Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar rôl merched yn y gweithlu adeiladu. Nid ydy’r geiriau ‘merched’ ac ‘adeiladu’ ddim yn mynd efo’i gilydd yn draddodiadol, ond mae’n bryd i hynny newid. Ar hyn o bryd, mae llawer llai o ferched na dynion yn y sector yma. Gallai annog mwy o ferched i ymuno â’r gweithlu adeiladu oresgyn rhai o broblemau’r sector i’r dyfodol yn ogystal â chynnig llwybrau gyrfa newydd i ferched Cymru.
Mae’r sector adeiladu yng Nghymru yn tyfu’n gynt nag yn unman arall yn y Deyrnas Gyfunol. Gyda phrosiectau fel ffordd osgoi Bontnewydd yn Arfon a ffordd osgoi Llandeilo—heb sôn am fetro de Cymru, Wylfa, ac o bosib morlyn morlanw Abertawe—ar y gorwel, bydd galw cynyddol am weithwyr gyda sgiliau yn y sector. Mae partneriaeth sgiliau rhanbarthol gogledd Cymru yn amcangyfrif y bydd angen tua 8,500 o weithwyr pan fydd codi Wylfa Newydd ar ei anterth, a bydd codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn ymysg merched ifanc yn helpu i ymdrin â bylchau sgiliau yn y dyfodol.
O’r 113,000 o bobl sy’n gweithio yn y sector adeiladu, dim ond 10 y cant sydd yn fenywod. Mae menywod hefyd yn llawer mwy tebygol o wneud gwaith swyddfa, ac amcangyfrifir mai 1 y cant yn unig o weithwyr benywaidd sy’n gweithio ar safle. Byddai ymdrin â’r gwahaniaeth yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach yn galluogi’r sector i ddefnyddio potensial cronfa ehangach o lawer o ddoniau wrth iddo dyfu, a’i helpu i oresgyn prinder gweithwyr a sgiliau yn y dyfodol.
Prentisiaethau ydy’r llwybr hyfforddi allweddol i mewn i’r sector adeiladu, ond mae’r rhaniad yn amlwg iawn yn fan hyn, efo 99 y cant o brentisiaethau adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig yn cael eu llenwi gan ddynion. Yn amlwg, felly, mae angen gwneud llawer iawn mwy os ydym ni am gwrdd â’r galw am weithlu yn y dyfodol.
Un ffordd o wneud hynny ydy defnyddio caffael cyhoeddus mewn ffordd adeiladol, er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i wneud mwy i ymdrin â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a hyrwyddo cydraddoldeb yn y sector adeiladu. Mae wedi cael ei dderbyn yng Nghymru y dylai caffael cyhoeddus roi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, ac fe gymerodd Llywodraeth Cymru gamau cadarnhaol i sicrhau hynny. Fodd bynnag, fe ellid cymryd camau pellach i ofalu bod caffael cyhoeddus hefyd yn helpu i hyrwyddo cyfartaledd rhwng y rhywiau.
Mae enghreifftiau o hyn yn cael ei wneud yn Ewrop, ac rydw i am gyfeirio at enghraifft o arfer da yn Berlin. Yn fanna, ar gyfer contractau mawr ar gyfer cwmnïau efo mwy nag 11 o weithwyr, mae’r contractau yn gorfod cynnwys mesurau i hyrwyddo gwaith menywod. Mae disgwyl i gwmnïau roi manylion am fesurau y byddan nhw’n eu mabwysiadu mewn datganiad ar wahân. Er nad ydy hwn yn rhan o’r broses ddyfarnu, mae disgwyl i gwmnïau gadw at eu datganiad. Mae’r mesurau yn cynnwys meddu ar gynllun cymwys i hyrwyddo menywod, cynyddu canran y menywod mewn swyddi uwch, oriau gweithio hyblyg, tâl cyfartal a chyfleusterau gofal plant. Mae’r cwmnïau yn cael eu monitro wrth iddyn nhw weithredu’r ymrwymiadau y maen nhw wedi cytuno arnyn nhw, ac maen nhw yn gallu wynebu sancsiynau os ydyn nhw’n methu â gwneud hyn.
Mae yna ddadl y dylai hi fod yn ofynnol i bob cwmni yng Nghymru sy’n derbyn arian cyhoeddus ddangos eu bod yn deall materion rhywedd yn eu sector a bod ganddyn nhw gynllun yn ei le i ymdrin â nhw. Felly, beth am ddechrau efo’r sector adeiladu? Mae caffael o’r math sy’n cael ei weithredu yn Berlin yn gallu bod yn ddull pwerus o gynyddu nifer y merched yn y gweithlu adeiladau, gan helpu goresgyn prinder y swyddi yn y sector i’r dyfodol. Diolch.