<p>Yr Ardal Fenter ym Mhort Talbot</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 2 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 2 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, nid ydym wedi cynnal y dadansoddiad hwnnw eto. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, wrth yr Aelod, dim ond i roi sicrwydd iddo, yw bod gennyf i garchar yn fy etholaeth i. A dweud y gwir, cafodd ei adeiladu pan mai fi oedd y cynghorydd ward yn fy ward. Yn wir, roedd pobl yn pryderu ac roeddent yn poeni am yr hyn y gallai effaith y carchar fod. Y gwir amdani yw nad yw wedi cael effaith negyddol o gwbl. A dweud y gwir, mae'n cyflogi nifer fawr o bobl yn lleol ac mae wedi darparu gwaith ar gyfer nifer fawr o gontractwyr. Felly, er y gallaf ddeall yn iawn bod rhai o'i etholwyr yn pryderu—ac mae ef wedi cynrychioli barn yr etholwyr hynny y prynhawn yma—y profiad sydd gennym ni ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw bod y carchar ei hun—. A dweud y gwir, mae ystâd o dai yn cael ei hadeiladu y drws nesaf iddo ar hyn o bryd. Felly, mae'r carchar yn cael ei integreiddio’n gyflym i fywyd y gymuned a gall, mewn gwirionedd, greu swyddi.