Part of the debate – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad am rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.