– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Mai 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwyf yn galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae gen i un newid i’w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn gwneud datganiad am rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ddiweddarach y prynhawn yma. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a ellid cael datganiad, os gwelwch yn dda—ac rwy’n credu eich bod yn dirprwyo yn absenoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig—ar y ffordd y darperir y cynllun taliadau sylfaenol yng Nghymru? Rwy’n datgan buddiant, fel partner mewn busnes ffermio ym Mro Morgannwg. Pryder enfawr, nid yn unig ym Mro Morgannwg, ond ledled Cymru, oedd gohirio taliadau oherwydd y gyfundrefn gwiriadau ac archwiliadau a gynhelir, ac anallu’r adran i hysbysu ffermwyr am hynt eu ceisiadau. Mae gen i, fel chi, etholwyr ym Mro Morgannwg sydd yn dal i fod yn yr unfan—ym mis Mai, erbyn hyn—gyda cheisiadau sy’n dal heb eu talu. Mae'n anodd iawn i'r unigolion hynny egluro eu sefyllfa i’r banciau—sydd wedi dangos cydymdeimlad o ran benthyciadau ac, wrth gwrs, ymestyn cyfleusterau gorddrafft—pan nad oes ganddyn nhw wybodaeth gan yr adran o ran gohiriad neu hynt eu cais. Credaf fod angen gwirioneddol am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn i ni, fel Aelodau, gael dealltwriaeth o sut mae'r adran yn ymdrin ag ymholiadau o’r fath ac, yn bwysig iawn, pa wersi sydd wedi eu dysgu. Ymddengys fod eleni yn flwyddyn arbennig o anodd o ran ymdrin â ffermydd sydd wedi cael eu harchwilio ac sydd yn amlwg wedi gweld oedi gydag ymholiadau iddyn nhw allu derbyn eu taliadau.
Diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna, ac rwy’n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun taliadau sylfaenol. Erbyn 27 Ebrill roedd dros 98.9 y cant o’r ceisiadau wedi eu talu, sef swm o tua £219 miliwn. Mae hyn bellach yn cynnwys taliadau trawsffiniol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mae perfformiad cynllun taliadau sylfaenol 2016 Cymru yn debyg i Ogledd Iwerddon ac yn cymharu yn ffafriol iawn â'r Alban a Lloegr. Ac, fel y gŵyr yr Aelod, mae'r cyfnod talu CTS yn parhau hyd 30 Mehefin, gyda Thaliadau Gwledig Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gwblhau’r holl daliadau sy'n weddill cyn gynted ag y bo modd. Maen nhw’n disgwyl y bydd modd talu’r holl geisiadau oni bai am y rhai mwyaf cymhleth erbyn diwedd Ebrill, sef yr wythnos ddiwethaf, wrth gwrs. Byddwn hefyd yn ategu’r pwynt bod cyflwyno’r gofynion gwyrdd newydd ar gyfer ffermwyr âr wedi arwain at archwiliadau mwy cymhleth. Mae'r CE yn mynnu bod busnesau fferm sy’n destun archwiliad yn 2016 wedi gweld cyflawniad terfynol eu cais cyn y gellir gwneud y taliad. Ni allwn fynegi barn ar swyddogaethau asiantau eraill sy'n talu.
Rwy'n credu y gallwn ychwanegu taliadau Glastir hefyd at y pwynt a wnaed eisoes. Rwy’n arbennig o awyddus i ofyn i arweinydd y tŷ a fyddai modd iddi amserlennu dadl yn amser y Llywodraeth ar fynediad at wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy'n credu ein bod wedi clywed cwestiwn yn gynharach gan Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, am ddigwyddiadau yn y Rhondda. Os caf ddweud wrth y tŷ, yr wythnos ddiwethaf treuliais i a’m swyddfa oriau lawer dros ddau ddiwrnod yn ceisio cael meddyg teulu i weld gwraig 90 mlwydd oed yn Sir Gaerfyrddin. Roedd y feddygfa restredig mewn anghydfod â'r bwrdd iechyd ac nid oedd yn barod i’w derbyn hi. Nid oedd meddygfa arall yn fodlon ymdrin â’r mater chwaith, er bod honno, mewn theori, yn agored i gleifion newydd. Yr unig feddygfa a gynigwyd oedd un gryn bellter i ffwrdd. Rwy’n falch, rwy’n gobeithio—gobeithio’r gorau—bod hynny wedi ei ddatrys, ac fel Aelod o'r Cynulliad rwyf am helpu fy etholwraig. Ond os yw ymyrraeth Aelod Cynulliad yn ofynnol er mwyn cael meddyg teulu i weld gwraig 90 mlwydd oed, rwy’n awgrymu bod gennym broblem â meddygon teulu yng Nghymru: problem recriwtio, problem hygyrchedd, a phroblem gyda’r stiwardiaeth y mae eich plaid yn ei dangos o ran y GIG yng Nghymru. Felly, rwy’n credu eich bod wedi addo llawer iawn am ehangu mynediad at feddygon teulu a gofal sylfaenol yn ystod y chwe blynedd diwethaf, ac rwy’n credu y byddai dadl yn caniatáu i holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd.
