– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 2 Mai 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, i wneud ei ddatganiad. Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Ymhen mis, bydd Caerdydd a Chymru yn cynnal gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf ac uchaf ei fri yn y byd, a'r digwyddiad chwaraeon unigol mwyaf yn y byd yn 2017. Bydd gêm derfynol y dynion ar 3 Mehefin yn denu cynulleidfa deledu fyw fyd-eang o 200 miliwn ac amcangyfrifir y bydd 170,000 o ymwelwyr ychwanegol yn dod i'n prifddinas. Bydd yr Aelodau wedi gweld dyfodiad cyffrous y tlysau yng Nghymru bythefnos yn ôl, ac maent yn teithio'r wlad ar hyn o bryd, gan roi cyfle unigryw i’n cymunedau ymgysylltu â'r digwyddiad. Ddoe, ymwelodd y tlysau â chlybiau pêl-droed Porthmadog a Chefn Druids, a heddiw maent wedi bod mewn gŵyl ysgol yn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug. Rwy'n ymwybodol o’r cyffro fydd wedi ei greu ymysg cefnogwyr pêl-droed lleol a'r cyhoedd yn y gogledd yn ehangach. Dyma ddigwyddiad cyntaf arall yn hanes Cymru, a fydd yn dechrau haf o chwaraeon chwedlonol, gyda gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei dilyn yn fuan gan Dlws Pencampwyr ICC yng nghriced Morgannwg a Phencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn dychwelyd i’r Royal Porthcawl. Mae hyn yn dangos ein huchelgais a’n hymrwymiad i adeiladu ar gymwysterau cynnal digwyddiadau mawr Cymru.
Bydd y manteision i Gymru yn sylweddol. Bydd y digwyddiad yn creu effaith economaidd sylweddol o ganlyniad i'r ymwelwyr ychwanegol yn dod i Gymru. Bydd hyn yn cynnwys gwariant mewn gwestai, bwytai, tafarndai, bariau a theithio yn yr ardal. Mae'r ddarpariaeth lletygarwch yn y ddinas ar ddiwrnod y gêm, sy'n cynnwys tua 16,000 o brydau bwyd, yn darparu llwyfan gwerthfawr i gynnyrch Cymreig. Ar y cyfan, mae cael gafael ar hawliau a buddion sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn rhoi cymhelliad digynsail i Gymru allu ymgysylltu â mewnfuddsoddiad allweddol a thargedau busnes.
Bydd y sylw helaeth yn y cyfryngau yn ystod y cyfnod cyn hyn, ac o’r digwyddiad ei hun, yn codi proffil ac enw da Cymru yn rhyngwladol. Mae is-bennawd a brand ‘Y Daith i Gaerdydd’ wedi bod yn weladwy o gwmpas y byd ers rhai misoedd erbyn hyn, yn amlwg iawn ym mhob gêm Cynghrair y Pencampwyr ac ar ddechrau ac yng nghanol pob gêm sydd wedi ei darlledu. Yn ychwanegol at y miliynau o wylwyr teledu a'r cefnogwyr lwcus sy’n gallu mynd i’r gemau eu hunain, amcangyfrifir y bydd 200,000 o bobl yn dod i Ŵyl Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd, dathliad pedwar diwrnod rhad ac am ddim o ddydd Iau tan ddydd Sul. Bydd yr ŵyl yn darparu profiad UEFA o ansawdd uchel fel bod cyfle i’r rheini sydd heb docynnau weld y tlws, ymgysylltu â'r noddwyr, cael nwyddau UEFA argraffiad cyfyngedig a gweld rhai o gyn gewri pêl-droed y byd yn chwarae gêm chwedlonol ar gae arnofiol ym Mae Caerdydd ddydd Gwener 2 Mehefin.
Fel yn achos taith y tlws, rydym yn dymuno lledaenu effaith gadarnhaol y digwyddiad drwy Gymru gyfan, ac fe fydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli cenhedlaeth, gyda chyfres o ddeunyddiau traws-gwricwlwm wedi eu dylunio’n arbennig yn cael eu cyflwyno i tua 1,000 o ysgolion yng Nghymru yn y cyfnod yn arwain at y digwyddiad, gan wella’r cwricwlwm ac ymgysylltu gyda 136,000 o bobl ifanc o bosibl. Gan ychwanegu at gymwysterau Cymru fel cenedl sy’n barod i wirfoddoli, bydd 1,500 o hyrwyddwyr yn rhan o'r rhaglen wirfoddoli a fydd yn rhoi sgiliau gwerthfawr i'r cyfranogwyr y gallant eu defnyddio yn eu man addysg neu fan gwaith. Mae'r digwyddiad hefyd yn darparu llwyfan bwysig ar gyfer annog cyfranogiad ehangach. Bydd y pwyslais a roddir ar gêm derfynol y merched ar 1 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ochr yn ochr ag un y dynion, a chynnal y gêm derfynol yn yr un ddinas, yn codi proffil pêl-droed merched a genethod yng Nghymru, gan annog ffitrwydd a chyfranogiad a chynyddu statws y gêm yng ngolwg chwaraewyr, addysgwyr a darpar noddwyr. Bydd tua 2,500 o enethod a merched o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn gŵyl pêl-droed merched wedi ei threfnu’n arbennig a fydd yn cael ei chynnal yr un diwrnod â gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA. I’r cefnogwyr sy'n dymuno ymdrochi ym mhrofiad Cynghrair y Pencampwyr, mae tocynnau ar gyfer gêm derfynol y merched yn dal i fod ar gael a byddai'n wych gweld stadiwm llawn dop yn estyn croeso cynnes Cymreig i'r chwaraewyr.
