Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae’n bwysig fod gennym lywodraeth leol gref yng Nghymru, ac wrth gwrs mae gennym enghreifftiau gwych o awdurdodau lleol sy’n gweithio ar ran yr holl bobl sy’n byw yn ardaloedd yr awdurdodau lleol hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, Cyngor Sir Fynwy yn arbennig. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau sylweddol wedi bod ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, oherwydd etifeddiaeth y Llywodraeth Lafur flaenorol, ac mae hynny wedi creu heriau sylweddol i awdurdodau lleol o ran gwneud i bethau fynd ymhellach gyda’r adnoddau cyfyngedig sydd ganddynt. Ond rhaid i mi ddweud bod rhai o’n hawdurdodau lleol gwledig wedi cael trafferth arbennig i oresgyn yr heriau hyn oherwydd y fformiwla ariannu llywodraeth leol annheg sydd gennym yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu ei bod yn syndod i ni, felly, o ran pethau fel cau ysgolion, ein bod wedi gweld mwy o ysgolion yn cau mewn awdurdodau lleol gwledig nag mewn rhannau eraill o Gymru. Yn wir, ers 2006, caewyd 157 ysgol gynradd yng Nghymru, ac roedd 95 o’r rheini—60 y cant—mewn awdurdodau lleol gwledig. Felly, mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain.
Nawr, nid yw’n ymwneud yn unig â’n hysgolion. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiadau enfawr mewn gwasanaethau eraill. Ni sydd â’r anrhydedd mawr o fod yn un o’r gwledydd sy’n perfformio orau yn y byd ym maes ailgylchu, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n falch iawn ohono, ac mae llawer o berchnogion tai a busnesau wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau’r canlyniadau trawiadol hynny. Ond rhaid i chi fynd â’r cyhoedd gyda chi pan fyddwch yn gwneud newidiadau sylweddol i’r trefniadau casglu gwastraff, a chredaf fod rhai awdurdodau lleol bellach yn dechrau camu’n rhy bell o ganlyniad i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu i leihau eu gwasanaethau casglu gwastraff. Edrychwch ar awdurdodau lleol fel Conwy, er enghraifft, ar hyn o bryd, lle y mae 10,000 o gartrefi ardal yr awdurdod lleol hwnnw bellach yn wynebu casgliadau bob pedair wythnos—sy’n hynod o amhoblogaidd, yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon, yn arwain at gynnydd mewn sbwriel, a gwneud i’r amgylchedd edrych yn anatyniadol, gyda pheryglon posibl i iechyd y cyhoedd yn gysylltiedig â phethau fel gwastraff clinigol a gwastraff anifeiliaid anwes ym miniau pobl am gyfnodau hir o amser. Gallwch weld bod y mathau hyn o bwysau ariannol, oherwydd elfen wledig annheg y fformiwla ariannu, yn arwain at broblemau go iawn yn rhai o’n hawdurdodau lleol.
Ceir gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau, ac un o’r pethau cadarnhaol sy’n digwydd yn fy etholaeth i yw’r ardal gwella busnes sydd gennym yn awr yn ardal Bae Colwyn, lle y mae gennych fusnesau’n gweithio i ychwanegu gwerth at y gwaith y mae’r awdurdod lleol yn ei wneud i wella rhagolygon Bae Colwyn, gan weithio ar y cyd gyda’r siambr fasnach, gyda’r mudiadau gwirfoddol ym Mae Colwyn ac yn wir, gyda rhanddeiliaid eraill fel y cynghorau tref a chymuned sy’n cynrychioli’r ardal honno i gyflwyno gwelliannau go iawn yn y dref.
Mae’n ddyddiau cynnar; ar 1 Ebrill 2016 y cafodd yr ardal gwella busnes ei sefydlu, ond eisoes mae peth twf gwyrdd y credaf ei fod yn edrych yn addawol iawn ar gyfer dyfodol Bae Colwyn. Dyna un o’r pethau y credaf y bydd yn gyrru’r adfywiad sydd wedi digwydd yn y dref dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cydweithredu o’r fath yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o weld mwy ohono. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i’r ddadl heddiw, a allwch ddweud wrthym a oes unrhyw bethau mwy strategol y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud er mwyn hyrwyddo’r math hwnnw o ymgysylltu cadarnhaol a chydweithio rhwng y busnesau yn ein cymunedau ledled Cymru, ac awdurdodau lleol yn wir, boed yn awdurdodau unedol neu’n wir yr awdurdodau llai hefyd.