Mae'r materion hyn wedi eu codi, mae’n amlwg, gydag enghreifftiau penodol o anawsterau a phwysau, ac ymatebodd y Prif Weinidog i’r mater a gododd o ran y feddygfa yn Rhondda fu ar gau am ddiwrnod. Rwy'n credu ei bod yn bwysig yng nghyd-destun recriwtio i ddweud eto bod ein hymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i ddenu meddygon teulu a'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach yn dechrau dwyn ffrwyth yn barod. Ar ôl chwe mis rydym wedi gweld cynnydd o 16 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi i feddygon teulu sydd wedi eu llenwi hyd yn hyn o'i gymharu â'r llynedd. Ac mae ein cronfa ar gyfer gofal sylfaenoll, sy’n werth £43 miliwn, wedi helpu i ddarparu mwy na 250 o swyddi gofal sylfaenol ychwanegol, gan gynnwys meddygon teulu, swyddi nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion, sydd wrth gwrs yn rhan o'r ateb a’r ymateb i anghenion gofal sylfaenol o ran y tîm gofal sylfaenol ehangach. Hefyd, rwy'n credu bod y buddsoddiadau pwysig sy'n digwydd yn y clystyrau gofal sylfaenol, a ddylai fynd i'r afael â'r mater hwn hefyd—64 o glystyrau gofal sylfaenol yn sicrhau y bydd cleifion yn cael eu gweld yn uniongyrchol gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i’w hanghenion. Felly, mae’n amlwg, mater o ddatblygiad a newid amserol yw hwn sy'n cael ei godi heddiw.
Ar 10 Awst, bydd Sea Dragon yn angori ym Mermaid Quay. Mae ei chriw o fenywod yn hwylio o amgylch arfordir Prydain er mwyn casglu data ar y plastig yn ein dyfroedd arfordirol. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar â Chymraes o blith y criw—gwn eu bod wedi cwrdd ag Aelodau eraill o‘r Cynulliad a soniwyd amdanynt, yn wir, yma mewn dadl—ac maen nhw’n awyddus iawn i dynnu sylw at broblem llygredd plastig, a chefnogi deiseb y Gymdeithas Cadwraeth Forol, sydd, rwy’n credu, gerbron y Pwyllgor Deisebau. Maen nhw’n ymgyrchu dros gynllun ernes a dychwelyd ar gynwysyddion diod a chosbi cwmnïau sy'n defnyddio plastig na ellir ei ailgylchu ar gyfer cynhwysyddion ac offer bwyd cyflym. Hefyd, yn bwysig iawn, yn fy marn i, maen nhw’n ymgyrchu dros gyflwyno ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus, a fyddai wrth gwrs yn lleihau'r angen am boteli plastig beth bynnag.
Felly, a fyddai arweinydd y tŷ yn llongyfarch y tîm hwn o fenywod, a dwy ohonyn nhw o Gymru? Hefyd, a gawn ni gyfle arall yn y tŷ hwn i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol y mater hwn, a thynnu sylw at y llygredd sy'n digwydd yn ein moroedd ac ar ein tir hefyd?
Wel, fe hoffwn innau hefyd ategu fy llongyfarchiadau i, a diolch i Julie Morgan am dynnu ein sylw at hyn y prynhawn yma—llongyfarchiadau i'r tîm hwnnw o fenywod a ddaeth â'r Sea Dragon i Mermaid Quay a chyfarfod â llawer o Aelodau’r Cynulliad—ond yn arbennig gan dynnu sylw at eu cenadwri wyddonol ac ymgyrchol o ran y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth gasglu data am y plastig yn ein dyfroedd arfordirol. Yn wir, cawsom drafodaeth yn ddiweddar am leihau gwastraff Cymru yn y ddadl ar y Bil lleihau gwastraff, ar 5 Ebrill, ac rydym yn gobeithio cwblhau ein hadolygiad o roi mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr.
O dan gyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol rydym wedi ymrwymo i leihau sbwriel morol. Mae 'na darged penodol o dan disgrifydd 10 cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol, ac wrth gwrs mae gennym grŵp cynghori strategol Cymru ar faterion morol. Maen nhw wedi ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen sbwriel morol i fynd i'r afael â sbwriel morol yng Nghymru. Felly rwy'n siŵr y bydd y gwaith sydd wedi ei wneud ar hynny gan Sea Dragon a’u tîm gwyddonol yn helpu i ychwanegu at gryfder y dystiolaeth y byddwn yn ymateb iddi.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am sawl datganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar wasanaethau casglu gwastraff? Un peth sydd ar feddwl llawer o’m hetholwyr, yn enwedig yng Nghonwy, yw'r broses o gyflwyno casgliadau bin bob pedair wythnos, sydd wrth gwrs wedi ei gefnogi gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol yn yr ardal honno, er mawr ddirmyg a siom i’r trigolion lleol. Mae 'na faw ci yn pentyrru tu mewn i finiau cŵn lleol o ganlyniad i annog pobl i ddefnyddio’r rheini yn hytrach na gadael baw ci yn eu biniau am bedair wythnos. Mae ‘na olwg mawr yn mynd ar y lle i gyd, yn anffodus, o safbwynt yr ymwelwyr niferus sy'n ymweld â’m hetholaeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallem gael rhywfaint o oleuni gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan Lywodraeth Cymru ynghylch pa mor aml y bydd y gwasanaethau casglu sbwriel yn digwydd, ac yn benodol y gwasanaethau casglu biniau cŵn, oherwydd mae’n amlwg nad ydyn nhw’n dod yn ddigon aml ar hyn o bryd.
A gaf i alw hefyd am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r gwaith ymchwil gan Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd sy'n nodi'n glir bod y DU wedi gwneud cynnydd da iawn yn y maes hwn yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn o ganlyniad i'r dull o weithredu dim goddefgarwch o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, yn enwedig o ran delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol. Bellach mae llai na 0.1 y cant o’r gyfradd fyd-eang o luniau o gam-drin plant yn rhywiol yn digwydd yn y DU, o gymharu â 37 y cant yn yr Iseldiroedd, 22 y cant yn yr Unol Daleithiau ac 11 y cant yn Ffrainc. Ond, wrth gwrs, mae ‘na lawer o waith i'w wneud eto. Yn benodol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan y sector cyhoeddus ac yn wir gan sefydliadau preifat yn sicrhau mynediad i’r rhyngrwyd sy'n addas i’r teulu cyfan. Tybed a allem gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar hynny i weld a yw hynny yn rhywbeth y gellid rhoi sylw iddo, efallai drwy amodau grant.
Yn drydydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar yr oedi wrth drosglwyddo o ran gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr wedi eu dychryn o ddarllen am yr achos trist iawn o glaf unigol sydd wedi bod yn dihoeni mewn ward ysbyty am bron i bedair blynedd ac mae hanner blwyddyn arall o’i flaen cyn y gellir trefnu lle addas ar gyfer ei ofal. Mae’n amlwg fod hynny'n annerbyniol ac mae angen rhagor o ymdrech i atal oedi wrth drosglwyddo gofal. A gawn ni ddatganiad ar hynny?
Rwy'n credu ein bod wedi trafod ar sawl achlysur y materion hyn sy’n ymwneud â chyfrifoldebau awdurdodau lleol o ran casglu gwastraff. Ac, wrth gwrs, cafwyd digon o gyfle i godi'r materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, o ran cyfraddau ein llwyddiant, mae’r awdurdodau lleol hynny—ac ni fyddaf o reidrwydd, er y dylwn i efallai, yn enwi'r rheini sy'n rheoli yn rhai o'r awdurdodau lleol hynny, sydd mewn gwirionedd yn arwain y ffordd o ran casglu gwastraff—ond Cymru sy’n arwain y ffordd yn y DU o ran ailgylchu. Hefyd, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i ailgylchu rhagor. Yn ddiweddar dyfarnwyd £3 miliwn i helpu awdurdodau lleol i ddiweddaru eu dulliau o ailgylchu, sydd wrth gwrs yn ystyried pa mor aml y bydd casgliadau’n digwydd ac, yn wir, sut mae trin gwastraff cŵn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn darparu, o ganlyniad i hynny, y gwasanaethau cyhoeddus gorau i’w hetholwyr a phobl leol.