Ond mae cynnal digwyddiad anferth fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cyflwyno heriau sylweddol. Caerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal y gêm derfynol ac mae cynllunio helaeth wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd i sicrhau digwyddiad diogel a phleserus. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn arwain ymdrech ‘tîm Cymru’ ar y cyd, ac yn trefnu cefnogaeth sylweddol y partneriaid allweddol gan gynnwys Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, Stadiwm y Principality, sy'n cael ei hailenwi'n ‘Stadiwm Genedlaethol Cymru’ ar gyfer y digwyddiad hwn, ac, wrth gwrs, Llywodraeth Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn erbyn cefndir o dirwedd diogelwch rhyngwladol heriol dros ben, sydd, yn drasig, wedi dod yn fwy difrifol yn yr wythnosau diwethaf. Yn erbyn y cefndir hwn, mae diogelwch pawb sy'n mynychu'r digwyddiadau yn hollbwysig. Mae Heddlu De Cymru, gyda chymorth gan heddluoedd cyfagos yng Nghymru a Lloegr, yn arwain y gwaith diogelwch mwyaf ers uwchgynhadledd NATO. Mae'n anochel y bydd hyn yn effeithio ar lif traffig a cherddwyr o amgylch y ddinas, ond y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw diogelwch trigolion yn ogystal ag ymwelwyr.
Mae trafnidiaeth a theithio i ac o amgylch y digwyddiad hefyd yn cyflwyno her logistaidd. Ar gyfer y digwyddiad hwn, mae cynllunio trafnidiaeth wedi cael ei wneud yn fwy anodd am nad ydym yn gwybod pwy fydd yn y gêm derfynol tan dair wythnos cyn y digwyddiad, er bod gennym syniad llawer cliriach yn dilyn y gêm gyfartal gynderfynol ddiweddar. Mae cyfres o fesurau wedi eu cynllunio'n ofalus yn cael eu rhoi ar waith o amgylch rhwydwaith ffyrdd canol y ddinas yn y pythefnos sy'n arwain at y digwyddiad a bydd hyn yn achosi rhywfaint o aflonyddwch.
Mae'r neges yn glir: bydd Caerdydd yn brysurach nag y bu erioed ar 3 Mehefin ac fe ddylai’r rhai nad ydynt yn mynd i’r gêm osgoi teithiau diangen. Comisiynwyd ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus yn arbennig a bydd yn cael ei chyflwyno i gynghori trigolion, busnesau ac ymwelwyr ynglŷn ag amharu posibl i deithiau a thrafnidiaeth ac i roi cyngor ar leihau anghyfleustra, ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan ymgysylltiad wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid targed allweddol.
Felly, mae’r ddinas leiaf erioed i gynnal gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn mynd i gyflwyno sioe heb ei thebyg yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau. Mae Cymru yn cael ei phroffilio ledled y byd i gynulleidfaoedd rhyngwladol sydd efallai erioed wedi ein hystyried yn y gorffennol fel lleoliad i ymweld ag ef neu i wneud busnes. Rydym ar fin adeiladu ar berfformiad gwych Cymru ym mhencampwriaethau Ewropeaidd y llynedd i gael ein gwreiddio mewn diwylliant pêl-droed ledled y byd fel cyrchfan deniadol iawn ar fap y byd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu bod gan Gymru hanes balch o gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n llawer uwch na'r hyn a fyddai'n ddisgwyliedig fel arfer ar gyfer gwlad o'n maint ni. Cytunaf yn llwyr â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ei bod yn anrhydedd fawr i Gaerdydd gael cynnal y digwyddiad byd-eang pwysig hwn sydd, wrth gwrs, â’r potensial i arddangos y gorau o Gymru i'r byd a bod o fudd sylweddol i economi Cymru yn ogystal â rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth.
Mae digwyddiadau chwaraeon mawr o'r fath nid yn unig yn tanio ein balchder cenedlaethol ac yn rhoi hwb i lefelau twristiaeth, ond maent hefyd yn codi'r mater o gefnogi’r agenda iechyd cyhoeddus ehangach hefyd. Felly, gyda golwg ar hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu pa gamau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd ers llwyddiant Euro 2016 i roi hwb i rinweddau ffordd egnïol o fyw a manteision eraill gweithgarwch chwaraeon, a gwneud hynny, wrth gwrs, yn wyneb llai o gyllid yn y maes hwnnw hefyd?
Yn economaidd, mae cynnal digwyddiadau fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr hefyd yn gyfle gwych i hysbysebu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, nid yn unig i Ewropeaid eraill ond hefyd ar draws y byd. Roeddwn yn falch o glywed bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymryd camau i arddangos ein cenedl yng Ngŵyl Pencampwyr UEFA ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn deunyddiau traws-gwricwlwm ar gyfer ysgolion Cymru. Roeddwn yn falch o glywed hynny.
Cyfeiriasoch hefyd at y potensial am fygythiadau diogelwch yn y pencampwriaethau. A gaf i hefyd gymeradwyo eich cyngor i wylwyr fod yn wyliadwrus a chymryd sylw o gyngor gan yr heddlu a staff diogelwch?
Yn olaf, hoffwn ofyn pa wersi a ddysgwyd o gynnal digwyddiadau mawr yn flaenorol, yn enwedig o safbwynt trafnidiaeth. Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, cafodd profiad o Gaerdydd ei dymheru gan broblemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, gydag oedi hir o hyd at 4 awr mewn rhai achosion, ac achosion o orlenwi, a fydd o bosibl, rwy’n disgwyl, yn cael y sgil-effaith o wneud pobl yn gyndyn o ymweld yn y dyfodol. Nawr, o ystyried y ffaith bod nifer yr ymwelwyr yng ngorsaf Caerdydd Canolog wedi cynyddu'n ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf, a ydych chi’n hyderus bod yr orsaf yn gallu ymdopi â'r gorlif? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod yn rhaid i ni fod yn ofalus ac osgoi ailadrodd y digwyddiadau. Felly, a gaf i ofyn pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd, ochr yn ochr â siarad â darparwyr cludiant, cyngor dinas Caerdydd a threfnwyr y twrnamaint, er mwyn lleihau'r tarfu i deithwyr, preswylwyr a chefnogwyr?
Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad a'i gwestiynau, a hefyd am ei frwdfrydedd ynghylch hyn a digwyddiadau mawr eraill yr ydym wedi eu cynnal yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Mae gennym hanes balch o gynnal digwyddiadau mawr o ansawdd o arwyddocâd byd-eang, gan gynnwys Cwpan Ryder, er enghraifft, a osododd Cymru ar fap byd-eang o ran y wlad fel cyrchfan golff, yn ogystal â llu o ddigwyddiadau chwaraeon o bwys, ac, yn wir, ddigwyddiadau diwylliannol, a gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn cymryd agwedd strategol tuag at gynnal digwyddiadau mawr i sicrhau ymwelwyr sy'n ailymweld, a hefyd i ddenu buddsoddiad newydd i'r wlad a phortreadu Cymru fel gwlad lle mae ansawdd bywyd yn hollbwysig. Bydd manteision gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn sylweddol, ond ni fyddant wedi eu cyfyngu i rai economaidd yn unig—er bod yr effaith economaidd wedi ei asesu i fod yn rhywbeth tebyg i tua £45 miliwn yn y cyfnod agos, ac yn syth ar ôl gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Ond rydym yn disgwyl, o ganlyniad i gannoedd ar filoedd o bobl yn ymweld â Chaerdydd, gweld niferoedd ymwelwyr yn y dyfodol yn cynyddu yn unol â hynny, gyda mwy o bobl yn aros yma dros nos yn sgil profi'r croeso Cymreig cynhesaf bosibl yn ein prifddinas.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am bwysigrwydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ac yn wir ddigwyddiadau chwaraeon mawr eraill, i’r agenda 'iach a gweithgar' sydd gan y Llywodraeth hon. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio digwyddiadau chwaraeon mawr, nid yn unig i ddenu pobl i ymweld â Chymru, ond hefyd i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn dod yn fwy egnïol yn eu bywydau bob dydd ac i ysbrydoli nid yn unig cenhedlaeth y dyfodol, ond cenedlaethau cyfredol hefyd i fod yn fwy egnïol ac ymwneud mwy â chwaraeon.
Ar ôl yr Euros y llynedd, bu Llywodraeth Cymru, drwy Chwaraeon Cymru, yn gweithio gyda nifer o gyrff llywodraethu cenedlaethol, yn bennaf FAW, i hyrwyddo, yn enwedig i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, y potensial i gymryd rhan mewn pêl-droed. Ac o ganlyniad i fuddsoddiad ac ymdrech barhaus, rydym wedi gweld cynnydd nodedig yn nifer y genethod, yn anad dim, sydd wedi dechrau chwarae pêl-droed. Rydym wedi gweld cynnydd mwy o lawer yn gyfrannol yn nifer y genethod sy'n cofrestru fel chwaraewyr pêl-droed na merched ac, yn wir, fechgyn. Felly, yn amlwg, mae pêl-droed yn dod yn llawer mwy deniadol fel gêm, fel math o weithgarwch corfforol, i enethod. Ond rydym yn dymuno cynnal y momentwm sydd wedi ei sefydlu cyn, yn ystod, ac ar ôl yr Euros drwy ymgysylltu ag ysgolion, fel yr amlinellodd yr Aelod, trwy ymyriad gwaith cwricwlwm ysgol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn dod yn fwy brwdfrydig ac yn fwy ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar garreg eu drws.
