<p>Gwasanaethau Cymdeithasol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 2 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig yn hynny o beth. Rydym ni’n gwybod bod galw yn parhau i gynyddu, ac mae’n rhaid cael trafodaethau yn y gymdeithas o ran sut y gellir bodloni’r galw hwnnw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael trafodaethau rhwng Llywodraethau’r DU, gan fod pobl yn symud rhwng gwledydd y DU, ond rydym ni wedi sicrhau bod digon o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Rydym ni wedi cynyddu’r cyllid hwnnw. Ond, wrth gwrs, mae'n hynod o bwysig yn yr hirdymor i feddwl yn ofalus am sut y dylid ariannu gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd i ddod.