Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 5 Ebrill 2017.
A gaf fi ddweud ar y dechrau fy mod am ddiolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn y credaf ei fod yn gynnig pellgyrhaeddol iawn, sy’n cwmpasu llawer o faterion pwysig? Nid wyf yn mynd i roi sylwadau ar welliant Plaid Cymru ar gynrychiolaeth gyfrannol heddiw, gan fod hwn yn destun ymgynghoriad drwy’r Papur Gwyn ar lywodraeth leol ar hyn o bryd, ac rwy’n tybio y dylem ganiatáu i’r broses honno ddilyn ei chwrs. Rwy’n siŵr y bydd digon o amser i drafod y mater hwn a’n gwahanol safbwyntiau ar gynrychiolaeth gyfrannol neu beidio yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ond rwy’n awyddus i fod ychydig yn fwy optimistaidd heddiw; felly rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ran 3 y cynnig, ynglŷn â rôl awdurdodau lleol yn cefnogi mwy o gydweithio, arloesi ac entrepreneuriaeth, ac i siarad ychydig am yr hyn sy’n digwydd yn fy etholaeth i, y credaf ei fod yn dangos sut y mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i sicrhau canlyniadau ar gyfer busnesau bach yn arbennig.
Llywydd, nid ar hap y mae Merthyr Tudful wedi dod yn brifddinas twf ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi chwarae rhan allweddol, gan weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau arloesol gyda chydweithrediad yn sail iddynt. Er enghraifft, mae Canolfan Fenter Merthyr Tudful, sy’n fenter ar y cyd gan y cyngor a chan Hyfforddiant Tudful, gan ddefnyddio cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, yn darparu canolfan yng nghanol y dref i ddarparu diwylliant entrepreneuraidd yn y dref ac mae’n dod â phartneriaid o’r sectorau preifat, academaidd, gwirfoddol a chyhoeddus at ei gilydd, gan gynnwys—yn hollbwysig—cyngor Merthyr.
Un o lwyddiannau penodol y ganolfan fenter yw’r rhaglen Defnydd yn y Cyfamser, sy’n ymgysylltu â landlordiaid i nodi eiddo gwag yng nghanol y dref y gellir eu defnyddio gan fusnesau sy’n cychwyn neu fusnesau sydd am ehangu neu arallgyfeirio yn ddi-rent am hyd at chwe mis. Mae’r cyfnod hwn yn rhoi cyfle i’w syniadau ffynnu cyn iddynt wneud y penderfyniad i symud i eiddo rhent masnachol. Mae’r trefniant hefyd o fudd i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eu heiddo fel arall, gan fod y rhent am y cyfnod hwnnw yn cael ei dalu gan y cyngor o dan y cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Ar hyn o bryd mae gan gyngor bwrdeistref Merthyr Tudful saith busnes yn elwa ar y cynllun hwn, ac mae’r ganolfan fenter hefyd yn darparu cyllid i helpu busnesau i ymsefydlu gyda grantiau o hyd at £5,000. Felly, yn ogystal ag arian wedi’i sianelu drwy’r awdurdod lleol o dan gynlluniau fel Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, mae’r cyngor hefyd yn gallu darparu dull cyfannol o ddatblygu menter drwy weithio gyda’r trydydd sector a sefydliadau academaidd i ddod â chyngor, arbenigedd a hyfforddiant at ei gilydd, a thrwy wneud hyn ar y cyd â chyngor a chymorth mewn perthynas â phrosesau awdurdod lleol—cynllunio a datblygu a chadwraeth, er enghraifft—gallant ddod â chymorth cofleidiol i fusnesau newydd.
Mae cyngor Merthyr hefyd wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru o dan y prosiect Effaith i ddarparu gwasanaethau datblygu busnes sydd wedi cynnwys cyngor, arweiniad, mentora, hyfforddiant a chymorth i fusnesau newydd, gan gysylltu â’r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau lleol. Dan y cynllun hwn, mae cyngor Merthyr wedi cynorthwyo 40 o fusnesau canol y dref, wedi creu 51 o swyddi ac wedi diogelu 151 o swyddi eraill.
Os cawn edrych yn fyr ar Glwb Pêl-droed Merthyr am eiliad. Roedd cyngor Merthyr Tudful yn bartner allweddol yn cefnogi datblygiad maes chwarae Parc Penydarren y clwb, unwaith eto gyda chyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Gyda’r cymorth hwn, roedd y clwb pêl-droed yn gallu ymestyn adeilad y clwb i adeiladu ystafell ddigwyddiadau a all ddarparu ar gyfer hyd at 120 o westeion. Mae ganddo far chwaraeon, cegin fasnachol, ystafell TG a swyddfeydd gyda Wi-Fi drwyddynt. Mae bellach yn destun eiddigedd clybiau nad ydynt yn perthyn i’r Gynghrair Bêl-droed ledled y wlad. Ond yn bwysig, gan adeiladu ar ei athroniaeth gymunedol, mae’r clwb yn awr wedi datblygu i fod yn ganolfan fusnes o bwys, gan ddenu busnesau ym Merthyr i gymryd rhan yn y clwb, i ddefnyddio ei gyfleusterau o dan rwydwaith busnes Martyrs—a ‘Merthyron’, gyda llaw, yw llysenw Clwb Pêl-droed Merthyr. Mae’r rhwydwaith busnes yn galluogi entrepreneuriaid busnes lleol i ddod at ei gilydd i rannu syniadau, gwybodaeth, profiad ac atgyfeiriadau busnes. Dechreuodd flwyddyn yn ôl ac erbyn hyn mae ganddo 163 o aelodau. Yn gyffredin i rôl y cyfan rwyf newydd fod yn siarad amdano, mae’r cyngor lleol, nid yn unig o ran eu cefnogaeth ariannol drwy gynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru, ond drwy bartneriaeth uniongyrchol, gan ddarparu’r arweiniad cofleidiol a chymorth hwyluso gyda chefnogaeth partïon academaidd a’r trydydd sector.
I gloi, Llywydd, croesawaf y cynnig gan y Ceidwadwyr, ac yn arbennig gwelliant cyntaf Plaid Cymru fel y dywedais. Mae gan awdurdodau lleol ran hanfodol i’w chwarae yn cefnogi datblygiad busnesau ar gyfer cydweithio, arloesi ac entrepreneuriaeth, ac os oes unrhyw un yn dymuno edrych ar yr enghreifftiau o arfer gorau, gallaf gymeradwyo’r gwaith rhagorol yn y maes hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr dan arweiniad Llafur.