Prosiect etifeddiaeth gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr fydd sefydlu cyfleuster pêl-droed cymunedol yng Nghaerdydd mewn ardal briodol, yr ydym yn disgwyl y bydd yn cael ei ddefnyddio gan rai, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, a all fod heb fynediad rhad ac am ddim neu fforddiadwy at gyfleusterau chwaraeon. Yn y blynyddoedd nesaf, byddwn yn gobeithio y bydd llawer o'r rhai sy'n mynd ymlaen i ddefnyddio’r cae etifeddiaeth hwn yn cofrestru fel pêl-droedwyr eu hunain. Byddwn hefyd yn defnyddio Gŵyl y Pencampwyr i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan gwyliau a hefyd fel cyrchfan i fuddsoddi a gwneud busnes. Ond rydym wedi bod yn defnyddio gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr fel sbardun i ddenu mwy o sylw i Gymru ers misoedd lawer erbyn hyn . Roeddem wedi tynnu sylw at ein presenoldeb yn sioe deithio Berlin, er enghraifft, gyda phresenoldeb gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd ym mis Mehefin. Byddwn yn gwneud hynny dros fisoedd yr haf drwy drydar, drwy sicrhau bod cynnwys priodol ar gael ar gyfer gwefannau rhanddeiliaid i arddangos y gorau o Gymru gyda ffotograffau, gyda thestun a gyda fideos byr. Rydym wedi, ac yn dal i ddysgu gwersi yn gyson o’r prif ddigwyddiadau yr ydym yn eu cynnal. Rwy'n gwybod mai un o'r pryderon sydd gan yr Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau Caerdydd yw'r defnydd o'r cae a ddefnyddiwyd ar gyfer yr Eisteddfod fel maes gwersylla Caerdydd ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr ei hun. Rydym wedi dysgu cryn dipyn o wersi o'n profiad gyda'r Eisteddfod ac rydym yn parhau i sicrhau bod y parc yn cael ei ddiogelu ar gyfer ei ddefnyddwyr. Bydd y maes gwersylla yn cael ei ddefnyddio o ddydd Llun 22 Mai, a bydd yn gweithredu o 31 Mai i 5 Mehefin. Ond byddwn yn atgoffa’r Aelodau y bydd gweithgarwch yn mynd rhagddo yno wrth baratoi'r parc o 22 Mai ymlaen. Rydym wedi paratoi taflen cwestiynau ac atebion, sydd ar gael ar wefan bute-park.com, os oes gan unrhyw breswylwyr neu Aelodau'r Cynulliad gwestiynau.
Rydym hefyd wedi dysgu cryn dipyn o wersi ynghylch rheoli teithio mewn cerbydau ac ar drenau. Mae'r gweithredwyr trenau yn gweithio fel tîm ar y cyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Felly, mae Network Rail, Trenau Arriva Cymru, Rheilffordd y Great Western, a CrossCountry Trains yn cydweithio gyda threfnwyr y digwyddiad i sicrhau bod y rheilffyrdd mewn sefyllfa i reoli’r galw mewn digwyddiad o'r maint hwn. Mae hwn yn ddigwyddiad enfawr, ac os caf i redeg drwy rai o'r ffigurau sy'n ymwneud â theithio ar y rheilffyrdd yn benodol, rwy’n credu y bydd yn dangos faint o waith paratoi sydd wedi mynd i mewn i’r digwyddiad penodol hwn: bydd 15,000 yn fwy o deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd ar ôl y gêm yn digwydd o’i gymharu â Chwpan Rygbi'r Byd yn 2015; bydd cyfanswm o 60,000 o deithiau rheilffordd ar ôl y gêm, gan gynnwys 21 o wasanaethau trên cyflym i Lundain; bydd 25,000 o deithwyr siarter awyr yn cyrraedd ac yn gadael y meysydd awyr yng Nghaerdydd, Birmingham a Bryste, a gefnogir gan fwy na 450 o fysus trosglwyddo a dau gyfleuster llwyfannu mawr yng Nghaerdydd. Rydym hefyd yn trefnu cynlluniau parcio a theithio pwrpasol newydd, a fydd yn darparu ar gyfer 7,500 o leoedd yn Llan-wern a Phentwyn, ac yn ogystal â hyn, bydd 5,000 o leoedd parcio a cherdded yn ardal Bae Caerdydd, a fydd yn cefnogi mynediad uniongyrchol i Ŵyl Cynghrair y Pencampwyr UEFA.
Hefyd, bydd 10 y cant o'r farchnad coetsys sydd ar gael yn y DU yn cael ei defnyddio ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Mae hwn yn nifer anhygoel o goetsys. Rydym yn amcangyfrif rhywbeth yn debyg i 1,250, ac rydym yn gweithio ar y cyd gyda gweithredwyr megis National Express i sicrhau, ar draws Cymru, ac ar draws y DU, y bydd ymwelwyr â Chaerdydd yn ystod profiad Cynghrair y Pencampwyr, yn cael profiad o'r ansawdd uchaf, ac y byddant yn gallu mynd i mewn ac allan o Gaerdydd mor rhwydd â phosibl, ac yn yr amser byrraf posibl. Ond byddwn unwaith eto yn annog Aelodau i gyfleu i'w hetholwyr fod hwn yn ddigwyddiad digynsail. Dylem fod yn falch iawn o'r digwyddiad hwn, ond dylem hefyd baratoi'n dda ar ei gyfer.
Rhaid i mi ddweud fy mod i, yn bersonol, yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weld gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd. Roeddwn i’n cicio pêl-droed replica Caerdydd 2017 swyddogol o gwmpas yr ardd neithiwr gyda phlentyn 13 oed a oedd yn llawn cyffro. Ac er mor hapus yr oeddwn i gyfrannu £14.99 at y cwmnïau nwyddau ar gyfer y bêl benodol honno, rydym yn dymuno gwneud yn siŵr mai Cymru yw'r buddiolwr go iawn yma. Rydym yn sôn am un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd. Wna i byth anghofio gwylio Manchester United yn curo Bayern Munich ym 1999 ar y funud olaf, neu wyrth Lerpwl yn 2005 wrth guro AC Milan. Ond nid y straeon hynny yn unig y byddwn o bosib yn eu hailadrodd yma yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau—y straeon pêl-droed hynny—rwy’n cofio ble’r oedd y gemau hynny, a Man United yn ennill yn Barcelona, a Lerpwl yn ennill yn Istanbwl. Felly, gallai Caerdydd ddod yn rhan o lên gwerin chwaraeon rhyngwladol.
