Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Mai 2017.
Wel, mae’n amlwg nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y cynyddwyd treth enillion cyfalaf, yn 2010. Oherwydd, yn 2010, codwyd cyfradd y dreth enillion cyfalaf o 18 y cant i 28 y cant. Ac, er ei bod yn codi £8.23 biliwn y flwyddyn cyn 23 Mehefin 2010, cododd £3.3 biliwn y flwyddyn ar ôl 23 Mehefin 2010. Felly, mewn gwirionedd, roedd toriad i refeniw’r dreth enillion cyfalaf o £4.9 biliwn y flwyddyn. Felly, sut bydd y cynnydd hwn i niferoedd plismyn yn cael ei dalu amdano gyda llai o refeniw treth?