Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Mai 2017.
Rwy'n credu ei bod hynod bwysig ein bod ni’n gweld mwy o heddweision ar y strydoedd, mwy o swyddogion yr heddlu—10,000 ohonynt. Rwy'n credu y bydd pobl yn sicr yn cefnogi hynny. Gofynnodd y cwestiwn o ble y daw'r arian. Mae’n eithaf syml—£300 miliwn y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd; £2.7 biliwn yw’r pot a fydd yn cael ei greu trwy ailgyflwyno’r lefelau blaenorol o dreth enillion cyfalaf. Felly, £1.5 biliwn, gydag £1.2 biliwn yn weddill. Dyna'r fathemateg.