Roeddwn i’n siarad gydag ychydig o blant yn yr Eidal ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn gofyn o ble'r oeddwn i’n dod—‘O Gymru. Ydych chi'n gwybod ble mae Cymru?’ 'Dyna ble fydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal ymhen ychydig wythnosau', sy’n dangos grym iaith pêl-droed yn fyd-eang. Roeddent hefyd yn ymwybodol iawn mai Cymru yw cartref Gareth Bale, wrth gwrs. Ac oni fyddai’n braf gweld Gareth Bale ffit yn chwarae mewn gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ei ddinas enedigol? Ond, er mwyn cadw cydbwysedd, hoffwn ddweud, wrth gwrs, y byddai croeso i gefnogwyr y ddau dîm o Madrid yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm derfynol. Rwy’n credu bod y gêm gyntaf yn cael ei chwarae heno, o’r rownd gynderfynol honno, gyda'r enillydd yn hysbys i ni erbyn wythnos i ddydd Mercher.
Hoffwn ddymuno’r gorau i bawb sy'n ymwneud â threfnu gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn ystod yr ychydig wythnosau olaf. Yn benodol, hoffwn sôn am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n rhedeg y sioe. A dyma gymdeithas bêl-droed sydd wedi profi yn ystod yr Euros, a'r cyfnod a oedd yn arwain at yr Euros, y llynedd, ei gallu i fanteisio ar sylw chwaraeon rhyngwladol.
Dim ond tri chwestiwn. Soniasoch am y cyfleuster cymunedol a fydd yn cael ei adael fel etifeddiaeth yn Grangetown yng Nghaerdydd, y cae 3G yno. Mae'r cyngor lleol wedi gwarantu y bydd y cae ar gael i'w ddefnyddio yn rhad ac am ddim am ddwy flynedd. Ar ôl hynny, nid yw taliadau wedi eu diystyru. Ond a dweud y gwir, wrth gwrs, os ydym yn mynd i weld etifeddiaeth wirioneddol o hyn, mae angen cyfleusterau chwaraeon sydd ar gael i’w defnyddio’n rhad ac am ddim am gyfnod hirach o lawer na dwy flynedd. Felly, beth ydych chi'n mynd i’w wneud i sicrhau bod etifeddiaeth hwy na dim ond defnydd dwy flynedd o gyfleuster cymedrol, ond pwysig iawn, i'r gymuned honno, yn enwedig o ystyried y cynnydd diweddar yr ydym wedi’i weld yn y taliadau ar gyfer cyfleusterau chwaraeon ar draws Cymru gyfan?
Yn ail, bydd yr argraff gyntaf yn bwysig iawn, iawn. Byddwn yn gweld llawer o ymwelwyr â Chaerdydd. Pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i gynnig i gyngor Caerdydd i sicrhau bod sbwriel yn cael ei gasglu, bod gennym ddinas lân, fodern yn aros am yr holl gefnogwyr pêl-droed hynny?
Yn olaf, mae'r datganiad yn nodi mai Caerdydd yw'r ddinas leiaf i gynnal y digwyddiad hwn. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, petawn yn cymryd yr ardal ehangach—Cymoedd de Cymru, wrth gwrs, a'r boblogaeth fawr yno—mae'n debyg nad hi yw'r ardal leiaf. Ond, yn amlwg, er mwyn cynnal digwyddiadau fel hyn yng Nghaerdydd mae angen i’r seilwaith fod yn ehangach na dim ond y ddinas ei hun—mae angen iddo gynnwys y Cymoedd, gan gryfhau’r seilwaith trafnidiaeth dros ardal ehangach. Felly, pa ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i sicrhau bod y digwyddiad hwn o fudd i'r ardaloedd cyfagos ehangach, ac, ynghyd â'r hwb hwnnw sy’n angenrheidiol i'r seilwaith, nid yn unig ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr—dim ond nifer cyfyngedig y gallwn ni eu gwneud yn yr ychydig wythnosau nesaf—ond yn y tymor hirach, i gefnogi Cymru i fod yn chwaraewr ar y llwyfan byd-eang ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei frwdfrydedd hefyd? Rwy'n rhannu ei gyffro—roeddwn i ym Mhortmeirion ddydd Sul, a gwelais sioe deithiol Cynghrair y Pencampwyr yn denu nifer fawr o bobl ifanc i'r uned symudol oedd ganddynt, ac, unwaith eto, yn hyrwyddo Caerdydd, gan sicrhau bod y digwyddiad yn berthnasol i bob rhan o Gymru.