Mae’r ail gwestiwn yn un pwysig iawn. Mae’n amlwg ein bod i gyd yn ymwybodol o waith Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd a'i effaith o ran diogelwch ar y rhyngrwyd, a sylwadau grymus iawn Yvette Cooper o Gadair y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref ddoe. Byddem yn amlwg yn dymuno adolygu ein hamgylchiadau yma yng Nghymru o ran y pwerau sydd gennym i fynd i'r afael â'r materion hynny, a bod yn eglur iawn yng nghefnogaeth y datganiad a wnaeth hi fel cadeirydd pwyllgor dethol yn Westminster.
Rwy'n credu ei bod yn rhaid ystyried eich pwynt am oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei gyd-destun, Darren Millar. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal ar ei lefel isaf ers 12 mlynedd, sydd yn dipyn o gamp, yn enwedig o'i ystyried yn erbyn y galw cynyddol am wasanaethau wrth i’n poblogaeth heneiddio. Ac mae'n arbennig o dda o’i gymharu â'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr, lle mae’n codi ac nid yn gostwng. Ond credaf fod yna faterion cymhleth, ac rwy’n cydnabod yr achos arbennig o gymhleth y cyfeiriwyd ato gennych. Mae'r materion hyn yn aml yn cynnwys ystod o faterion eraill, ac yn gofyn am roi gwasanaethau hynod arbenigol a phwrpasol yn aml ar waith. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau yn cydnabod amgylchiadau fel hynny. Yn bwysig iawn, rwy’n gobeithio eich bod wedi rhoi—mae’n amlwg eich bod wedi tynnu sylw eich bwrdd iechyd at hyn. Ond credaf ei bod yn bwysig nad oes neb mewn gwelyau ysbyty acíwt dan yr amgylchiadau hynny.
Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn ymddwyn yn dra negyddol gyda'r ymgyrchoedd etholiadol yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Felly rwyf eisiau cyflwyno rhywbeth cadarnhaol i’r cwestiynau busnes ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i longyfarch Josh Griffiths a Matthew Rees, y ddau o Harriers Abertawe. Mae Josh Griffiths wedi ennill ei le ym Mhencampwriaethau Byd yr IAAF gydag amser anhygoel, gwell na rhedwyr proffesiynol. Ac wedyn byddech wedi gweld Matthew Rees ym Marathon Llundain yn helpu rhedwr arall a oedd yn ymdrechu i orffen y ras. Credaf ei bod wedi bod yn rhyfeddol i Gymru, ac i Abertawe, i’r rhedwyr hynny ddangos eu galluoedd. Hoffwn gael datganiad gan Lywodraeth Cymru i weld pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gydag Athletau Cymru, fel y gallwch gefnogi Josh Griffiths, drwy'r cyfnod hwn dros yr haf, i wneud yn siŵr ei fod yn gallu cymryd rhan ym mhencampwriaethau’r byd, ac yntau’n fyfyriwr, a dangos bod gan Gymru y talentau hynny yn gefn inni.
Fy ail gais yw—ac rwy’n sylweddoli nad yw Lesley Griffiths yma ar hyn o bryd—a oes ganddi hi ei hun neu ei thîm yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn ddiweddar, fe lansiodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ymgyrch yn galw am grŵp sy'n gweithio o fewn Llywodraeth Cymru i ganfod a fyddai’n bosibl cael cofrestr cam-drin anifeiliaid i Gymru. Ac, felly rwy’n holi tybed, yn ei habsenoldeb, a fyddai ei gweision sifil yn gallu rhoi datganiad inni, neu a allem ni, fel Aelodau Cynulliad, gael llythyr am unrhyw ddatblygiadau yn hynny o beth.
Rwy’n diolch i Bethan Jenkins am y cwestiwn a’i sylwadau cadarnhaol iawn. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â chi. Roedd hi’n rhyfeddol cael gweld y ffordd y daeth Josh Griffiths a Matthew Rees at ei gilydd ar y diwedd dros y llinell derfyn ym Marathon Llundain, a chlywed y lleisiau Cymreig hynny, a chydnabod y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth oedd yn wirioneddol yn rhywbeth cadarnhaol iawn i ni i gyd i’w rannu. Rydym yn mynegi ein diolch a'n llongyfarchiadau iddynt. Ond, mae’n amlwg eich bod yn codi materion ehangach, ac rwy'n siŵr y bydd angen mynd i'r afael â nhw o ran sefyllfa benodol Josh Griffiths.
Ar eich ail bwynt, gallaf eich sicrhau bod swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ati ar ei rhan hi i wneud cynnydd o ran sefydlu'r gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn wir, roedd hynny’n rhywbeth yr ymatebais iddo yn ei lle hi, ac rydym yn datblygu hyn a byddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Arweinydd y tŷ, rwy’n gwybod eich bod chi, fel minnau, a llawer o’r Aelodau eraill sydd yma, yn gefnogwr brwd o ymgyrch WASPI. Felly rwy'n siwr y byddwch yn ymwybodol o'r addewid diweddar a wnaed gan Blaid Lafur y DU i ddigolledu'r menywod hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan newidiadau Llywodraeth y DU i oedran pensiwn y wladwriaeth. Croesawyd hyn gan ymgyrch WASPI fel y cam cyntaf pwysig wrth geisio cyfiawnder i'r rhai a gafodd eu trin mor annheg. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y gallai ei gyflawni i wneud yn siŵr bod y menywod hynny a aned yn y 1950au, y mae llawer ohonyn nhw’n wynebu tlodi mawr o achos y newidiadau trahaus a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, yn derbyn y cyfiawnder a phensiwn y wladwriaeth y maen nhw’n eu haeddu?
Rwy’n diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwn. Yn wir, dim ond yr wythnos ddiwethaf oedd hi pan gefais gyfarfod â Kay Clarke, ymgyrchydd blaenllaw yn y Barri. Cyfarfûm â hi am y tro cyntaf pan ddaeth hi yma i gymryd rhan mewn gwrthdystiad ar risiau'r Senedd, ac rwy’n credu, Vikki, eich bod chi fel Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon wedi eu croesawu nhw. Ac rwyf innau ar ôl hynny, fel Aelod Cynulliad, wedi gwneud llawer i gefnogi'r ymgyrch hon. I egluro i bawb, WASPI yw Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac er nad yw materion pensiwn wedi’u datganoli a chyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llywodraeth y DU ydyn nhw, er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus am yr effaith anghyfartal, fel y disgrifiwyd gan Vikki Howells, a gaiff y newid hwn ar nifer fawr o fenywod. Maen nhw wedi gweld codiad sylweddol yn oedran pensiwn y wladwriaeth heb ddigon o rybudd effeithiol, gan adael ychydig iawn o amser i ad-drefnu eu bywydau, eu cynlluniau a'u trefniadau cyllid, ac maent yn gorfod aros am nifer o flynyddoedd ychwanegol cyn bod yn gymwys i dderbyn pensiwn y wladwriaeth, sef rhywbeth yr ydym ni’n ystyried y maent yn haeddiannol iawn ohono. Felly, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y byddem yn dymuno gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni cymaint ag y gallwn o fewn ein pwerau ac yn sicr ategwn ein llais at ymgyrch WASPI.
A gaf i alw am ddatganiad unigol, datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar fewnblaniadau rhwyll yn y wain? Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y mater hwn wedi cael sylw helaeth yn y wasg yn y DU ac yng Nghymru yn ystod toriad y Pasg, yn dilyn y cyhoeddiad bod 800 o fenywod ledled y DU yn erlyn y GIG, gan ddweud bod y rhain wedi achosi poen a gwewyr iddyn nhw. Cysylltodd etholwraig yn y gogledd â mi, gan ofyn imi godi hyn yma yn y Senedd gyda Llywodraeth Cymru. Dywedodd wrthyf ei bod wedi cael mewnblaniad rhwyll yn Ysbyty Gwynedd yn 2004 a bu’n dioddef poen enbyd yn ei hystlys chwith byth oddi ar hynny, poen yn ei chlun chwith, poen pelfig a phoen mewn rhan bersonol o’r corff. Fel y dywedodd, mae hi’n un o rai miloedd o fenywod dros y DU sy'n dioddef oherwydd y mewnblaniadau hyn. Cafodd hyn sylw yn y cyfryngau yng Nghymru ar y pryd a datganwyd bod y rhwyll, er gwaethaf y cymhlethdodau, yn dal i fod ar gael i fenywod yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau i Gymru Ar-lein bod y driniaeth ar gael o hyd yn y GIG yng Nghymru, ond bod canllawiau gwell yn eu lle. Er mwyn fy etholwraig i, ac, yn ddiau, er mwyn llawer o fenywod eraill ledled Cymru yr effeithiwyd arnynt gan y mewnblaniadau hyn, rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno bod hyn yn deilwng o ddatganiad. Diolch.
