai cyflwyno gwrandawiadau cyn penodi yn cefnogi’r datblygiad ehangach yma o aeddfedu, ac, fel soniodd y Cadeirydd, mi fyddai’n symud Cynulliad Cenedlaethol Cymru tuag at yr un drefn â llawer iawn o ddeddfwrfeydd eraill ar draws y byd. Felly, rwy’n croesawu’r cynnig yma i fwrw ymlaen efo’r gwaith o lunio canllawiau ffurfiol ar gyfer cynnal gwrandawiadau cyn penodi. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Llywodraeth yn cytuno i weithio efo’r pwyllgorau perthnasol yn y fenter yma—y fenter a fydd yn datblygu peirianwaith y Cynulliad, rwy’n meddwl, er budd ein democratiaeth, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed safbwynt y Llywodraeth ar hyn.
Rwy’n cytuno efo sylwadau’r Cadeirydd hefyd fod angen sicrhau i drefniadau ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi fod yn llawer mwy na dim ond ymarfer ticio bocsys. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae potensial y gwrandawiadau yma i wella gallu’r Cynulliad i graffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth yn ddibynnol ar y pwyllgor perthnasol yn meddu ar y wybodaeth briodol er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir. Felly, mi liciwn i ategu galwad y Cadeirydd bod pwyllgorau’n derbyn gwybodaeth am ymgeiswyr, gan gynnwys esboniad y Llywodraeth em eu dewis nhw mewn da bryd er mwyn galluogi cwestiynu mwy effeithiol. Wrth gwrs, mae’n rhaid hefyd sicrhau bod y Llywodraeth yn cymryd barn pwyllgor am ymgeiswyr o ddifrif. Rwy’n cydnabod bod y gwaith ar y trefniadau eto i’w ddechrau yn iawn, ond a ydy’r pwyllgor wedi derbyn unrhyw gynigion ar y pwerau y bydd eu hangen ar bwyllgorau i sicrhau bod eu barn nhw yn derbyn sylw dyledus gan y Llywodraeth?
I gloi, rwy’n deall bod trefniadau San Steffan yn cynnig feto i rai pwyllgorau ar benodiadau penodol, tra, ar gyfer penodiadau eraill, mae yna adroddiad yn cael ei baratoi neu bleidlais ymgynghorol yn unig yn cael ei chynnal. A ydy’r Cadeirydd yn credu ei bod hi’n werth ystyried y math yma o ddull gweithredu wrth ddylunio canllawiau’r Cynulliad a bod angen, efallai, amrywio pŵer pwyllgor a dylanwad y pwyllgor yn ôl y penodiad sydd dan sylw?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau ac am ei groeso cyffredinol i’r broses yma, datblygiad y broses a’r angen am ganllawiau mwy ffurfiol, efallai, i bawb ddeall ym mha ffordd y mae’r pwyllgorau yn gweithredu gyda’r Llywodraeth.
A gaf fi jest ddweud i ddechrau fy mod i’n teimlo bod y pwyllgor wedi cael, yn y pen draw, y cyfle i asesu’r ymgeisydd a’r cyfle yn sicr i ddal yr ymgeisydd i gyfrif mewn lle cyhoeddus, lle’r oedd hi yn cael ei chwestiynu mewn ffordd drwyadl iawn? Rwy’n meddwl bod hyn yn gwbl briodol. Felly, mae’r broses yna yn amlwg yn rhywbeth y mae’r pwyllgor fel arfer yn ei wneud ac y byddem ni yn gallu ei wneud.
Ond rwy’n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi nifer o bwyntiau sydd angen eu deall a’u cael mewn canllawiau ffurfiol. Er enghraifft, pa bwerau? Nid oedd gennym ni feto y tro yma yn sicr, ond pe bai’r pwyllgor wedi adrodd yn anffafriol unfrydol yn erbyn ymgeisydd, a gwneud hynny ar sail gadarn, ac yn esbonio pam, mae’n siŵr gen i y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet wedi gorfod ail-ystyried o ddifrif ym mha ffordd yr oedd e’n bwrw ymlaen â’r penodiad. Ond mae yn gwestiwn sy’n codi: a ddylai fod y canllawiau yn rhoi feto penodol yn nwylo rhai pwyllgorau? Mae hynny yn rhywbeth y bydd yn rhaid trafod, rwyf yn meddwl, rhwng y Cynulliad a’r Llywodraeth. Mae yn drafodaeth yn y Cynulliad, achos er taw’r Pwyllgor Cyllid a gafodd y cyfle i wneud y gwrandawiad cyn penodi cyntaf, mi fydd hwn yn rhywbeth y bydd pwyllgorau eraill â diddordeb ynddo, ac rydw i’n awgrymu ei fod yn rhywbeth y bydd fforwm y Cadeiryddion yn gallu edrych arno fe yn y lle hwn hefyd wrth ddatblygu hynny maes o law.