Ac, o ran gemau terfynol blaenorol Cynghrair y Pencampwyr, byddwn i'n cytuno—mae’r lleoedd lle maent yn cael eu cynnal yn dod yn adnabyddus ledled y byd—nid yn unig yn Ewrop, ond ledled y byd—a bydd atgofion melys iawn am y gemau chwedlonol sy'n cael eu cynnal. Mae Istanbwl yn un sy'n sefyll allan i mi yn bersonol. Roedd gen i ddau frawd a deithiodd, trwy wahanol ddulliau—mewn awyren, trên a char—i Istanbwl. Ond bydd ganddynt atgofion melys am weddill eu bywydau, fel y byddaf innau, er nad wyf yn cefnogi Lerpwl—maen nhw, ond dydw i ddim. Mae fy nhîm i eto i gyrraedd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr, ac, yn anffodus, ni fydd yn un eleni chwaith. Ond mae'n rhywbeth sy'n cipio dychymyg a brwdfrydedd pobl, hen ac ifanc. Ac rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ni fod yn falch iawn ohono, ar hyd a lled Cymru. Rwyf innau’n gobeithio y bydd Gareth Bale yn ddigon ffit, ac y bydd yn rhan o dîm a fydd yn mynd drwodd i’r rownd gynderfynol ac i'r rownd derfynol, ac y byddwn yn gallu ei groesawu i'w ddinas enedigol.
O ran hyrwyddo'r digwyddiad hwn, mae hyn yn rhywbeth a godwyd gan Russell George, ond hoffwn ychwanegu hefyd o ran gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, y bydd hyn yn cynnig cyfle o ddigwyddiad heb ei ail i hyrwyddo Cymru fel gwlad ddeniadol i ymweld â hi, ac i fyw a buddsoddi ynddi. Rydym wedi gweld yn barod, o ran gwefan Croeso Cymru, gynnydd sylweddol yn nifer y defnyddwyr unigryw, o rywbeth tebyg i 2 filiwn dair blynedd yn ôl i 5 miliwn. Rydym wedi gosod targedau newydd ac uchelgeisiol i gynyddu’r ffigur hwnnw ymhellach, a digwyddiadau fel gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr sy’n gallu denu mwy o bobl i’n gwefannau, creu mwy o ddiddordeb yn ein crynodebau Twitter a'n tudalennau Facebook. Rwy’n disgwyl, o ganlyniad i hynny, a'r cynnwys o ansawdd uchel yr ydym yn ei ddarparu i randdeiliaid, y bydd mwy o ddiddordeb yng Nghymru fel cyrchfan gwyliau a lle i fuddsoddi ynddi yn deillio o gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal, a byddwn yn parhau i gynnal, teithiau ymgyfarwyddo i ddylanwadwyr allweddol yn y cyfryngau. A byddwn yn cytuno â'r Aelod bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol i arwain ymdrech tîm Cymru eleni, ac yn y blynyddoedd diwethaf, yn wir, yn y cyfnod cyn yr Euros.
Rwy’n credu bod y cae etifeddiaeth yn rhywbeth y dylai Caerdydd deimlo’n llawn cyffro yn ei gylch a bod yn falch ohono. Penderfyniad i’r awdurdod lleol a’r cynghorau lleol yw sut y byddant yn cynnal ac yn talu am gostau cynnal a chadw cyfleusterau cymunedol allweddol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo yn hyn o beth trwy osod o fewn y rhaglen lywodraethu nodyn i sefydlu cronfa her. Mae hyn yn benodol ar gyfer y grwpiau a sefydliadau cymunedol a allai fod o fudd i weithgareddau chwaraeon a chelfyddydau cymunedol. Rwy'n credu y gallai’r cyfleuster penodol hwn fod yn brif dderbynnydd buddsoddiad y gronfa her.
Byddwn innau’n cytuno bod yr argraffiadau cyntaf yn bwysig, ac mae cyngor Caerdydd ar y grŵp llywio. Cydnabyddir bod yn rhaid i'r ddinas nid yn unig edrych yn lân ac yn daclus, ond hefyd edrych yn fywiog â digonedd o faneri, lliwiau llachar—lliwiau chwaethus hefyd—sy'n cyfleu Caerdydd yn y ffordd y mae’n dymuno cael ei gweld o gwmpas y byd fel lle sy’n llawn diwylliant sy'n croesawu pawb. Ond nid cyngor Caerdydd yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau bod Caerdydd a'r ardal o gwmpas ein prifddinas yn lân ac yn daclus. Rydym ni’n gyfrifol am y cefnffyrdd, ac felly rydym yn sicrhau bod y rhwydwaith cefnffyrdd yn cael ei gadw'n lân ac yn daclus, ond hefyd rwy'n gwybod bod gan Network Rail dimau ychwanegol o’u lluoedd oren ar gael i wneud yn siŵr bod sbwriel yn cael ei godi ar ochrau’r traciau o’r fan hon drwodd i Fryste, Birmingham a Llundain, gan sicrhau bod yr argraffiadau cyntaf hynny y gorau y gallem obeithio amdanynt.
O ran budd i’r gymuned ehangach, yn enwedig cymunedau'r Cymoedd, rwy'n credu bod agor platfform 8 yng Nghaerdydd Canolog wedi bod yn hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gallu denu pobl i mewn i'r brifddinas yn gyflymach ac ar wasanaethau sy'n fwy dibynadwy. Ond mae prosiect £300 miliwn signalau ardal Caerdydd hefyd wedi gwella cydnerthedd ac wedi sicrhau bod pobl yn gallu mynd i gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda mwy o hyder eleni nag a ddigwyddodd o bosibl yn y blynyddoedd blaenorol. Rwy’n credu bod angen i ni ddefnyddio'r digwyddiad hwn, fel yr ydym wedi defnyddio digwyddiadau mawr eraill, fel cyfleoedd enfawr i gyffroi ac ysbrydoli pobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ac rwy'n gobeithio o ganlyniad i'r gwaith yr ydym yn ei wneud, ac y mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ei wneud hefyd gydag ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill, a chyda mannau gwaith, y byddwn yn gweld mwy o bobl yn dod yn fwy egnïol yn gorfforol am fwy o'r amser.
A gaf i ddweud, fel cefnogwr pêl-droed o fri, Ysgrifennydd y Cabinet, fel Rhun rydw innau hefyd yn edrych ymlaen yn ofnadwy wrth feddwl am Gynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd, a chymeradwyaf waith Llywodraeth Cymru wrth helpu i sicrhau hyn. Ddydd Sadwrn, rwyf am fynd yn ôl i Barc Penydarren lle mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr am arddangos cwpan Cynghrair y Pencampwyr yno. Rwy'n credu ei bod yn fenter wych—mynd i glybiau bach fel Tref Merthyr, a bydd cyfle i bobl a chefnogwyr fynd yno a chael tynnu eu llun. Rydw i'n sicr yn gobeithio y byddaf i, oherwydd dyna’r agosaf y bydd cyfle i gefnogwr Bristol City byth fod at y cwpan Ewropeaidd, gallaf ddweud hynny wrthych. Ond efallai ei bod yn fwy priodol y dylwn nodi fod y cwpan Ewropeaidd yn dod i Ferthyr ar achlysur trideg mlynedd ers iddynt guro tîm nerthol Atalanta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ym 1987. Felly, rwy’n credu ei bod yn briodol iawn fod gennym dlws Ewropeaidd arall yn dod yma eleni.
Ond, ynghyd â phopeth arall yr ydych wedi ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch manteision ariannol y gêm derfynol yn dod i Gaerdydd, rwy'n siŵr y byddwch chi’n cymeradwyo’r cynlluniau y gwelwn glybiau fel Merthyr yn cymryd rhan ynddynt, mewn gweithgarwch cymunedol a phêl-droed yn y gymuned. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddatblygu y math hwnnw o bêl-droed yn y gymuned. Felly, roeddwn i’n awyddus i ddilyn ymlaen o'r cwestiwn a ofynnodd Rhun a rhywbeth yr ydych chithau eisoes wedi ei grybwyll. A allech chi ymhelaethu mwy ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo clybiau fel Merthyr i ddatblygu eu gweithgareddau cymunedol, yn enwedig ar gyfer genethod, y mae'r clwb wedi cael anhawster i’w denu i raddau helaeth.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad a dweud fy mod i'n edmygu'n fawr y ffordd y mae Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful wedi ymwreiddio mor ddwfn yn y gymuned? Mae'n lle sy'n uno pobl, mae'n rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl ac mae bob amser yn bleser ymweld â'r clwb penodol hwnnw. Gwn fod Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful hefyd yn arloesol iawn ac yn cynnal pêl-droed cerdded ar gyfer yr henoed, ac rwy'n credu bod hyn yn enghraifft wych o sut y gall pêl-droed fod yn berthnasol i bawb o bob gallu corfforol.
Rwyf hefyd yn credu bod gan glybiau pêl-droed ran hollbwysig i’w chwarae o ran gallu rhoi ymdeimlad o gymhwysedd a hyder i bobl drwy sefydlu rhaglenni gwirfoddoli, rhaglenni llysgenhadon ieuenctid a rhaglenni cyflogadwyedd. Gwn fod enghreifftiau da o hyn nid yn unig ar draws Cymru, ond hefyd ymhellach i ffwrdd. Yn wir, yn yr Alban, ymwelais â nifer o glybiau yn Glasgow sydd wedi dod yn ganolfannau ar gyfer rhaglenni gweithgarwch corfforol a chyflogadwyedd cymunedol. Yn aml, gall sefydliadau chwaraeon cymunedol weithredu fel magnet i’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg neu hyfforddiant ffurfiol a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i ennill sgiliau a phrofiad sy'n eu sefydlu’n iawn ac yn llawn ar gyfer y byd gwaith. Felly nid oes gen i unrhyw amheuaeth ynglŷn â gwerth mawr clybiau pêl-droed ar hyd a lled Cymru o ran gwella bywydau pobl, eu lles, eu rhagolygon gwaith ac, wrth gwrs, eu lefelau o weithgarwch corfforol.
Ond rwyf hefyd yn credu bod yr Aelod wedi amlinellu stori hynod berthnasol yn ymwneud â’r dathliad trideg mlynedd ac y byddai, efallai, yn rhywbeth y dylid ei drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn Chwedlau, gan fy mod yn credu ei bod yn stori arbennig o bwysig y dylid ei hadrodd, a gobeithio y bydd yr Aelod yn parhau i’w hailadrodd mewn lleoliadau eraill.
