Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 2 Mai 2017.
Rhaid i mi ddweud fy mod i, yn bersonol, yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weld gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd. Roeddwn i’n cicio pêl-droed replica Caerdydd 2017 swyddogol o gwmpas yr ardd neithiwr gyda phlentyn 13 oed a oedd yn llawn cyffro. Ac er mor hapus yr oeddwn i gyfrannu £14.99 at y cwmnïau nwyddau ar gyfer y bêl benodol honno, rydym yn dymuno gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r buddiolwr go iawn yma. Rydym yn sôn am un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd. Wna i byth anghofio gwylio Manchester United yn curo Bayern Munich ym 1999 ar y funud olaf, neu wyrth Lerpwl yn 2005 wrth guro AC Milan. Ond nid y straeon hynny yn unig y byddwn o bosib yn eu hailadrodd yma yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau—y straeon pêl-droed hynny—rwy’n cofio ble’r oedd y gemau hynny, a Man United yn ennill yn Barcelona, a Lerpwl yn ennill yn Istanbwl. Felly, gallai Caerdydd ddod yn rhan o lên gwerin chwaraeon rhyngwladol.
Roeddwn i’n siarad gydag ychydig o blant yn yr Eidal ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn gofyn o ble'r oeddwn i’n dod—‘O Gymru. Ydych chi'n gwybod ble mae Cymru?’ 'Dyna ble fydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal ymhen ychydig wythnosau', sy’n dangos grym iaith pêl-droed yn fyd-eang. Roeddent hefyd yn ymwybodol iawn mai Cymru yw cartref Gareth Bale, wrth gwrs. Ac oni fyddai’n braf gweld Gareth Bale ffit yn chwarae mewn gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas enedigol? Ond, er mwyn cadw cydbwysedd, hoffwn ddweud, wrth gwrs, y byddai croeso i gefnogwyr y ddau dîm o Madrid yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm derfynol. Rwy’n credu bod y gêm gyntaf yn cael ei chwarae heno, o’r rownd gynderfynol honno, gyda'r enillydd yn hysbys i ni erbyn wythnos i ddydd Mercher.
Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy'n ymwneud â threfnu gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ystod yr ychydig wythnosau olaf. Yn benodol, hoffwn sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n rhedeg y sioe. A dyma gymdeithas bêl-droed sydd wedi profi yn ystod yr Euros, a'r cyfnod a oedd yn arwain at yr Euros, y llynedd, ei gallu i fanteisio ar sylw chwaraeon rhyngwladol.
Dim ond tri chwestiwn. Soniasoch am y cyfleuster cymunedol a fydd yn cael ei adael fel etifeddiaeth yn Grangetown yng Nghaerdydd, y cae 3G yno. Mae'r cyngor lleol wedi gwarantu y bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim am ddwy flynedd. Ar ôl hynny, nid yw taliadau wedi eu diystyru. Ond a dweud y gwir, wrth gwrs, os ydym yn mynd i weld etifeddiaeth wirioneddol o hyn, mae angen cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim am gyfnod hirach o lawer na dwy flynedd. Felly, beth ydych chi'n mynd i’w wneud i sicrhau bod etifeddiaeth hwy na dim ond defnydd dwy flynedd o gyfleuster cymedrol, ond pwysig iawn, i'r gymuned honno, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar yr ydym wedi’i weld yn y taliadau ar gyfer cyfleusterau chwaraeon ar draws Cymru gyfan?
Yn ail, bydd yr argraff gyntaf yn bwysig iawn, iawn. Byddwn yn gweld llawer o ymwelwyr â Chaerdydd. Pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i gynnig i gyngor Caerdydd i sicrhau bod sbwriel yn cael ei gasglu, bod gennym ddinas lân, fodern yn aros am yr holl gefnogwyr pêl-droed hynny?
Yn olaf, mae'r datganiad yn nodi mai Caerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal y digwyddiad hwn. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, petawn yn cymryd yr ardal ehangach—Cymoedd de Cymru, wrth gwrs, a'r boblogaeth fawr yno—mae'n debyg nad hi yw'r ardal leiaf. Ond, yn amlwg, er mwyn cynnal digwyddiadau fel hyn yng Nghaerdydd mae angen i’r seilwaith fod yn ehangach na dim ond y ddinas ei hun—mae angen iddo gynnwys y Cymoedd, gan gryfhau’r seilwaith trafnidiaeth dros ardal ehangach. Felly, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i sicrhau bod y digwyddiad hwn o fudd i'r ardaloedd cyfagos ehangach, ac, ynghyd â'r hwb hwnnw sy’n angenrheidiol i'r seilwaith, nid yn unig ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr—dim ond nifer cyfyngedig y gallwn ni eu gwneud yn yr ychydig wythnosau nesaf—ond yn y tymor hirach, i gefnogi Cymru i fod yn chwaraewr ar y llwyfan byd-eang ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol?