Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 2 Mai 2017.
Prif Weinidog, yn sgil cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gwelsom gynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf o ran integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well, er gwaethaf rhai o'r sylwadau sy'n cael eu gwneud heddiw. Yn arbennig, rwy’n sôn am y ganolfan ddiogelu amlasiantaeth yn ardal Cwm Taf, a chanolfan iechyd Keir Hardie. A ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, mai un o flaenoriaethau cynnar unrhyw gyngor newydd sy'n dod i fodolaeth ar ôl 4 Mai ddylai fod adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed hyd yma gan gynghorau Llafur presennol, fel y gwaith yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful?