Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym yn cefnogi eu cynnig. Rydym ni, fel hwythau, yn cydnabod y rhan hanfodol a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth i’r cyfnod anodd hwn yn ariannol barhau, rhaid i gynghorau lleol ddarparu’r gwasanaethau hyn mewn ffyrdd gwahanol. Mae trefnu drwy gontract allanol bellach yn dod yn un o ffeithiau bywyd i lawer o gynghorau. Gall trefnu drwy gontract allanol weithio, ond wrth gwrs, mae’n rhaid i gynghorau lleol ddal i sicrhau bod lefel dda o wasanaeth yn cael ei darparu i’r trigolion lleol. Dyma fydd un o’r prif heriau sy’n wynebu llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod.
Wrth gwrs, weithiau, gall gwasanaethau wella os rhoddir trefniant hyd braich ar waith. Gallai cynlluniau wedi’u rhedeg gan y gymuned, fel yr argymhellwyd heddiw gan Paul Davies, fod yn ateb mewn rhai achosion. Nodwn hefyd awydd cynnig y Ceidwadwyr i weld pŵer yn cael ei ddychwelyd i ddwylo pobl leol. Rydym hefyd yn gweld gwerth lleoliaeth yn UKIP ac mae gennym broblem gyda chynlluniau datblygu lleol honedig yn cael eu gwthio ar gymunedau lleol i bob pwrpas gan orchmynion cynllunio yn deillio o Lywodraeth ganolog.
Yn wir, rydym yn ffafrio refferenda lleol ar ddatblygiadau mawr lle y mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth leol yn gofyn am refferendwm o’r fath. Felly, ie, gadewch i ni roi pŵer yn ôl yn nwylo pobl leol a gadewch i ni wneud hynny mewn ffordd ystyrlon. Hefyd, dylai cynghorau lleol weithio’n agos gyda busnesau bach a dylai polisïau caffael y cyngor ffafrio busnesau bach a chanolig lleol cyn belled ag y bo modd. Fodd bynnag, mae angen cydbwyso’r amcan hwn gyda’r angen i gael y fargen fwyaf effeithiol ar gyfer y rhai sy’n talu’r dreth gyngor.
Cydnabu Paul Davies yr angen hwn am gydbwysedd yn ei gyfraniad a dangosodd hefyd, yn ôl pob tebyg, fod cryn le i awdurdodau lleol a busnesau bach a chanolig gydweithio’n agosach. Byddem yn croesawu cydweithio o’r fath.
Rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Mae gennym ad-drefnu llywodraeth leol ar y ffordd, felly mae’n hanfodol ein bod yn rhannu arferion gorau ar draws yr awdurdodau lleol. Mae’n hanfodol fod y diwygiadau, pa ffurf bynnag a fydd arnynt yn y pen draw, yn sicrhau canlyniadau gwasanaethau cyhoeddus gwell i’r cyhoedd, neu o leiaf eu bod yn cynnal y lefel o wasanaethau cyhoeddus sydd gennym yn awr.
Mae ail welliant Plaid Cymru yn ymwneud â phleidleisio mewn etholiadau lleol. Rydym yn cefnogi dymuniad Plaid Cymru i weld cynghorau’n symud o system y cyntaf i’r felin at gynrychiolaeth gyfrannol er mwyn cryfhau atebolrwydd. Soniodd Mike Hedges am fater ymddangosiadol flinderus y ganran is a bleidleisiodd yn etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu a’r etholiadau Ewropeaidd. Fodd bynnag, credaf nad yw hyn yn deillio o’r system etholiadol a ddefnyddir, ond yn achos y comisiynwyr heddlu a throseddu, mae’n deillio yn hytrach o’r ffaith nad oes cefnogaeth gyhoeddus i’r swydd hon yn y lle cyntaf. Ac am Senedd Ewrop, ym marn llawer o bobl, mae’n amlwg, roedd yn ddeddfwrfa a chanddi cyn lleied o bŵer fel nad oedd yn werth pleidleisio drosti.
Felly, rydym yn cefnogi’r cynnig ac rydym yn cefnogi’r gwelliannau. Rydym yn cefnogi popeth, mewn gwirionedd—gwleidyddiaeth gonsensws. [Chwerthin.]