Croesawaf ddatganiad y cadeirydd y prynhawn yma. Mae hwn yn rhywbeth a oedd gennym yn ein maniffesto yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn ddiwethaf—cafodd ei wrthod gan bobl Cymru, a dyna pam mai’r Llywodraeth hon sy’n eistedd ar y fainc yma. Ond rwy’n credu bod mater ehangach yma, gyda nifer cynyddol yr apwyntiadau a statws pwerau a chyfrifoldebau cynyddol y sefydliad hwn y tynnodd siaradwr Plaid Cymru sylw atynt yn flaenorol, mae’n ffordd dda i bobl ddeall faint o’r camau gweithredu a gymerir ar eu rhan mewn gwirionedd—mae craffu cyn deddfu a chyn penodi yn rhan hanfodol o’r ffordd y mae’r cyhoedd yn cael gwybod am y rolau y mae pobl yn eu cyflawni ar eu rhan. Rydych yn hollol gywir i nodi, Gadeirydd, fod hwn yn arfer cyffredin mewn llawer o ddeddfwrfeydd o gwmpas y byd, ac yn sicr dylem gofleidio hynny a chroesawu hynny. Yn eich datganiad fe wnaethoch grybwyll penodiad cadeirydd yr awdurdod treth, yr awdurdod cyllid, a sut y daeth yr unigolyn ger eich bron. Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth sy’n cael ei groesawu ac yn y pen draw, dylid ei ehangu ar draws yr holl feysydd penodiadau cyhoeddus fel y gall yr Aelodau yn y sefydliad hwn a’r cyhoedd yn gyffredinol ddeall beth y mae’r rolau hyn yn galw amdano, sut y cânt eu cyflawni, ac ysgogi lefel arall o atebolrwydd yn y pen draw. Mae’n rhaid bod hynny’n dda o ran y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn y pen draw. Felly, o’r meinciau hyn, byddwn yn sicr yn cefnogi unrhyw gynnydd yn y gallu i gyflwyno penodiadau.
Nifer o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd y comisiynwyr—y comisiynydd plant a’r comisiynydd pobl hŷn—eu penodi, roeddem yn credu na ddylai’r rheini fod yn benodiadau gan y Llywodraeth, ac y dylent fod yn benodiadau gan y Cynulliad. Yn sicr, mae hwnnw’n arfer da ac yn anffodus, nid yw wedi digwydd, er fy mod yn croesawu’r camau gan y Llywodraeth pan fyddant yn cynnwys pleidiau eraill yn y broses benodi honno. Ond yn sicr, dylem ffurfioli hynny’n well fel mai’r sefydliad sy’n gwneud y penodiad hwnnw. Felly, rwy’n croesawu eich datganiad y prynhawn yma, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ond rwy’n gobeithio, drwy eich profiadau a’r pwyntiau rydych yn eu gwneud yn eich datganiad, y gellir bwrw ymlaen â hwy yn awr i gynyddu’r cyfle i bwyllgorau craffu yn y Cynulliad hwn i—roeddwn am ddefnyddio’r gair ‘cwestiynu’ ond mae hynny’n swnio’n fwy brawychus—i graffu ar gadeiryddion, ac yn fy marn i, ar gynghorwyr arbennig yn ogystal, ar eu penodiadau, oherwydd i’r un graddau, yn y Llywodraeth fodern—ac nid y Llywodraeth hon yn unig; mae’n wir mewn Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig—mae rôl cynghorwyr arbennig yn un gynyddol bwysig ac mae ganddi ddylanwad pwysig ar y ffordd y mae Llywodraeth yn gweithio, ac eto faint o bobl mewn gwirionedd sy’n deall ac yn gwybod enwau’r unigolion hynny ac yn sicr, mae hynny’n rhan bwysig o Lywodraeth ac yn rhan bwysig o’r gwaith craffu a ddylai ddod yn gyhoeddus wedyn hefyd. Felly, rwy’n gwahodd eich sylwadau ar yr agwedd benodol honno hefyd.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch i Andrew R.T. Davies ac roeddwn yn cytuno ag ef ar bopeth nes iddo grybwyll cynghorwyr arbennig, gyda fy hanes fy hun yn hynny o beth. Ond mae’n bwynt teg. Mae’n rhywbeth y gellir ei archwilio o ran hynny. Rwy’n credu mai’r pwynt sylfaenol roeddech yn ei wneud, ac rwy’n cytuno’n llwyr, yw bod hon yn ffordd dda o agor y mater i’r cyhoedd ac i ddangos i’r cyhoedd sut y mae’r penodiadau hyn yn cael eu gwneud, pwy sy’n gyfrifol am beth, ac yn wir, i roi cyfle a blas iddynt o sut y bydd y gwaith craffu yn barhaus, am fod hyn yn digwydd cyn penodi—yn yr achos hwn, proses cyn penodi cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n siŵr y bydd y Pwyllgor Cyllid—gan ei bod wedi cael ei chadarnhau fel cadeirydd bellach—yn ei chael hi’n ôl fel cadeirydd i graffu’n ffurfiol ar y gwaith y mae hi wedi’i gyflawni, y ffordd y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei lywodraethu, ac wrth gwrs, eu cynllun corfforaethol a’u gwaith parhaus ar ran trethdalwyr Cymru. Felly, mae’n arwydd pwysig o sut rydym yn bwriadu gwneud y gwaith hwnnw pan fyddwn yn gwneud penodiad cyn penodi fel hyn.