O ran ymgysylltu, gwn fod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol a chwaraeon yn awyddus iawn i sicrhau bod mwy o ferched ifanc a genethod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon dros y blynyddoedd diweddar ar draws Cymru, ond mae her o hyd gyda chynnal lefelau gweithgarwch unwaith y bydd geneth yn cyrraedd tua 13 neu 14 oed, ac yna byddwn yn gweld gostyngiad sydyn. Yr hyn y mae Chwaraeon Cymru wedi ei ddatblygu yw cyfres o raglenni wedi'u hanelu at sicrhau bod genethod yn ystyried bod ffurfiau o weithgarwch corfforol yn fwy atyniadol a'u bod yn gallu cael mynediad at wahanol ffurfiau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol a allai fod yn anffurfiol yn yr oedran allweddol hwnnw, fel nad ydynt yn llithro oddi ar risiau symudol gweithgarwch corfforol. Ond rwy’n gwybod, gyda'r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i Chwaraeon Cymru, fod cwestiwn allweddol yn cael ei ofyn: pa fath o chwaraeon a gweithgarwch corfforol sydd fwyaf deniadol i'r grwpiau yn ein poblogaeth nad ydynt ar hyn o bryd yn cymryd ddigon o ran mewn gweithgarwch corfforol? Rwy'n credu y bydd hwn yn faes polisi hynod bwysig i Lywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rydym yn gwybod bod gan fentrau fel bond llesiant Cymru, estyniad o ragnodi cymdeithasol, botensial mawr i wella lefelau ffitrwydd yn ein poblogaeth, ond er mwyn gwneud y mwyaf o’r potensial, mae angen i ni sicrhau bod sefydliadau chwaraeon cymunedol yn prynu i mewn, fel y gallant weithredu fel ein partneriaid cyflenwi sylfaenol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hoffwn ni yn UKIP longyfarch pawb sy'n ymwneud â dod â’r digwyddiad hynod nodedig hwn i Gymru. Bydd yr hwb i'r economi o’r cannoedd ar filoedd a fydd yn ymweld â Chaerdydd yn sylweddol, a hoffwn adleisio datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynnal un o'r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon a'i effeithiau pellgyrhaeddol o ran taflu delwedd Cymru fel hunaniaeth genedlaethol ar wahân ledled y byd, ac ni ellir goramcangyfrif effaith hynny. Gallwn fod yn sicr y bydd yn gwella proffil Cymru mewn cyd-destun gwirioneddol fyd-eang gydag effaith ddramatig bosibl ar ein diwydiant twristiaeth dros y blynyddoedd nesaf. Bydd, wrth gwrs, hefyd yn helpu i hwyluso dyheadau Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad cyfan i werthu brand Cymru ar draws y byd, a'r cyfleoedd economaidd y bydd hynny’n ei gynhyrchu. A gaf i fanteisio ar y pwynt hwn i ganmol Llywodraeth Cymru ar y gwaith paratoi helaeth ar gyfer y digwyddiad enfawr hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd y cynlluniau wrth gefn yr ydych wedi eu rhoi ar waith yn sicrhau y bydd yn mynd y ffordd orau bosibl? Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a chroesawu ei gefnogaeth ar gyfer gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr? Rwy’n credu ei fod yn ddigwyddiad sy’n ennyn cefnogaeth ar draws y Siambr gyfan hon, ac yn un yr wyf yn gwybod y bydd llawer o Aelodau yn awyddus i’w wylio a hyd yn oed gymryd rhan ynddo, oherwydd bydd miloedd o gyfleoedd i wirfoddoli, a hyd yn oed os nad ydych yn gwirfoddoli, dim ond bod yn y ddinas. Os ydych yn cynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd, byddai croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr yn rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn ei werthfawrogi yn fawr iawn.
Mae manteision economaidd y digwyddiad hwn yn enfawr. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r effaith economaidd uniongyrchol o £45 miliwn i’r economi leol, ond rydym hefyd yn amcangyfrif, o ganol mis Mawrth, bod gwerth cyfatebol hysbysebu’r digwyddiad yn dod i Gaerdydd gyfystyr â rhywbeth yn debyg i oddeutu £15 miliwn yn Ewrop yn unig. Ar raddfa fyd-eang, ni allaf ddychmygu faint y mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynhyrchu o ran sylw cyfatebol hysbysebu, ond tybir ei fod ymhell y tu hwnt i unrhyw ddigwyddiad undydd arall y gallem obeithio ei gynnal yng Nghymru. Ac rwy'n hyderus y bydd manteision hysbysebu cyfatebol y digwyddiad hwn erbyn i gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyrraedd, gyfystyr â phell dros £20 miliwn yn Ewrop. Rydym hefyd wedi cyrraedd ymhell o ran hashtag #RoadToCardiff. Credwn, o ddechrau mis Mawrth, fod yr hashtag wedi cyrraedd mwy na 25 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd. Dyma rywbeth na all arian ei hun ei brynu. Ni all hyn ond ddigwydd—ni ellir ond gwerthfawrogi a gwireddu hyn mewn ystyr gadarnhaol—drwy gynnal digwyddiadau mawr.
Y tro cyntaf i mi erioed ymweld â Chaerdydd oedd i weld y Pab yn, rwy'n credu, 1980 neu 1981. Nid oedd y digwyddiad hwnnw hyd yn oed mor fawr ag y bydd y digwyddiad hwn i Gaerdydd. Mae hwn yn ddigwyddiad aruthrol o fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ddau dîm terfynol, ond rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr â Chaerdydd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.