<p>Gwasanaethau Cymdeithasol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 2 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:33, 2 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni’n prysur agosáu at bwynt lle mae gofal cymdeithasol yn anfforddiadwy, ac, oni bai ein bod ni’n cymryd camau brys, rydym ni’n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y galla’r system chwalu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu â chymryd y boblogaeth sy'n heneiddio i ystyriaeth a chynllunio'n briodol ar gyfer galw yn y dyfodol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut i sicrhau bod gan y sector gofal cymdeithasol ddigon o arian i ddarparu gofal o'r radd flaenaf i bawb sydd ei angen nawr ac yn y dyfodol?