Wel, rwyf innau hefyd, Mark Isherwood, wedi codi’r pryderon hyn ar ran fy etholwragedd i hefyd. Ac mae’n amlwg fod mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o hyn wedi bod yn ddiweddar, o ganlyniad, er enghraifft, i Aelodau Seneddol hefyd. Mae Owen Smith AS, mi wn, wedi codi hyn yn benodol. Felly, rwy'n credu bod y mater y cyfeiriwch ato o ran y GIG, bod y driniaeth ar gael yng Nghymru, a'r ffaith bod cyngor a chanllawiau yn 2014, wedi codi pryderon am effeithiau andwyol sy'n gysylltiedig â’r math hwn o driniaeth. Pwysleisiwyd eto bod angen cael caniatâd gwybodus, cydymffurfio â’r safonau mewn canllawiau, archwiliadau rheolaidd o lawdriniaethau, adroddiadau am effeithiau niweidiol, gan sicrhau bod ail lawdriniaeth neu dynnu’r rhwyll yn cael ei gyflawni gan arbenigwyr â’r cymwysterau priodol. Felly, unwaith eto, er mwyn cynnal diogelwch cleifion, rydym wedi atgoffa byrddau iechyd bod angen iddynt sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am unrhyw gymhlethdodau a all ddeillio o lawdriniaeth, ac wedi rhoi’r dewis i fenywod sydd wedi cael y driniaeth i adrodd eu hunain am broblemau neu effeithiau niweidiol. Ac mae’n amlwg ei bod hi'n bwysig ein bod yn cofnodi hynny heddiw eto.
Rwy’n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y tai a fflatiau Cyngor y bwriedir eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n gwybod am y datblygiadau sydd naill ai yn cael eu hadeiladu neu sydd yn yr arfaeth yn Abertawe, ond byddai o fudd i ni gael gwybod am yr holl ddatblygiadau yng Nghymru. Ac, er mwyn eich atgoffa chi, cyn i'r Ceidwadwyr fynd yn blaid adain dde eithafol, dan arweinwyr fel Churchill a Harold Macmillan, roedden nhw’n hyrwyddo’r gwaith o adeiladu tai a fflatiau cyngor.
Wel, rydym nawr yn dechrau gweld budd o’r ffaith ein bod wedi rhoi’r gorau i gymhorthdal y cyfrif refeniw tai, gyda thai cyngor newydd yn cael ei hadeiladu. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn, Mike Hedges, eich bod wedi tynnu’n sylw ni at hyn heddiw i gael sylwadau ac ymateb gan Lywodraeth Cymru. Yn rhan o'r cytundeb tai â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, rwy’n falch o gael dweud bod awdurdodau tai lleol yn anelu at ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn gyfraniad gwerthfawr tuag at ein targed o 20,000. Felly, unwaith eto, rydym yn sicrhau bod adeiladu tai cyngor yn digwydd ac yn mynd rhagddo, gan ddarparu tai fforddiadwy i bobl yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, chwe blynedd yn ôl, cyflwynais Fil menter busnes yn y Siambr hon, a rhoddais bwyslais cryf iawn ar hyrwyddo ein diwydiant hedfanaeth. Clywais yn ddiweddar iawn fod ein Prif Weinidog wedi trefnu cysylltiadau agos iawn ag un o gwmnïau awyrennau’r dwyrain canol, sydd yn mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. Onid yw hyn chwe blynedd yn hwyr, neu saith blynedd yn hwyr, ond eto i gyd mae’n aros yn asgwrn cefn i'n heconomi? A wnewch chi ofyn i'r Prif Weinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth, wneud datganiad ar ddatblygiad ein diwydiant hedfanaeth yng Nghymru? Diolch.
Wel, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw ni at hyn y prynhawn yma, Mohammad Asghar, oherwydd fy mod yn siŵr eich bod wedi clywed, ac yn cydnabod hynny eto, bod Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion gwych am fuddsoddiad ac ymgysylltiad Qatar yn ein maes awyr yng Nghaerdydd, y gwnaethom ni, wrth gwrs, nid yn unig ei sicrhau a’i gynnal, ond yr ydym yn ei ddatblygu. Felly, wyddoch chi, mae polisi hedfanaeth Llywodraeth Cymru yn glir, ac yn gwneud ei waith, a bydd yn mynd o nerth i nerth. Ond mae'n bwysig ein bod ni, unwaith eto, yn gallu pwyso a mesur y cyhoeddiadau hyn o newyddion da.
Diolch i ysgrifennydd y tŷ, Jane Hutt.