Nid wyf yn credu—i fod yn deg, nid oedd yr Aelod yn awgrymu, ac nid wyf yn credu y dylem fabwysiadu’r agwedd fwy pleidiol tuag at rai o’r penodiadau hyn. Os edrychwch ar sut y mae penodiadau Trump yn cael eu gwneud ar hyn o bryd, mae’n tueddu i fod yn bleidiol iawn. Mae’n cynnwys y cyhoedd, fodd bynnag. Mae’n gyhoeddus ac mae’n ymgysylltu â phobl; nid oes amheuaeth am hynny. Ond rwy’n gobeithio, yn y sefydliad hwn o leiaf, y gallwn ddefnyddio’r hyn sydd gennym, sy’n un o’r pethau gorau sydd gan y sefydliad hwn, sef ein gwaith pwyllgor a’r gwaith trawsbleidiol a wnawn ar bwyllgorau a’r ffyrdd rydym yn gweithio gyda’n gilydd, i geisio archwilio a chraffu penodiadau’r Llywodraeth a gweithredoedd y Llywodraeth. Rwy’n credu mai dyna’r offeryn a ddefnyddiwn i wneud y gwrandawiadau cyn penodi cyhoeddus hyn mor llwyddiannus â phosibl.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn hyn, byddwn yn argymell yn gryf eu bod, mewn gwirionedd, yn gwylio fideo’r penodiad, oherwydd rwy’n credu ei fod yn adlewyrchiad llawer gwell o’r craffu a’r cwestiynu a wnaed na’r trawsgrifiad llafar o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r cwestiynau a atebwyd, gan mai drwy gael rhywun ger bron pwyllgor, drwy edrych i’w llygaid, a gofyn cwestiynau iddynt, y byddwch yn ffurfio barn—gallai fod yn anghywir, gallai fod yn gywir, ond o leiaf rydych yn ffurfio barn—ynglŷn ag a oes ganddynt y lefel gywir o sgiliau ac a ydynt wedi dysgu rhywbeth o brofiad blaenorol y byddent yn gallu ei ddefnyddio yn hyn o beth.
Rwy’n credu bod cwestiwn Andrew R.T. Davies wedi rhoi cyfle i mi ddweud un peth hefyd er eglurder i bawb: mae gennym dair ffordd wahanol o wneud penodiadau sy’n cynnwys pwyllgorau ar hyn o bryd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud hynny. Felly, mae gennym apwyntiadau’r Cynulliad eu hunain: felly, bydd y Pwyllgor Cyllid, er enghraifft, maes o law, yn penodi Archwilydd Cyffredinol newydd i Gymru. Nid yw hwnnw’n benodiad Llywodraeth; mae’n benodiad Cynulliad drwy’r Pwyllgor Cyllid. Mae swydd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei thrin mewn ffordd debyg.
Yna, fel y dywedodd yr Aelod, mae gennym benodiadau’r comisiynwyr, sy’n benodiadau Llywodraeth, ond gydag ymwneud y Cynulliad, ac mae cynrychiolwyr o wahanol bleidiau yn cael eu cynnwys yn y broses benodi. Ac yna mae gennym rywbeth newydd, a dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn, sef penodiad gan y Llywodraeth gyda gwrandawiad cyn penodi i’r Cynulliad, sy’n gallu rhoi barn y cyhoedd ar yr ymgeisydd a ffafrir gan Lywodraeth Cymru.
Rwy’n credu y bydd angen i ni gadw pob un o’r tair ffordd wrth symud ymlaen, oherwydd rydym angen y cymysgedd hwnnw o graffu. Mae ychydig yn ddryslyd weithiau, ond rwy’n credu y bydd angen i ni gadw’r cymysgedd hwnnw o graffu. Ond yr hyn sy’n bwysig iawn yw ei fod yn cael ei wneud yn gyhoeddus a bod pobl yn cael cyfle i weld ein bod yn arfer ein swyddogaeth ddemocrataidd fel senedd i ddwyn y rhai a benodir gan y Llywodraeth i gyfrif—ac efallai, ymhen amser, y bydd hynny’n cynnwys cynghorwyr arbennig.
Diolch yn fawr iawn.