Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Mai 2017.
Mae cytundeb dinas-ranbarth bae Abertawe, a lofnodwyd yn ddiweddar gennych chi a Theresa May, wrth gwrs, yn Abertawe, ar fin sbarduno gwerth £1.3 biliwn o fuddsoddiad yn y rhanbarth, ac mae agosrwydd y brifysgol yr ydych wedi ei grybwyll eisoes, a’r pwyslais ar y gadwyn gyflenwi sy'n seiliedig ar ddur yn yr ardal fenter, yn cyd-fynd yn dda iawn â nifer o brosiectau yn y cytundeb hwnnw. Mae bwrdd yr ardal fenter hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd a hybu arloesedd ac entrepreneuriaeth ym maes gweithgynhyrchu uwch a deunyddiau. Felly, pa fath o gymorth allwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru i helpu'r sector dur lleol i fanteisio ar ymchwil a datblygiad a masnacheiddio yn y ddwy sector arall hynny er mwyn gwella'r economi leol?